Sgwrs Nodyn:Angen cywiro iaith

Latest comment: 14 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros

Sadly predictable irony that my attempt at this should contain linguistic errors... "Nodyn = gwrywaidd" - thanks Llywelyn, noted for future reference. Alan 00:07, 9 Chwefror 2009 (UTC)Ateb

Dim probs. Mi symudaist ti'n gyflym i greu'r Nodiadau yma. Mi geisiai gyfieithu'r Nodyn Saesneg am y Ffynhonellau etc yfory. Nos da rwan! Llywelyn2000 00:25, 9 Chwefror 2009 (UTC)Ateb
Sut mae cael hyn i weithio yn iawn fel nodyn ar ddechrau erthygl? Mae'n deud yma "os oes angen cywiro iaith drwy'r erthygl, gyfan yna rhowch ef ar frig y dudalen", ond er i mi adael bwlch o ddwy linell o dano ar ben y dalen yma mae'n dod allan reit ar ddechrau'r llinell agoriadol. Dwi'n meddwl hefyd fod angen rhywbeth sy'n sefyll allan mwy ar gyfer erthygl gyfan, i dynnu sylw pobl: prin bod hyn yn sefyll allan o gwbl. Anatiomaros 22:04, 24 Chwefror 2009 (UTC)Ateb
Dwi wedi creu'r nodyn:Iaith-pennawd ({{Iaith-pennawd}}) i'w rhoi ar frig y dudalen, o flaen unrhyw destun. Digon hawdd rhoi enw newydd arno os oes rhaid trwy ailgyfeirio neu ei ddileu a chreu fersiwn newydd, ond roedd angen rhywbeth gwell na'r nodyn bach tila i dynnu sylw at dudalen gyfan... Anatiomaros 22:14, 19 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Da iawn wir; mae angen y rhybudd yma. Efallai y gelli ei addasu i'r un fformat a hwnnw grewyd gan Rhys a finna er mwyn cysondeb ac er mwyn fy llygaid! Dyma fo'r un wnaethom ni tua pythefnos yn ol: Nodyn:Gwella.
Diolch, Llywelyn. Dwi wedi newid y nodyn yn ôl dy awgrym fel na fydd rhaid i ti a Rhys brynu sbecs newydd :-) Anatiomaros 17:11, 20 Ebrill 2009 (UTC)Ateb


Wela i ddim gwahaniaeth ar wahan i liw cefndir y brws! Gad i ni roi'r ddau wrth ei gilydd i sicrhau cysondeb. Dyma dy un di sy'n nodi fod cangymeriadau ieithyddol mewn erthygl:

 Rhybudd! Mae safon iaith a mynegiant yr erthygl hon yn annerbyniol ac mae angen ei gwella.
Gallai rhannau o'r erthygl, neu'r erthygl gyfan, fod yn anodd i'w deall oherwydd camgymeriadau gramadegol, camsillafu, termau anghywir neu wallau ieithyddol eraill. Mae croeso i chi fynd ati i gywiro'r gwallau hyn.
Mae'r nodyn yma yn rhoi'r erthygl yn y categori Tudalennau â phroblemau ieithyddol.

A dyma Nodyn Rhys a minnau sy'n nodi cangymeriadau mewn erthygl - a'r bygythiad y bydd yr erthygl yn cael ei dileu o fewn wythnos oni bai fod y cangyms yn cael eu cywiro:


Ffwrdd a fi i Spexsavers Wrecsam felly! Llywelyn2000 22:26, 21 Ebrill 2009 (UTC)Ateb

Safia dy geiniogau prin, mae'n edrych yn iawn rwan, gobeithio! Anghofio newid maint y ffont wnes i. Anatiomaros 22:35, 21 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Gwych! Dwi'n hofi'r dull hawdd o ganfod y tudalennau 'Iaith-pennawd'. Beth am wneud yr un peth gyda'r Nodyn:Gwella? Oes angen cysoni / newid rywfaint ar eiriad y naill neu'r llall dwad? Llywelyn2000 22:41, 21 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
A deud y gwir mae angen categorïau perthnasol hefyd, ond dwi ddim wedi gweithio allan y lle gorau i'w rhoi nhw eto (angen categori arall er mwyn y categoriau hyn, o bosibl). Rhywbeth i'w wneud eto pan gaf gyfle. Am y geiriad, mae'n hawdd rhoi sglein ar hynny wrth fynd ymlaen - dwi ddim yn gweld fod rhaid i nhw fod yn rhy debyg i'w gilydd ond wrth gwrs mae croeso i ti awgrymu gwelliant neu newid pethau... Gyda llaw, wyt ti wedi gweld fy neges yn Wicipedia:Y Caffi/25,000 erthygl? Anatiomaros 22:55, 21 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
ON Mae 'na nodyn newydd arall hefyd: Nodyn:Amlygrwydd. Sylwadau? Mae angen gwaith ar y dudalen gysylltiedig (Wicipedia:Amlygrwydd), sy'n "eginyn" wnes i greu ar frys, i lenwi bwlch... Anatiomaros 23:00, 21 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Angen cywiro iaith".