Helo Hogyncymru, mae angen trafod ail-enwi erthyglau lle nad oes gwall amlwg, fel Malws melys. Barn bersonol yw ei fod yn air 'llygredig' - dyma yw'r gair sydd yn cael ei ddefnyddio yn eang. Mae yna hefyd wahaniaeth rhwng y planhigyn a'r danteithyn modern sydd yn deillio ohono. O be alla'i weld mae'r gair morhocys yn ymddangos mewn rhai geiriaduron cynnar yn cyfeirio at y planhigyn Althaea officinalis ond Hocysen y morfa yw'r enw cydnabyddedig amdano. --Dafyddt (sgwrs) 10:58, 4 Medi 2021 (UTC)Ateb

Croeso! golygu

Dw i'n gwybod nad wyt yn newydd ar wici, ond braf dy weld yn ailgychwyn yma! Mae na GROESO mawr i ti wrth gwrs!

Cofion cynnes, Robin aka Llywelyn2000 (sgwrs) 13:02, 6 Hydref 2021 (UTC)Ateb