Ieithoedd Brythonaidd De-orllewinol
(Ailgyfeiriad o Ieithoedd-proto Brythonaidd De-orllewinol)
Mae Ieithoedd Brythonaidd De-orllewinol yn ieithoedd Celtaidd a arferwyd eu siarad yn Ne-orllewin Ynys Prydain ac yn Llydaw yn dilyn Brwydr Deorham yn 577. Cyn hynny roedd yr ieithoedd fwy neu lai yn un, ond esblygon nhw ar wahân i fod yn: Gernyweg, a Llydaweg.
Hyd yn oed rhwng 800 a 1,100 OC, roedd yr Hen Gernyweg a'r Hen Lydaweg yn union yr un fath ac yn debyg iawn i'r Gymraeg a'r dafodiaith Cymbrieg a siaradwyd yn yr Hen Ogledd.
Mae rhai o'r newidiadau yn y sain a wahaniaethodd yr Ieithoedd Brythonaidd De-orllewinol oddi wrth y Gymraeg yn cynnwys:
- codi'r */(g)wo-/ i /(g)wu-/ mewn sill cyn-donydd (nid oedd codiad yn y Gymraeg)
- blaenu'r */ɔː/ i /œː/ (newidiwyd i ddeusain /aw/ yn Gymraeg)
- blaenu'r */a/ i */e/ cyn */iː/ neu */j/ mewn sill olaf hen (newidiwyd i ddeusain /ei/ yn Gymraeg)
Mae gwahaniaethau sylweddol eraill i'w cael yn y Cymraeg, na ddigwyddodd yn yr ieithoedd Brythonaidd De-orllewinol, megis datblygiad yr affrithiol ochrol alfeolaidd di-lais /ɬ/.
Enghreifftiau o'r iaith
golygu- Nedelek Lauen - Nadolig Llawen
- Mur ras - Diolch
Gweler hefyd
golygu- Brythoneg a Chymbrieg
- Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg
- Cymraeg Cynnar: 550 - 800
- Hen Gymraeg: 800 - 1100
- Cymraeg Canol: 1100 - 1400
- Gwyddor Seinegol Ryngwladol
Cyfeiriadau
golygu- Jackson, Kenneth (1953). Language and History in Early Britain. Edinburgh University Press
- Schrijver, Peter (1995). Studies in British Celtic Historical Phonology. Rodopi. ISBN 90-5183-820-4
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) [1] Archifwyd 2008-04-22 yn y Peiriant Wayback - Gwefan am yr iaith