Mor braf ydy cael pobl o Ynys Mon yn golygu! Croeso! Sian EJ (sgwrs) 10:03, 19 Hydref 2018 (UTC)Ateb

Dy olygiad golygu

Diolch am fynd ati efo Wici - ond mae angen gofal gyda'r iaith. Dyma dy ychwanegiad diweddaraf:

Mae Ademola yn chwarae i tim dan-21 Lloegr - ac oedd yn rhan pwysig o'r tim a ennillodd yr twrnament dan-21 yn Japan yn 2018.

Dw i wedi'i addasu i:

Mae Ademola'n chwarae i dîm dan-21 Lloegr; roedd yn rhan allweddol o'r tîm a ennillodd y twrnament dan-21 yn Japan yn 2018.

Fe weli nad oedd pob treiglad yn ei le; gelli wiro dy waith gyda gwirydd sillafu fel Cysill.

Yn ail, os ydym yn rhoi barn h.y. fod Ademola yn rhan bwysig o'r tîm, yna mae'n rhaid cael cyfeiriad at ffynhonnell lle mae hyn yn cael ei ddweud. Mae'n hynod bwysig fod gwyddoniadur fel Wicipedia yn ddiduedd (heb farn) ac yn wrthrychol.

Dal ati efo'r gwaith da, ond mae angen gofal cyn cyhoeddi unrhyw beth. Ei wiro'n gyntaf, neu ei ddrafftio yn dy Flwch Tywod fyddai orau. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:07, 15 Ionawr 2019 (UTC)Ateb