Diolch am dy gyfraniad. Fodd bynnag, mae angen cyflwyno dadl pam nad yw'r darn a ddileaist yn addas. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:35, 22 Ionawr 2015 (UTC)Ateb

Rwyt wedi dadwneud y frawddeg am yr ail dro. Dylid cyflwyno'th ddadl, ar dudalen Sgwrs yr erthygl. Erthygl ar y Treigladau yw hon, ac fel pob erthygl ar Wicipedia, dylai'r cyflwyniad fod yn ddealladwy i drwch y darllenwyr ac i sawl lefel. Gall corff yr erthygl fod yn fwy arbenigol. Un o'r pethau y dylid cyfeirio ato yma ydy pwrpas ac effaith y treiglad, nid esboniad gwyddonol yn unig. Y brws bras. Os oes gen ti gynnig gwell, yna mae croeso i ti ei gyflwyno yma, er mwyn i ni ei drafod. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:10, 31 Ionawr 2015 (UTC)Ateb

Dyma dudalen sgwrs ar gyfer defnyddiwr anhysbys sydd heb greu cyfrif eto, neu nad yw'n ei ddefnyddio. Felly mae'n rhaid inni ddefnyddio'r cyfeiriad IP i'w adnabod. Mae cyfeiriadau IP yn gallu cael eu rhannu rhwng nifer o ddefnyddwyr. Os ydych chi'n ddefnyddiwr anhysbys ac yn teimlo'ch bod wedi derbyn sylwadau amherthnasol, crëwch gyfrif neu mewngofnodwch i osgoi cael eich drysu gyda defnyddwyr anhysbys eraill o hyn ymlaen.