ApGlyndwr
Diolch am y sylwadau cynhwysfawr ar y sgwrs "Cadair Idris". Yn fy marn i, nid yw enwau lleoedd yng Nghymru, o angenrheidrwydd, yn dilyn rheolau ieithyddol cyfoes. Mae nifer o enwau wedi'u llygru wrth i'r Cymry geisio chwilio am gyfieithiad yn ôl i'r Gymraeg wedi i'r fersiwn Saesneg oroesi am ganrifoedd. Mae fy nghyfraniad diweddar ynglŷn â Lecwydd yn dangos y dryswch yma. Er bod y gair "cader" wedi hen ddiflannu o'r geiriaduron cyfoes, mae'r gair yn codi'n aml mewn enwau lleoedd yng Nghymru. Dylid parchu hynny, a chanolbwyntio mwy ar darddiadau o'r hen iaith yn hytrach na cheisio bathu enwau newydd sy'n colli gwir ystyr tarddiad yr enwau gwreiddiol.ApGlyndwr (sgwrs)
O.G.D.
golyguGweler yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:13, 20 Rhagfyr 2014 (UTC)
Catrin ferch Owain yn bodli'n barod
golyguCyn mynd ati i lunio erthygl, efallai y byddai'n syniad i ti chwilio os oes erthygl yn bodoli'n barod. Gweler Catrin ferch Owain Glyndŵr; dw i felly wedi dileu'r erthygl newydd gen ti drwy ei droi'n ailgyfeiriad. Gobeithio fod hyn yn iawn gen ti; croeso i ti ehangu'r erthygl wrth gwrs. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:08, 29 Ionawr 2015 (UTC)
- Diolch. Roeddwn wedi gwneud smonach wrth geisio gwneud y ddolen i weithio o dudalen OGD. Efallai fy mod yn fwy o rwystr na help wrth edrych at newid y manylion am ei epil. Gwell gadael hyn i ti pan gei amser i gaboli’r manion! ApGlyndwr (sgwrs) 20:30, 29 Ionawr 2015 (UTC)
Gruffudd ab Owain Glyndŵr
golyguHaia. Roedd 'Gruffudd ab Owain Glyndŵr yn bodoli'n barod, felly dw i wedi creu ailgyfeiriad. Paid a phoeni dw i wedi gwneud yr un peth sawl tro - a damio fy hun wedyn! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:03, 1 Chwefror 2015 (UTC)