Shwmae, Bethanhw.nlw! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. Welcome message in English
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 280,437 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes, Deb (sgwrs) 12:58, 10 Ionawr 2020 (UTC)Ateb

Tuduriaid golygu

Rhai sylwadau:

Mae Tuduriaid yn bodoli'n barod. Fel y dywed yr erthygl Gymraeg, mae'r 'Tuduriaid' yn dechrau gydag Ednyfed Fychan. 'Oes y Tuduriaid yn Lloegr' sy'n dechrau gyda chipio coron Lloegr gan Harri Tudur ym Mrwydr Bosworth. Angen glynnu at yr enw 'Owain Tudur' hyd nes bo cytundeb ar y dudalen honno, y gellir defnyddio 'Owen Tudur'. Os mai 'Owen Tudur' sy'n cael ei defnyddio gan CBAC, mae'n dal yn angenrheidiol glynnu at ein orgraff ni ar cywicipedia, nes y caiff enw'r dudalen ei newid. 'Digwyddiadau pwysig teyrnasiad y Tuduriaid' - hoffi hwn; ond mae hefyd angen 'Digwyddiadau pwysig Tuduriaid Penmynydd', gan roi uchafbwyntiau o berspectif Cymreig cyn 1485 ee Cipio Castell Conwy ac wei teyrnasiad Elisabeth I ee dymchwel plas Penmynydd. Prosiect gwych! 2A00:23C6:9912:9E00:7913:2D9E:80AF:709B 07:18, 5 Mawrth 2020 (UTC)Ateb

Efallai gallwn ni'n ymgorffori'r deunydd yn yr erthygl bresennol? Deb (sgwrs) 08:36, 5 Mawrth 2020 (UTC)Ateb