Wicipedia:Y Caffi/25,000 erthygl
Dyma dudalen arbennig ar gyfer trafod ein cynlluniau ar gyfer hyrwyddo'r Wicipedia a chael nawdd a chyhoeddusrwydd wrth i ni nesháu at 25,000 o erthgylau. Cafwyd trafodaeth addawol yn y Caffi o'r blaen wrth gyrraedd 20,000 ond oherwydd diffyg amser collwyd y cyfle: rhoddir copi o'r drafodaeth yma fel man cychwyn. Ychwanegwch eich sylwadau ac awgrymiadau yma ar waelod y dudalen, os gwelwch yn dda, yn hytrach nag yn y Caffi (i arbed lle a chadw popeth gyda'i gilydd).
Archif (Y Caffi: 2008)
golyguNifer y Defnyddwyr = ymgyrch am nawdd?
golyguOes 'na ddata wedi'i gasglu dros y blynyddoedd diwetha ynglŷn â niferoedd defnyddwyr Wici Cym?
Yn ail, Oni ddylai'r brifysgol / Bwrdd yr Iaith ayb gyflogi Anatiomaros, Rhion, Alan, Deb, Lloffiwr ayb i wneud hyn yn broffesiynol? Mae Wici am ddim i'r byd mawr crwn ond mae'r Gwyddoniadur diweddar yn gyfyng ei wybodaeth a'i apêl... ac yn £75!!! Llywelyn lll 21:43, 21 Gorffennaf 2008 (UTC)
- Mae 'na restr o ddefnyddwyr cofrestredig yn y Tudalennau arbennig (gwaelod y blwch offer ar y chwith <<<<). Siwr gen i fod na ystadegau ar gael trwy metawici neu yn ein meddalwedd ni hefyd. Buasai'n braf yn wir tasai'n bosibl cael un o'n cyrff mawr i dalu rhai o ni am wneud y gwaith, ond yn anffodus dwi ddim yn meddwl fod hynny'n debyg o ddigwydd (buasai yn erbyn rheolau'r wicipedia hefyd). Ar y llaw arall mae pawb yn rhydd i gyfrannu'n ariannol i'r wicipedia.... Gair bach yng nghlust pwy bynnag sy'n rhedeg y Bwrdd Iaith erbyn hyn? A dwi'n cytuno'n llwyr am y Gwyddoniadur Cymreig, er ei fod yn braf gweld cyhoeddiad o'r fath dydi hi ddim fel tasa ni'n brin o ddeunydd academaidd am Gymru - beth am BOPETH ARALL? (gweler hefyd fy "rant" bach uchod yn yr adran am gyhoeddusrwydd ayyb!). Ond fel 'na mae hi yng Nghymru bach, mae'n debyg. Anatiomaros 22:03, 21 Gorffennaf 2008 (UTC)
- Diddorol. Tua 2000 wedi trafferthu i gofrestr fel defnyddiwr! Faint sydd wedi darllen / defnyddio Wici felly? Pum gwaith gymaint? Mi af am dro i chwilio. Yn y cyfamser efallai y dylai'r Academi ddefnyddio Wici i ryddhau'r testun gyda grant gan Y Loteri Genedlaethol, Y Cyngor Celfyddydau fel yr awgrymi - i Wici. A grant arall i'w farchnata yn y Steddfod, ar y teledu ayb (gweler uchod). Llywelyn lll 22:26, 21 Gorffennaf 2008 (UTC)
- O feddwl cyn lleied sy'n cyfrannu, dw i'n amau pa mor gywir ydy'r ffigwr aelodau cofrestredig, a'i botiau ydy nifer sylweddol ohonynt dybed? Sgwn i oes modd gweld faint o wahnol ddefnyddiwyr (cofrestredig neu beidio, ac eithrio botiau) sy'n gwneud golygiadau pob mis.
- Efallai bod modd clymu sefydliadau addysg mewn i'r peth heb fynd yn groes i reolau talu am olygu.
- Er mai prinder erthyglau yn yr iaith sydd yn hytrach nag am yr iaith, dw i'n meddwl byddai'n syniad holi pob adran Gymraeg/Hanes Cymru prifysgolion Cymru a gofyn beth am grybwyll i'w myfyrwyr eu bod yn cyfrannu o leaif un erthygl at y Wici Cymraeg yn seiliaedig ar eu gwaith cwrs
- Soniodd athro TG wrthai ('Duw' ar maes-e) ei fod yn ystyried gosod erthygl ar wicipedia (ar bwnc fel gwyddoniaeth/daearyddiaeth) fel rhan o waith cwrs myfyrwyr 6ed dosbarth, gany byddai'n ticio sawl blwch (TG, iaith Cymraeg + pwnc dan sylw)
- Gan bod prinder adnoddau dysgu yn Gymraeg, beth am ofyn i CBAC neu aelodau UCAC i weld os oes mod cyd-lynu ehangiad erthyglau/erthyglau newydd yn ymwneud â beth sy'n cael eu dysgu (gwyddoniaeth, hanes, daearyddiaeth ayyb). Efallai gelli'r cael slot mewn cynhadledd neu rhywbeth?
- Y gamp cyntaf yw dod o hyd i rhywun yn y sefydliadau hyn fyddai'n gweld a deall gwerth y peth yn gyntaf, ac iddyn nhw wedyn berswadio aelodau eraill o'u seydliadau.--Ben Bore 10:09, 22 Gorffennaf 2008 (UTC)
- Diolch am yr awgrymiadau adeiladol, Ben Bore. Rwyt ti'n iawn am y ffigurau am gyfranwyr cofrestredig; mae nifer yn dod yma ac yn cofrestru ond am ryw reswm neu'i gilydd yn cyfrannu dim wedyn ac mae 'na fots a phobl o wicipedau iaith eraill hefyd (dod yma i roi dolenni ayyb, heb fedru Cymraeg). Y gwir ydyw does gennym ni ddim byd llawer i'w frolio ar hyn o bryd am nifer y cyfranwyr, ond y posibiliadau sy'n bwysig. Dwi'n meddwl ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt lle mae'r sylfeini wedi eu gosod yn bur gadarn, ond rwan mewn gwirionedd y mae'r gwaith go iawn yn dechrau. Yn anffodus dwi ddim yn nabod neb yn bersonol a allai helpu yn y cyfeiriadau uchod, h.y. sy'n aelodau dylanwadol o gyrff addysg ayyb. Wyt ti'n nabod rhywun? Fyddet ti'n fodlon cysylltu ag un o'r sefydliadau, fel athrawon.com, ar ran y wicipedia? Braf gweld y drafodaeth yma'n datblygu a gobeithio y daw rhywbeth ohoni. Ar lefel fwy syml, beth am bob un ohonom ni ysgrifennu llythyr byr at ei bapur bro lleol yn deud beth ydy'r wicipedia ac annog cyfraniadau? Mae pob cyhoeddusrwydd, mawr a bach, yn faen i'r wal. Anatiomaros 16:40, 22 Gorffennaf 2008 (UTC)
- Gadewch i ni wneud dau beth: 1. Cyd-lunio llythyr addas ag gyfer y cyrff. 2. Rhanu'r gwaith fel a ganlyn (newidiwch y tabl!!!):
Corff | Gwirfoddolwr | Canlyniad / Adborth]]) |
Papurau Bro | Llywelyn2000 | ____ |
Arall | ____ | ____ |
Arall | ____ | ____ |
UCAC | Ben Bore | ____ |
Awdurdodau Addysg | ____ | ____ |
Yr Eisteddfod Genedlaethol | ____ | ____ |
Loteri Cenedlaethol | ____ | ____ |
Canolfan Bedwyr | ____ | ____ |
Eisteddfodau Lleol | Lloffiwr | ____ |
Llywelyn lll 23:00, 22 Gorffennaf 2008 (UTC)
- Dyma'r dudalen ystadegau am Cy:Wicipedia ar y safle ystadegau - [1]. Mae modd mynd atynt trwy bwyso ar y rhif erthyglau yn y paragraff cyntaf ar 'Hafan', a dilyn y cyswllt at y safle ystadegau. Byddai'n gret petai rhywun i gael a chwant ail-wampio'r dudalen Wicipedia:Ystadegau_Wicipedia_Cymraeg arno - mae cyswllt at hwn o'r adran 'Cymorth a Chymuned' ar 'Hafan'. Lloffiwr 20:23, 22 Gorffennaf 2008 (UTC)
- Rwyn credu bod y syniad o gyhoeddi Gwyddoniadur Cymru ar Wicipedia yn non-starter llwyr oherwydd yr hawlfraint ar y cynnwys. Am y syniad o gael gweithwyr proffesiynol ar Wicipedia Cymraeg, rwyn ategu'r hyn a ddwedodd Anatiamaros, bod hyn yn mynd yn erbyn ysbryd gwirfoddol wici. Fe gafwyd system bounty am rai misoedd ar Betawiki er mwyn hyrwyddo cyfieithu'r rhyngwyneb i ieithoedd llai eu defnydd yn y trydydd byd - ar gyfer ieithoedd heb lawer o adnoddau ysgrifenedig a chymunedau tlawd oedd hwn. Fe fyddai yn siwr o fod yn syniad da i gysylltu â Chanolfan Bedwyr wrth weithio ar y rhyngwyneb - mae hyn wedi bod ar fy meddwl ers tro - rwyf wedi cael trafferth yn ymuno â'r rhwydwaith WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCmail - ac heb gael amser i fynd ati i sorto hwn - popeth yn ei dro fydd raid. Am y gwahanol ffyrdd o hybu cyfrannu at Wicipedia - beth am gynnig testun i eisteddfodau lleol - creu erthygl ar bwnc o ddiddordeb lleol - ar ba bynnag ffurf sy'n gyfleus (ar bapur, ar ffeil Word)? Rwyn bwriadu cysylltu â threfnwyr yr eisteddfod lleol i mi. Lloffiwr 20:58, 22 Gorffennaf 2008 (UTC)
- Wel dyna ddiddorol ydy'r dudalen ystadegau! Beth mae'n ei ddangos? - Fod Wicipedia'n tyfu o nerth i nerth. Gwych! Chydig o farchnata rwan! ac ymlaen!
- Rwyn bwriadu cysylltu â threfnwyr yr eisteddfod lleol i mi. O ran gwybodaeth, dw i newydd sylwi ar raglen Eisteddfod Genedlaethol 2008 bod cystadleuaeth llenyddol [Cofnod] Blog (hyd ar 200 o eiairau), gyda gwobr o £200! Beirniadaeth dydd Mercher.--Ben Bore 07:50, 25 Gorffennaf 2008 (UTC)
(ailosod y marjin!) Am daflu rhyw ddwy geiniog bach i fewn...
- Rydw i wedi bod yn llawer fwy gweithgar ar y wicipedia Saesneg na'r un Gymraeg, mae'n rhaid i mi gyfaddef. Roedd yn haws o lawer i mi ddysgu'r grefft o ymchwilio, amgodio, ac addasu pethau ar honno, gan fod cymaint mwy o cyfraniadau a strwythur yno'n barod. Erbyn dechrau'r haf ro'n i wedi 'cwblhau' fy mhrosiect mawr cyntaf, sef datblygu erthygl w:cy:Anglesey Central Railway ers mis Rhagfyr, hyd at gydnabyddiad 'Erthygl Da'. A heno (wedi bod ar wyliau) dwi wedi dechrau ar ei gyfieithu i'r Gymraeg (rhyw chwarter wedi ei wneud hyd yn hyn). Y drafferth mwyaf y gwelaf gyda cyfrannu at y wicipedia Cymraeg yw'r absenoldeb o erthyglau eraill i gysylltu â, a'r unig ateb i'r broblem yma yw i'w sgwennu nhw. Felly dyma addewid personol i dynnu fy mys allan a dechrau sgwennu!
- O ran geiriaduron eraill, mae'n hollol anghyfreithiol i gopio'r Gwyddoniadur Cymraeg yma neu Wyddoniadu Mawr y Plant), ond mae'n berffaith dderbyniol i'w aralleirio neu ei ddyfynnu (ond rhaid bod yn ofalus tra'n aralleirio: mae angen ail-sgwennu'r ffeithiau yn dy eiriau dy hun a dyfynnu'r ffynhonell i osgoi plagarism (methu cofio'r Gymraeg, a diffyg egni i godi a nôl geiriadur).
- Marchnata? Mae na Eisteddfod Genedlaethol mawr yn ymlwybro i Gaerdydd ymhen rhyw bythefnos. Allem ni ddim fforddio stondin, ond mae modd codi posteri ar y maes. Mae logo wicipedia mewn lliwiau hwylus ar gyfer argraffu du a gwyn, a fyddai'n eithaf rhad i wirfoddolwr brwdfrydig eu hargraffu. Gallai pawb gyfrannu at ddylunio posteri, ac os oes pobl fyddai'n fodlon papuro'r maes yn ystod y penwythnos gyntaf, fe fyddai ymwybyddiaeth yn codi'n syfrdanol. Gallem greu pamffledi neu flyers bychain, a gofyn i stondinau caredig fel Bwrdd/Cymdeithas yr Iaith a.y.y.b. os y byddent yn fodlon i ni roi rhai ar eu byrddau. Mae gen i rhai syniadau ar gyfer dyluniadau, ond mae hi'n rhy hwyr heno i wneud llawer rwan.
English summary:
- I found it easier to learn 'wikicraft' on the English wikipedia, but I promise to pull my weight here now.
- We can always quote other encyclopaedias, just not copy them.
- Some posters and flyers would be ideal for the upcoming National Eisteddfod
Ansbaradigeidfran 22:54, 24 Gorffennaf 2008 (UTC)
20,000 Erthygl(1)
golyguBeth yw'r tebygrwydd o gyrraedd 20,000 o erthyglau erbyn Ionawr 2009? Mae dal 1,000 o erthyglau cyn cyrraedd y nôd ond oes yna bosibilrwydd gwnewn ni gyrraedd yno erbyn dechrau 2009? (Glanhawr 17:25, 6 Hydref 2008 (UTC))
- Gyda thipyn o lwc byddem yn cyrraedd y nod cyn hynny. Mae gennym ni dris mis bron i wneud hynny - sy ddim ond tua deg erthygl y dydd ar gyfartaledd. Pe bai rhaid mae 'na ddigon o bethau fel taleithiau a dinasoedd lle does dim disgwyl llawer mwy am rwan na pharagraff byr a llun neu fap - dwi'n gwybod o brofiad ei bod yn bosibl taro erthyglau fel 'na allan yn gyflym, hanner dwsin neu ragor mewn awr efallai. Fel pawb arall dwi wedi bod yn cadw llygad ar y cownter bach ar y dudalen flaen ac yn dechrau meddwl "be 'wnawn ni i ddathlu?", h.y. oes 'na siawns o ennill tipyn o gyhoeddusrwydd er lles y Wicipedia? Unrhyw syniadau/cysylltiadau? Gair yng nghlust rhywun sy'n gweithio yn y cyfryngau, efallai?
- Pwynt bach arall, cysylltiedig. Mae 'na eginyn erthygl ar Ein Wici Bach Ni ar y wicipedia Saesneg. Bron iawn iddo gael ei dileu ac mae'r person a gynigiodd hynny wedi bod yn ôl yn gyson ers methu gwneud hynny ac yn ceisio tocio'r erthygl. Dwi'n diweddaru rhif yr erthyglau yn gyson ac yn edrych ymlaen at fedru nodi "it now has over 20,000 articles, the Xth wikipedia to reach that figure" neu rywbeth tebyg. Buasai'n dda pe bai un ohonom ni yn gwybod am unrhyw gyfeiriadau at y Wicipedia Cymraeg yn y cyfryngau neu ar y we yn y gorffennol ac yn medru ychwanegu'r wybodaeth (DS rhaid cael cyfeiriad neu fydd y boi 'na yno fel fflach i'w ddileu!).
- Yn y cyfamser, ymlaen am yr 20,000 (cyntaf!). Anatiomaros 18:01, 6 Hydref 2008 (UTC)
- Es i ar y ddolen rhoddoch chi a gwelais i fod ein Hwicipedia yn cael ei chyfeirio ati ar y teledu? Ydy hynny'n wir?? A pheidiwch edrych arna'i am gysylltiadau gyda chyfryngau Cymraeg, sgen i ddim cysylltiadau. Fallai gallen ni anfon e-bost at S4C pan wnewn ni gyrraedd y 20,000 a gofyn am sôn fach ar y Newyddion Cymraeg neu rhywbeth, fallai allai hi fod yn ddathliad o garreg filltir, stori newyddion fallai am y cyfryngau Cymraeg sy'n ffynnu a thyfu. Gewn ni weld..(Glanhawr 18:25, 6 Hydref 2008 (UTC))
- Dw i wedi cysylltu ag un o gyfranwyr Golwg neithiwr i holi os oes modd ffeindio allan os bu erthygl amdano yn y gorffenol, ac os ddim beth am gael un rwan i nodi ein bod yn agosau at y 20,000. Gyda llaw, dyma ddelwedd ddefnyddiwyd ar y Wicipedia Basgeg yn ddiweddar y nodi eu bod wedi cyrraedd 30,000 erthygl - efallai gallwn ei addasu ar gyfer ymgyrch 'Apêl 20,000'? Unrhyw un yn dda efo delweddau.--Ben Bore 07:58, 7 Hydref 2008 (UTC)
- Dwi newydd gweld hyn rwan, Ben. Gest di ateb gan Golwg? Tybed a fedri di rhoi'r manylion yn yr erthygl ar "en." - dydi hi fawr o beth ar hyn o bryd ond o leiaf mae'n un o'r ychydig lefydd sy gennym ni i gyfeirio pobl i fan'ma (ac efallai cyfrannu, pwy a ŵyr?). Gobeithio bydd gan Golwg ddiddordeb yn stori'r 20,000 hefyd. Edrych ymlaen at glywed eu hateb. Anatiomaros 20:12, 10 Hydref 2008 (UTC)
- Newydd sylwi bod y Wicipedia yn cael ei grybwyll yn y rhifyn diwethaf o Golwg (Cyfrol 21, Rhifyn 7 16.10.08 tud. 30), ond i ddweud y gwir dw i'n eitha siomedig. Mae'n cael ei grybwyll yn yr adran Jac-codi-baw yn y cefn, ond am fod rhai cyfrannwyr o'e Wikipedia eisiau dileu'r erthygl amdano - tra roeddwn i'n meddwl byddai wedi bod yn sail erthygl ynddoi hun. O wel, o leaif mae wedi ei grybwyll rwan.--Ben Bore 07:46, 21 Hydref 2008 (UTC)
- Yn ôl FAQ'r Main Page Saesneg bydd hawl gennym gael ein rhestru ar Hafan y Wicipedia Saesneg yn yr adran ieithoedd eraill ar ôl cyrraedd 20,000 o erthyglau (mae'r canllawiau hefyd yn gofyn am "ddyfnder" o 5, ac mae gan ein Wicipedia ni ddyfnder o 19). —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 14:06, 24 Hydref 2008 (UTC)
- Less than 500 to go..... Paul-L 14:16, 2 Tachwedd 2008 (UTC)
25000 o erthyglau cyn hir. Yden ni'n barod??? Rwan ydy'r amser i baratoi ar gyfer y wasg.
- "25000 o erthyglau cyn hir. Yden ni'n barod??? Rwan ydy'r amser i baratoi ar gyfer y wasg." Clywch clywch! Gwregyswch! Ymbaratown ar frys! Unrhyw syniadau??? Llywelyn2000 23:34, 19 Chwefror 2009 (UTC)
20,000 erthygl(2)
golyguRydym o fewn rhyw 50 erthygl i gyrraedd yr 20,000 bellach - fe ddylem ei gyrraedd erbyn diwedd yr wythnos. Oes gan rywun syniadau sut y gellid defnyddio hyn i gael cyhoeddusrwydd? Rhion 20:03, 18 Tachwedd 2008 (UTC)
- 19 897 oedd ar y rhestr eiliad yn ol. Oes gen ti wybodaeth fewnol (cyfrin!) neu pam y gwahaniaeth? Llywelyn2000 20:30, 18 Tachwedd 2008 (UTC)
- Mae'r meddalwedd wedi dal i fyny: 19,949 rwan. Rhywsut neu gilydd mae hyn wedi dod yn sydyn iawn (fel Llywelyn doeddwn i ddim wedi sylweddoli mor agos yr ydym!). Mae 'na rywfaint o drafodaeth uchod, tua hanner ffordd i fyny'r dudalen. Cyhoeddusrwydd: beth am anfon sawl e-bost at y cyfryngau, Cymraeg a Saesneg? BBC Cymru, S4C, ITV Cymru, Y Cymro, y
Daisy PlotDaily Post a'r Western Mail? Un cyhoeddiad i'r wasg ar gyfer y cwbl lot. Copïau i'r papurau bro hefyd ac unrhyw sefydliad arall sy'n debyg o gymryd sylw? Piti does gennym ni ddim cyfeiriad e-bost swyddogol i'w ddefnyddio, ond dyna fo. Does dim rhaid iddo fod yn gyhoeddiad maith, dim ond nodi beth ydy'r Wicipedia Cymraeg, pwt o'i hanes a'n gobeithion at y dyfodol efallai - pwysleisio'r ffaith nad oes unrhywbeth tebyg ar gael yn y Gymraeg heddiw ayyb. Beth am lunio drafft yma dros y dyddiau nesaf? Sylwadau? Rhaid i ni weithredu'n reit gyflym - dim gormod o bwyllgora! Anatiomaros 21:21, 18 Tachwedd 2008 (UTC)
- Mae'r meddalwedd wedi dal i fyny: 19,949 rwan. Rhywsut neu gilydd mae hyn wedi dod yn sydyn iawn (fel Llywelyn doeddwn i ddim wedi sylweddoli mor agos yr ydym!). Mae 'na rywfaint o drafodaeth uchod, tua hanner ffordd i fyny'r dudalen. Cyhoeddusrwydd: beth am anfon sawl e-bost at y cyfryngau, Cymraeg a Saesneg? BBC Cymru, S4C, ITV Cymru, Y Cymro, y
- Dw i ddim y gorau am ysgifennu datganiadu i'r wasg, ond dw i wedi llunio'r canlynol, gyda'r gobaith y gall eraill ei addasu, ychwanegu ato. Mae un neu ddau 'ffaith' dw i'n credu dylid eu cynnwys fel 'ethygl X oedd y cyntaf/mwyaf' ayyb.--Ben Bore 09:26, 19 Tachwedd 2008 (UTC)
Mae’r Wicipedia (gwyddoniadur Cymraeg ar-lein) wedi cyrraedd carreg filltir pwysig sef, 20,000 o erthyglau. Er nad yw nunlle’n agos i’r 2 filiwn (?) o erthyglau sydd ar ei gefnder iaith Saesneg, y Wikipedia, mae’n tipyn o gamp o ystyried y gwahaniaeth yn y nifer o siaradwyr. Gwirfoddolwyr sy’n gyfrifol am ychwanegu cynnwys ar y wefan, ac mae croeso i unrhyw un gyfrannu. Mae amrediad eang o erthyglau sydd ddim wedi eu cyfyngu i’r iaith Gymraeg na Chymru. Mae rhai erthyglau’n gyfieithiadau o erthyglau mewn ieithoedd eraill, ond mae yna hefyd erthyglau gwreiddiol Cymraeg, e.e. Diwydiant llechi Cymru. *Yr 20,000 (fed?)erthygl oedd X *Dechreuodd y Wicipedia Cymraeg yn (mis) 200X, *X yw’r erthygl ‘fwyaf/hiraf’ *enwau cysyllt am wybodaeth pellach (pwy sy'n fodlon?)
- Diolch am baratoi drafft; mae'n gymorth mawr i gael rhywbeth i'w drafod. Fe fyddai'n syniad rhoi yr URL e.e. cy.wikipedia.org er mwyn i rywun sy'n dymuno cael golwg arno wybod i ble i fynd. Hefyd, yn lle'r erthygl hiraf, beth am rywbeth fel "Ymhlith yr erthyglau ar y Wicipedia mae ...." ac yna rhoi teitlau dwy neu dair erthygl sy'n cynrychioli gorau'r wici. Efallai hefyd crybwyll fod erthyglau ar rai pynciau nad oes llawer o drafod wedi bod arnynt yn Gymraeg o'r blaen? Rhion 12:30, 19 Tachwedd 2008 (UTC)
- Doh!, ia wir mae eisiau'r URL yna. Hefyd mae angen meddwl am rhyw 3/4 erthygl engrheifftiol i adlewyrchu'r amrediad eang sydd (byddwn i'n cynnig rhywbeth am wyddoniaeth, daearyddiaeth, hanes lleol Cymraeg/Cymreig a digwyddiad pwysig i'r byd fel trychineb, ryfel neu etholiad). Dylid hefyd cynnwys rhywbeth am ein 'rhwystredigaeth' diweddar ynglyn a denu golygywr ond heb wneud iddo swnio'n negyddol! Unrhyw spin-doctors yma?.--Ben Bore 12:49, 19 Tachwedd 2008 (UTC)
- Cynnig ar ail ddrafft:
20,000 O ERTHYGLAU CYMRAEG AR-LEIN
Mae’r Wicipedia Cymraeg (URL yma*), gwyddoniadur rhydd ar-lein sy'n rhan o gywaith Wikipedia, wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn ei hanes, sef 20,000 o erthyglau.
Er nad yw nunlle’n agos i’r 2 filiwn a rhagor o erthyglau sydd ar ei gefnder, y Wikipedia Saesneg, mae’n dipyn o gamp o ystyried y gwahaniaeth yn y nifer o siaradwyr.
Gwirfoddolwyr sy’n gyfrifol am ychwanegu cynnwys ar y wefan, mae croeso i unrhyw un gyfrannu ac mae criw cyfeillgar o olygwyr wrth law yn 'Y Caffi' i ateb unrhyw gwestiynnau gan newydd ddyfodiaid. Mae amrediad eang o erthyglau sydd ddim wedi eu cyfyngu i’r iaith Gymraeg na Chymru yn unig. Yn wir, bwriad y Wicipedia yw darparu ystod eang o erthyglau am bob pwnc dan haul, ac mae eisoes yn cynnwys gwybodaeth am bynciau na chafwyd ymdriniaeth amdanynt yn Gymraeg o'r blaen. Ein gobaith yn y tymor hir yw tyfu i fod y gwyddoniadur Cymraeg mwyaf cynhwysfawr ac amrywiol erioed.
((Mae rhai erthyglau’n addasiadau o erthyglau mewn ieithoedd eraill, ond mae yna hefyd nifer o erthyglau gwreiddiol Cymraeg, e.e. Diwydiant llechi Cymru.))(torri hyn allan a rhoi enghreifftiau isod?)
*Yr 20,000fed erthygl i ymddangos oedd Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1984
*Dechreuodd y Wicipedia Cymraeg ym mis Gorffennaf 2003 ,
*Ymhlith yr erthyglau ar y Wicipedia mae....
*enwau cyswllt am wybodaeth pellach (pwy sy'n fodlon?)
[wedyn yr un peth yn Saesneg?]
- Dwi wedi mentro newid ambell beth. Croeso i rywun ei wella eto. Anatiomaros 17:32, 19 Tachwedd 2008 (UTC)
- Wedi ychwanegu'r mis a blwyddyn dechrau o'r dudalen flaen Rhion 20:40, 19 Tachwedd 2008 (UTC)
Quick comment (sorry for the English) -- we need to make sure we release the text in the public domain, rather than under the GFDL, so that the press are not obliged to accompany it with the GFDL text. All we need in order to achieve this is for everyone who works on it to briefly confirm that they agree to this. Alan 21:02, 19 Tachwedd 2008 (UTC)
- 'Na'i ofon nad wyf fi'n rhyw frwdfrydig iawn dros yr holl fusnes cyhoeddusrwydd yma - teimlo ydwyf nad yw ansawdd y cynnwys ar Wicipedia ar y cyfan eto'n ddigon da i ymffrostio'n hyderus ynddo. Rwyf hefyd yn teimlo'n lletchwith iawn yn annog pobl i gyfrannu yma pan nad yw'r tudalennau cymorth eto'n cynnig digon o gymorth a hynny'n hawdd cael gafael ynddo - rhwystredigaeth ymhlith cyfranwyr newydd yw'r canlyniad 'na'i ofon. Lloffiwr 21:40, 19 Tachwedd 2008 (UTC)
- @Alan, dw i'n fodlon i fy nghyfraniad i fod yn y Public Domain (Parth Cyhoeddus?).
- @Llofiwr, digon gwir fod y tudalennau cymorth yn bell o fod yn berffaith, neu angen eu cyfieithu, ond gallwn fod yn aros am amser maith! Beth am ychwanegu llinell yn y datganiad yn dweud
- bod criw cyfeillgar o olygwyr o gweinyddwyr wrth law yn Y Caffi i ateb unrhyw gwestiynnau gan newydd ddyfodiaid.
- Beth am gynnigion am 4 erthygl engrheifftiol o dan y penawdau canlynol (Ychwnaegwch nhw at y rhestr hyn, neu cynnigwch bennawd gwahanol):--Ben Bore 09:31, 20 Tachwedd 2008 (UTC)
- Technoleg a Gwyddoniaeth
- Hanes Lleol/Cymru/
- Daearyddiaeth
- Digwyddiad Hanesyddol o bwys i'r byd
- Diwylliant Poblogaidd/Chwaraeon
- (er mor sylweddol yw erthygl Nicole Cooke, efallai byddai'n well peidio ei ddefnyddio fel enghraifft, os mai erthygl am seiclo yw'r 20,000fed)
- [Cyd-ddigwyddiad golygu: sylw canlynol ysgrifenedig cyn i mi weld ymateb Ben Bore] Er gwaethaf fy sylw diweddar (uchod, yn Saesneg), dwi'n dechrau meddwl bod Lloffiwr yn iawn. Ond nid y cyfle olaf am gyhoeddusrwydd ydy hwn. Bydd 25,000 o erthyglau yn swnio fel carreg filltir bwysig hefyd. Efallai byddwn ni'n "barod" os fydd y tudalennau cymorth wedi cael eu gwella erbyn hynny. Ond fyddwn ni ddim yn hollol barod ar y pryd hwnnw, chwaith, siŵr o fod -- os fyddwn yn aros tan i wicipedia ymddangos yn broffesiynol iawn cyn cyhoeddi unrhywbeth, ni chaiff ddim ei wneud o gwbl; bydd rhaid i ni gymrodeddu ychydig felly. Alan 09:38, 20 Tachwedd 2008 (UTC)
- Am y llinell yn y datganiad: syniad da. Gallem ni ddefnyddio nodyn er mwyn ychwanegu blwch bach ar ben pob dudalen cymorth. Ond rhaid cael gwared â sôn am "weinyddwyr" yn fy marn i, achos bod unrhyw olygwr, heb wahaniaeth, yn gallu helpu yn y caffi. Alan 09:51, 20 Tachwedd 2008 (UTC)
- Gwnes i ddim sylweddoli pa mor gyflym oedd hyn yn agosáu. Beth am Apartheid am ddigwyddiad hanesyddol o bwys i'r byd? Fallai bydd angen newid y pennawd. Glanhawr 10:49, 20 Tachwedd 2008 (UTC)
- Apartheid yn un da, tydy'r pennawdau ddim yn bwysig, mond yno i brocio'r meddwl! Oes yna erthygl arbennig o gynhwysfawr yn ymwneud â Seiclo gyda ni?--Ben Bore 12:43, 20 Tachwedd 2008 (UTC)
- Wedi golygu datganiad Anatiomaros i gynnwys cymorth gan olygwyr (ond osgoi defnyddio'r gair 'Gweinyddwr' - awgrym doeth, Alan!)
- Parthed aros neu beidio am garreg filltir fel 25,000 e.e., dw i yn gweld y rhesymeg a rhwng dau feddwl rwan, ond rydym yn sôn am flwyddyn arall bron mae'n debyg. Gallwn fod yn 'colli allan' ar ddarpar gyfranwyr newydd yn y cyfamser. Mantais aros fyddai byddai'n ysgoggiad canolbwyntio ar wella'r tudalennau cymorth ASAP, ac efallai anelu at godi safon rhyw hanner dwsin o erthyglau engrheifftiol i rhyw fath o Erthygl dethol.--Ben Bore 12:43, 20 Tachwedd 2008 (UTC)
- Dwi'n credu mai erthygl Nicole Cooke yw'r gorau sy'n ymwuneud â seiclo. Cymryd bod pawd wedi sylwi ar fy obsesiwn bach i ar y pwnc hwnnw felly! Thaf 12:56, 20 Tachwedd 2008 (UTC)
- WEDI CYRRAED Y NOD O'R DIWEDD! Glanhawr 15:22, 20 Tachwedd 2008 (UTC)
- Newydd logio i mewn a gweld bod ni wedi cyrraedd yr 20,000. Mae'n gam seicolegol bwysig i ni, beth bynnag am y cyhoeddusrwydd allai ddod ohoni neu beidio,ac felly dwi'n meddwl bod gennym ni achos i ddathlu. Mi fedra'i ddeall petrusder Lloffiwr hefyd, yn enwedig am gyflwr y tudalennau cymorth sy'n rhan bwysig o fframwaith ymarferol y Wicipedia. Cyn belled ag y mae'r erthyglau yn y cwestiwn, mae'n wir fod gennym fwy na ddigon ohonyn nhw sy'n embaras, a deud y lleia, ond mae hynny'n wir am yr argraffiadau wicipediau eraill hefyd, pob un a'i siâr o sothach a llanast, yn cynnwys yr "en" mawr parchus. Ond gan fod y Wikipedia cyfan yn brosiect tymor hir a phen-agored, byddem yn aros am byth i fod yn "berffaith". Anatiomaros 17:41, 20 Tachwedd 2008 (UTC)
- Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1984 oedd y 20,000fed erthygl. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 17:45, 20 Tachwedd 2008 (UTC)
- Copïwyd o dudalen Sgwrs yr Hafan:
- (Sorry this is in English)
- As this Wiki - sorry, Wici - has now passed 20,000 articles, it has become eligible for an interwiki link from the en:wiki main page. This is an achievement for a small wiki, but has the down-side that it may lead to extra vandalism. It may be worth being a bit more vigilant in the future. Incidentally, if my counting back is correct, the milestone article is Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1980. – Tivedshambo (talk) 22:30, 20 Tachwedd 2008 (UTC)
- Gyda llaw, oes rhywun yn gwybod sut mae hynny'n digwydd? Y ddolen ar "en" dwi'n feddwl. Anatiomaros 22:51, 20 Tachwedd 2008 (UTC)
- ON Dwi newydd diweddaru'r ystadegau yn yr erthygl en:Welsh Wikipedia hefyd. Anatiomaros 22:54, 20 Tachwedd 2008 (UTC)
- Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1984 oedd y 20,000fed erthygl: nid yw hyn yn ymddangos yn wir wrth gyfri 'nôl ar Arbennig:Newpages oherwydd wnaeth Anatiomaros symud "Deiliad" i "Deiliad (gwleidyddiaeth)" ac yna troi "Deiliad" o ailgyfeiriad i dudalen wahaniaethu, felly cafodd erthygl newydd ei chreu ond nid yn y ffordd gonfensiynol! —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 22:58, 20 Tachwedd 2008 (UTC)
- Wps! Bron iawn i mi ddrysu hanes y Wicipedia felly! Anatiomaros 23:01, 20 Tachwedd 2008 (UTC)
<-- It seems fitting that this milestone was reached on the same day as this news story ;-) – Tivedshambo (talk) 00:11, 21 Tachwedd 2008 (UTC)
- That should certainly be mentioned in any release + y ffaith y bydd dolen nawr o brif dudalen Wikipedia (boed hynny'n beth da neu drwg!) Beth am i ni geisio cwblhau a danfon y datganiad yma erbyn 3:00pm (GMT) prynhawn Sul, fel bod amser i bawb gael cip arno, ac er mwyn iddo fynd cyn iddo fod yn hen beth? --Ben Bore 11:12, 21 Tachwedd 2008 (UTC)
- Cytuno efo Ben. Os ydym am weithredu rwan yw'r amser. Hyd y gwelaf i mae gennym ni ddau opsiwn:
- 1. Bwrw ymlaen rwan. Mae gennym ni'r penwythnos i wneud hynny. Ebostio diwedd y pnawn fel y bydd "ar ddesgiau" pobl bore dydd Llun.
- 2. Gohirio am rwan. Ond mae meddwl am aros tan 25,000 yn dipyn o siom i rai, dwi'n siwr, er ei fod yn ffigwr arwyddocaol. Felly beth am aros i ni "ddod mewn oed", sef 21,000 (gellid rhoi'r "troell" ar hynny)? Yn y cyfamser gwneud yn siwr bod y tudalennau cymorth yn iawn a hefyd bod y prif erthyglau (y rhai ar y dudalen gartref, y peth cyntaf mae ymwelydd yn ei weld) yn werth eu darllen (neu o leiaf dim yn embaras fel mae nifer o nhw ar hyn o bryd; rhaid bod hynny'n creu argraff anffafriol iawn hefyd).
- Wrth gwrs, does dim rheswm pam na fedrem ni wneud yr hyn sy'n angenrheidiol (2. uchod) dros yr wythnosau nesaf hefyd. Dwi ddim yn awgrymu gwneud dim byd arall, ond i ganolbwyntio ar hynny (pawb sy'n dymuno i gynnig ehangu un neu ragor o'r prif erthyglau, efallai?), gan addasu a chwtogi'r deunydd ar "en" yn lle cyfieithu fel y cyfryw.
- Y naill ffordd neu'r llall, rhaid i ni benderfynu. Anatiomaros 16:51, 21 Tachwedd 2008 (UTC)
- Dw i'n dweud mynd am dani rwan, does gan 21,000 erthygl ddim yr un 'rign' i'r pethyn fy marn i, a pan ddawn i 25,000 fe ffeindiwn ni rhywbeth arall nad yw'n berffaith pryd hynny (fel nodwyd yn barod). Yn fy marn i does dim i'w golli. Efallai fydd rhai'n dal i'w weld yn anodd i gyfrannu, ond mae yna ganoedd o ddefnyddiwyr tebol allan yna, a phetai ni'n danu dim ond rhyw 5-10 newydd gweddol weithgar, byddai'n gwenud byd o wahaniaeth.--Ben Bore 17:00, 21 Tachwedd 2008 (UTC)
- Rwy'n cytuno a sylwadau Ben uchod. O ran yr erthyglau a restrir ar y dudalen flaen, beth am gael gwared ohonynt, a symud yr "Erthygl Ddethol" ac "Erthyglau Newydd" i dop y dudalen. Rhion 17:04, 21 Tachwedd 2008 (UTC)
- Taro'r ebost i'r pared glywed, yn sydyn! Ymlaen! Llywelyn2000 17:13, 21 Tachwedd 2008 (UTC)
- O.N. Beth am ychwanegu at y dair erthygl enghreifftiol uchod yr erthygl: Rhestr Cymry? Mae'n gwbwl wahanol i'r lleill, mae'n organig, yn gynhwysfawr, yn croesi pob maes / pwnc... a does dim llawer o ddolenau coch ynddo! Mi hoffwn weld erthygl wyddonol, ond does run yn arbennig / wedi'i orffen. Piti. Llywelyn2000 17:22, 21 Tachwedd 2008 (UTC)
- Awgrym yn unig, yn hytrach na fy newis i, oedd yr 21,000. Cytunaf i fynd amdani gan na fyddem byth yn "berffaith" a does ond un ffordd i wella. Ynglŷn â'r "prif erthyglau" ar yr Hafan, mae ambell un yn dderbyniol, neu o leia dim yn rhy ddrwg; am y gweddill, beth am eu cadw ond yn rhoi dolen dros dro i'r categori perthnasol yn lle'r eginau? Anatiomaros 17:34, 21 Tachwedd 2008 (UTC)
- Mae'r erthygl am ein Hwici ni ar en yn dweud:
- More recently, on 20 November 1998 it attained 20,000 articles. It currently has over 20,000 articles and is now the 63rd largest wikipedia (November 2008).
- Y'fe camsyniad yw hwn?? Glanhawr 23:47, 21 Tachwedd 2008 (UTC)
- Wps! "Mea culpa" - dwi wedi gywirio fo! Anatiomaros 00:10, 22 Tachwedd 2008 (UTC)
- Rwy'n credu ei fod yn 62ain yn y rhestr Wicipediau, nid 63ain. Rhion 07:03, 22 Tachwedd 2008 (UTC)
- Dyma'r cyfle cyntaf dwi wedi cael i ddod arlein heddiw, yn anffodus, a dwi'n gweld bod dim sylw newydd wedi'i ychwanegu yma. Ydy hynny'n golygu ein bod am ohirio unrhyw ddatganiad, felly? Ac os dyna yw'r sefyllfa, be ddylai'r nod nesaf fod? Dylsem ni wedi trafod hyn a chael popeth yn barod ymhell cyn y dyddiad, mae'n debyg, ond dyna fo. Efallai ei bod yn rhy hwyr i ddefnyddio'r wasg boblogaidd rwan am ei bod yn "hen newyddion" yn barod, ond mae'r papurau bro yn opsiwn o hyd. Posibilrwydd arall ydy sgwennu at y Bwrdd Iaith a gofyn am gyngor a chymorth (cysylltiadau, rhwydweithio a lledu'r gair, yn hytrach nag arian). Mae gennym ddigon o opsiynau o hyd. Daliwn ati. Anatiomaros 21:09, 23 Tachwedd 2008 (UTC)
- Fe fuaswn i o blaid gyrru'r datganiad i gael gweld oes gan y cyfryngau ddiddordeb. Fel arall, bydd wastad rhyw reswm dros ohirio. Rhion 22:39, 23 Tachwedd 2008 (UTC)
Ymlaen! ON Mi ffoniais i'r Daily Post ddydd Llun; dwn i ddim a fu unrhyw beth ynddo? Anatiomaros: mae'n well i un gymryd yr awennau ar adegau. Tydy hi ddim yn bosibl i grwp gytuno a gweithredu'n sydyn o hyd. Llywelyn2000 23:26, 23 Tachwedd 2008 (UTC)
- Hyd y gwn i y mae erthyglau Wicipedia 'wedi eu cyfyngu i'r iaith Gymraeg' - os am ddarllen erthyglau mewn unrhyw iaith arall rhaid mynd at y wikipedia yn yr iaith honno. :-)Lloffiwr 13:37, 24 Tachwedd 2008 (UTC)
Bwrdd yr Iaith Gymraeg a'r Wicipedia
golyguYn dilyn y drafodaeth uchod (20,000 o erthyglau) dwi wedi mentro i ysgrifennu at Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn esbonio ein sefyllfa a gofyn eu cymorth. Dyma'r llythyr e-bost a anfonais:
- Dwi'n sgwennu atoch ar ran y Wicipedia Cymraeg, y gwyddoniadur Cymraeg rhydd ar-lein (http://cy.wikipedia.org/wiki/Hafan ), lle dwi'n weinyddwr a biwrocrat. Serch hynny, er bod gennyf gefnogaeth fy nghyd-wicipedwyr, dydwi ddim yn sgwennu atoch fel cynrychiolydd swyddogol Wikipedia, ond fel unigolyn.
- Yn ddiweddar cyrhaeddasom y nod o gael 20,000 o erthyglau ar y Wicipedia. Ein gobaith yw parhau â'r gwaith a chynyddu a gwella cynnwys y gwyddoniadur i'w wneud y gwyddoniadur Cymraeg mwyaf erioed, o ran ei faint, ei sylwedd ac ystod y wybodaeth a geir ynddo, sydd eisoes yn cynnwys erthyglau ar bynciau sydd ddim i'w cael fel arall yn y Gymraeg. Gellid dadlau felly ein bod wedi tyfu i fod un o'r adnoddau mwyaf yn Gymraeg ar y we.
- Ond rydym yn wynebu anawsterau mawr, yn bennaf oherwydd diffyg ymwybyddiaeth o'r Wicipedia ymhlith y Cymry Cymraeg a'r diffyg cyfranwyr iddo o'r herwydd. Cael cyhoeddusrwydd a chreu cysylltiadau sydd ei angen, a dyna'r prif reswm dros gysylltu â chwi, yn y gobaith y medrwch fod o gymorth i ni. Rydych chwi mewn cysylltiad â nifer fawr o gyrff a mudiadau sy'n ymwneud â'r Gymraeg ac yn awyddus i hybu'r iaith ac ehangu'r defnydd ohoni. Tybed a oes modd i chwi ddefnyddio'ch cysylltiadau a'ch arbenigedd i gynorthwyo ni i gyrraedd cymaint o siaradwyr Cymraeg â phosibl? Oes modd cynnwys nodyn am y Wicipedia Cymraeg mewn pecynnau gwybodaeth, er enghraifft? Beth am eich ymgyrchoedd i gael pobl i ddefnyddio eu Cymraeg? Dyma ffordd ymarferol i wneud hynny ac mae'n agored i bawb, yn rhad ac am ddim.
- Dwi'n cyfaddef nad ydwyf yn siwr sut yn union y medrwch helpu, ond dwi'n gobeithio y gwnewch bopeth o fewn eich gallu i godi amlygrwydd yr hyn a allai dyfu i fod yn un o'r adnoddau mwyaf gwerthfawr a defnyddiol yn y Gymraeg heddiw.
- Yr eiddoch yn wir, (etc.)
A dyma'r ateb a gefais heddiw (gan adael allan fy nghyfeiriad e-bost fy hun a manylion cysylltu y Dr Evas):
- Diolch am eich neges. Gofynnwyd i mi ymateb. Am neges ddiddorol - ac rydych mewn sefyllfa debyg iawn i ni hyd y gwelaf. Ein nod ni yw annog cynifer o bobl â phosibl i fanteisio ar y gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael, ar ba blatfform bynnag y bo. Byddwn yn dechrau ymgyrch cyhoeddusrwydd gyffredinol ynghylch hyn fis Ionawr o'r enw "Mae Gen Ti Ddewis". Er na fyddwn yn enwi cyrff fel y cyfryw yn hyn o beth, gallem ystyried arbrawf i'ch cynorthwyo. Wrth i ni ddatblygu'n gwefan ymhellach byddwn yn mynd ati i arbrofi gyda Google Adwords. Gallem ystyried cynnwys Wikipedia Cymraeg yn rhan o'r broses honno am gyfnod i weld faint yn fwy o drawiadau byddai'r wefan yn eu cael. Ofnaf na fyddai modd i ni wneud ymrwymiad parhaol i gyllido hyn ond mae bendant yn rhywbeth y gallem ei ystyried dros dro. Fyddai hyn yn gweddu i'ch anghenion?
- Jeremy.
- DR JEREMY EVAS
- Arweinydd Uned Ymchwil Technoleg Iaith a Grantiau/Leader Research, :Language Technology and Grants Unit
- Bwrdd yr Iaith Gymraeg/Welsh Language Board
Cam bach pwysig ymlaen i'r cyfeiriad iawn? Sut allem ni ddatblygu'r cysylltiad newydd (a chreu rhai eraill hefyd, efallai)? Unrhyw syniadau? Anatiomaros 19:29, 12 Rhagfyr 2008 (UTC)
- Gwych! Gwych!Dal ati! Un neu ddau o sylwadau sydyn: 1. Gan fod Wici am ddim, wneith y Cyngor Llyfrau ddim gwario sentan arnom i'n hyrwyddo drwy'r ysgolion. Gawn ni ofyn i Fwrdd yr Iaith eistedd a meddwl am ddulliau eraill ar wahan i'r cynnig uchod... yn enwedig sut i gyrraedd yr ysgolion (athrawon a 6ed dosbarth o ran golygu, pob disgybl o ran pori a darganfod gwybodaeth. 2. Mae B. yr I. yn rhoi grantiau i bartneriaid / cyrff megis Papurau Bro, Mentrau Iaith ayb. Os ydyw ByrI yn gweld gwerth ynom, yna fe allent ddweud hynny wrth eu partneriaid; eu cyfeirio atom drwy ebost, datganiadau ayb. Gadael i FyrI i feddwl am ddulliau, efallai. 3. Pwysleisio iddynt nad oes gennym ni ddim arian i hyrwyddo ein hunain, DIM. Mae angen iddyn nhw, felly, weld ein problem a'i ddeall cyn fedran nhw greu cynllun swmpus i gefnogi a hyrwyddo Wici. 4. Eu hannog i gynnwys yn eu cynllun anogaeth at gyrff megis yr Amgueddfa Genedlaethol i ddefnyddio Wici yn y modd mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi dechrau rhoi lluniau e.e. Sain Ffagan i roi carolau'r Plygain ar dudalen Carol Plygain, caneuon gwerin ar dudalennau eraill ayb. Annog y i roi HOLL luniau Geoff Charles ar Wici ayb ayb. Gofyn i awduron a beirdd roi eu cynnyrch newydd (rhydd o hawlfraint) yn syth ar Wici. Annog Archifau sirol i rannu eu hystôr o ddata, lluniau, ffotos yn uniongyrchol drwy Wici. 5. Annog cyrff addysgol megis CBAC, y Brifysgol, y Cynulliad i gysoni eu termau gwyddonol ayb (ac felly ei wneud yn nysbys i'r byd) drwy Wici yn ogystal neu yn hytrach na thermiadur gwyddonol papur, confensiynol. Ar frys, sorri.Llywelyn2000 21:54, 13 Rhagfyr 2008 (UTC)
Tybed a fyddai modd danfon ebost at ysgolion cyfrwng Cymraeg a gofyn iddynt osod y Wicipedia Cymraeg ar dudalen gartref pob cyfrifiadur yn eu hysgolion? Hefyd, beth am greu erthyglau a fydd o fudd i ddisgyblion ysgol h.y. creu erthyglau ar y math o themau mae disgyblion yn astudio yn yr ysgol e.e. yr amgylchedd, byd yr ysbrydion, hanes yr ail rhyfel byd a.y.y.b. Jest syniad!
- Llongyfarchiadau i ti Anatiamaros. 'Na'i ofan nag oes gennyf unrhyw syniadau ar sut i ddatblygu'r cysylltiad newydd hwn - yn edrych ymlaen at weld cysylltiad at Wicipedia ar wefan y Bwrdd - efallai y daw'r ffordd ymlaen i'r amlwg yn y flwyddyn newydd? Lloffiwr 15:22, 14 Rhagfyr 2008 (UTC)
Diolch am hynny. Dwi'n derbyn fod pawb o blaid hyn ac felly dwi wedi sgwennu eto i dderbyn y cynnig a gwyntyllu ambell beth arall. Dyma'r testun, anfonwyd dwy funud yn ôl:
- Annwyl Jeremy,
- Diolch am eich ateb prydlon a chalonogol. Rydym yn trafod hyn ar y Wicipedia Cymraeg ar hyn o bryd - mae pwyllgora "rhithiol" yn arafach na'r peth go iawn, hyd yn oed! - ac er bod ambell gwestiwn wedi codi rydym yn barod iawn i dderbyn eich cynnig i osod rhyw lun ar "hysbyseb" neu ddolen Google Adwords ar wefan y bwrdd. Rydym yn derbyn nad oes modd i'r Bwrdd wneud ymrwymiad parhaol, ond mae hyn yn gam bach pwysig i'r cyfeiriad iawn parthed ennill lle i'r Wicipedia yn y gymuned. Diolch yn fawr am y cynnig.
- Efallai y dylswn wedi esbonio un neu ddau o bethau am y Wicipedia Cymraeg hefyd, rhag ofn nad ydych yn gyfarwydd â'r sefyllfa. Un o dros 150 o "argraffiadau iaith" y Wikpedia ydy'r Wicipedia Cymraeg. Mae rhai, fel y rhai Saesneg a Ffrangeg, yn anferth ac eraill yn fychan iawn. Wedi cyrraedd yr 20,000 rydym y 65fed fwyaf o'r argraffiadau ac wedi symud i fyny i'r "Ail Adran", fel petai. Mae pob un ohonom sydd â "swyddi" ar y Wicipedia Cymraeg yn wirfoddolwyr. Does neb yn derbyn ceiniog a does gennym ddim incwm ar wahân fel wicipedia iaith - rydym yn rhan o'r rhwydwaith bydeang ac yn cael ein cyllido felly. Ac mae hynny'n rhan o'r broblem ynglyn â chyhoeddusrwydd: does gennym ddim un geiniog gron i wario ar hynny fel sefydliad. Fel 'na mae hi ar hyn o bryd, oni bai bod ni'n sefydlu cymdeithas elusennol yn nes ymlaen.
- Un o'r pethau yr hoffem ni wneud ydy creu cysylltiadau cryf ag ysgolion Cymru. Mae lle i ddosbarthiadau uwch gyfrannu'n uniongyrchol, fel prosiectau ayyb. Hefyd mae 'na le i bo ysgol yn y wlad gael tudalen amdani (mae rhai yn bod eisoes, ond "eginau" ydy'r rhan fwyaf) lle gallai disgyblion, dan arolygiaeth athro, gyfrannu i greu erthygl gynhwysfawr am eu hysgol. Ond sut ydym i gysylltu â phawb i annog hynny? Buasai'n braf cael cydweithio â'r papurau bro a chymdeithasau o bob math hefyd. Wedyn mae 'na'r Amgueddfa Genedlaethol ac archifau sir. Rydym eisoes mewn cysylltiad â'r Llyfrgell Genedlaethol, er enghraifft; mae ganddynt brosiect arbrofol i osod rhai o'u delweddau ar y Wicipedia ac rydym ar ei rhestr adnoddau i ddefnyddwyr. Mae'r posibiliadau rhwydweithio yn sylweddol iawn felly, a hoffem yn fawr i'r Bwrdd ystyried sut y gallai helpu ni yn y cyfeiriad yma.
- Mae 'na lawer mwy y gellid ei wyntyllu, ond dwi'n ofni blino chi â gormod o fanylion yn bendramwnwgl fel hyn. Fel dwi wedi esbonio, dydym ni ddim yn gofyn am arian, ond am gymorth ymarferol i wneud y Wicipedia Cymraeg yn rhan naturiol o'r gymdeithas Gymraeg gyfoes er mwyn i ni chwarae ein rhan yn adfywiad yr iaith (rhaid bod yn optimistig!) a dod yn adnodd a fydd mor gyfarwydd yn y Gymru Gymraeg ag y mae ein chwaer-argraffiad Saesneg yn y byd Saesneg ei iaith.
Wnes i ddim codi pob pwynt posibl am rwan - siwr fod gan Dr Evas ddigon o waith i'w wneud yn barod heb dreulio awr yn darllen e-bost di-ddiwedd! - ond gobeithio bydd hyn yn ddigon i gadw'r fater yn agored yn lle derbyn y cynnig a gorffen y drafodaeth yn fan 'na. Cawn ni weld be ddaw ohoni. Mae Llywelyn wedi codi sawl pwynt diddorol uchod, rhai yn fwy ymarferol na'i gilydd, efallai. Gobeithio bydd y drafodaeth yn parhau. Dwi'n barod i sgwennu e-bost eto at un neu ragor o'n sefydliadau cenedlaethol, os cawn gytundeb bras ar ei gynnwys. "Ymlaen!", chwedl Llywelyn. Anatiomaros 20:25, 14 Rhagfyr 2008 (UTC)
- Rhywbeth i feddwl amdano yw hyn ar gyfer y dyfodol, nid rwan, ond fel mae Anatiomaros yn nodi yn ei lythyr, cefnogaeth ymarferol sydd ei angen yn bennaf, yn hytrach nag arian, ond petai yna arian ar gael yn y dyfodol (am ddeunydd cyhoeddusrwydd neu beth bynnag), byddai'n anodd iawn i ni fel Wicipedia fynd amdano gan nad ydym yn gorff, gyda chyfansoddiad, pwyllgor, bla..bla..bla - ac yn y blaen. Petai ni rywbryd eisiau arian, dyma efallai ble fyddai rhyw fath o gysylltiad â Wikimedia DU yn help. Petai cais yn mynd drwyddyn nhw, bod nhw'n cael cadw canran fechan a bod y gweddill yn mynd at gyhoeddusrwydd, byddai ond yn deg dw i'n meddwl, achos yn y pen draw, Wikimedia sy'n gyfrifol am gynnal y wefan yma nage ddim? Mond rhywbeth i feddwl amdano. --Ben Bore 20:42, 16 Rhagfyr 2008 (UTC)
- Dyma'r ymateb i'r ail lythyr (uchod):
- Byddwn yn edrych ar Google Adwords yn ystod y flwyddyn newydd (siwr o fod tua diwedd Chwefror). Gofynnaf i’m cydweithiwr, Marian Fairclough, nodi’n trafodaeth yn y flaen raglen ar gyfer ein gwaith gwe ac i ddod yn ôl atoch bryd hynny. Wn i ddim a ydych yn gyfarwydd â Google Adwords, ond mae rhagor o wybodaeth ar gael fan hyn: http://adwords.google.com/select/Login/. O ran cydweithio â phapurau bro, mae hynny hefyd yn rhywbeth y gallwn ei drafod yn fewnol a dod nôl atoch. Ymddiheuriadau am beidio â medru ymrwymo’n bendant, ond fe ddown yn ôl atoch yn ystod y flwyddyn newydd.
- Dyma'r ymateb i'r ail lythyr (uchod):
- Mi gawn ni weld be ddaw ohoni yn y flwyddyn newydd, felly, ond mae'n edrych yn reit addawol fel man cychwyn. Anatiomaros 18:35, 19 Rhagfyr 2008 (UTC)
- Beth am ofyn iddyn roi pwyasau ar Sain Ffagan i lwytho eu ffeiliau sain (caneuon traddodiadol wedi'u recordio) ar Wici i ddechrau??? Llywelyn2000 09:29, 28 Chwefror 2009 (UTC)
- Dwi'n sylweddoli dy fod yn rhoi amser aruthrol i greu a chaboli erthyglau; gwaith amhrisiadwy. Gest ti gyfle, hefyd, i roi rhai o'r awgrymiadau uchod i'r Bwrdd? Llwyfan ydy Wici. Gall ByrI annog cyrff megis y Llyfgell genedlaethol a'r holl amgueddfeydd sydd gennym i roi eu hadnoddau ar y llwyfan hwn. Neu o leiaf i ddeddfu fod yn RHAID iddynt roi cymaint ag y medrant o'u gwaith (lluniau, sain...) ar drwydded Polisi Cynnwys Cyfyngedig neu'n well byth: yn gyfangwbwl rydd o ran hawlfraint. Byddai hyn yn gwneud y cyrff hyn yn fwy agored o ran mynediad i'r cyfoeth yma o stwff sydd ganddyn nhw'n hel llwch mewn ffeiliau cudd ar hyn o bryd. Os gweli di'n dda, Anatiomaros, gawn ni symud ymlaen efo hyn? Llywelyn2000 07:33, 29 Mai 2009 (UTC)
25,000 erthygl! Paratown i Ddathlu!
golyguMae'r garreg filltir yn nesâu! Beth ydy'r modus operandi? Byddwn barod y tro hwn!Llywelyn2000 23:46, 14 Ionawr 2009 (UTC)
- Cytuno'n llwyr. Amser i ddechrau meddwl am hyn. Gobeithio bydd Bwrdd yr Iaith yn sgwennu eto cyn hir hefyd (rhywbryd "yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd"?). Anatiomaros 21:16, 16 Ionawr 2009 (UTC)
- 'Beth ydy'r modus operandi?' Llywelyn2000 00:21, 26 Ionawr 2009 (UTC)
- Efallai basai'n syniad da i drafod hyn ar dudalen sgwrs arbennig (e.e. 'Wicipedia:Y Caffi/25,000 erthygl'?). Gellid copio y drafodaeth flaenorol i'r dudalen ac wedyn ei harchifio (mae'r dudalen yma wedi mynd yn anferth unwaith eto hefyd!) gan adael dolen amlwg fan 'ma. Anatiomaros 23:20, 29 Ionawr 2009 (UTC)
- Cytuno. Ymlaen! Llywelyn2000 00:35, 5 Chwefror 2009 (UTC)
- Fory neu dros y dyddiau nesa... Rhy hwyr heno! Anatiomaros 23:39, 19 Chwefror 2009 (UTC)
Trafodaeth newydd
golygu"Ymlaen!", chwedl Llywelyn. Anatiomaros 17:20, 5 Ebrill 2009 (UTC)
- Syniad da dwi'n credu fyddai anfon e-byst at adrannau Cymraeg ysgolion cyfrwng Cymraeg gyda chysylltiad i bamffled gwybodaeth PDF am ein Hwici a ellir eu hargraffu a'u dosbarthu i ddisgyblion chweched dosbarth. Dwi'n gwybod bod athrawon Cymraeg wastad yn hyrwyddo adnoddau Cymraeg i'w disgyblion. Yn y pamffled gallen ni bwysleisio'r ffaith bod pob golygiad bach yn cyfri ac yn bwysig. Er efallai byddai problem dod o hyd i e-byst adrannau Cymraeg yn hytrach na phrif e-byst yr ysgolion. Os bydd disgyblion yn defnyddio cy fel pwynt cyfeirio yn yr ysgol efallai byddai'n eu sbarduno i gyfrannu. Glanhawr 13:58, 10 Ebrill 2009 (UTC)
- Mae 'na gyrff sy'n cyfathrebu'n rheolaidd ag Ysgolion Uwchradd: Bwrdd yr Iaith, CBAC, UCAC, ayb. Mae eu hannog nhw yn hanfodol gan fod yr adnoddau ganddyn nhw. Ond mi rydw i'n cytuno gant y cant efo ti - yn ein hysgolion mae cychwyn! Mae Wici yn gyfrwng i uno pob math o adnoddau megis sain gan Sant Ffagan, hen luniau o'n harchifdai, dogfennau gan y Llyfrgegg Genedlaethol, gwybodaeth a gwersi gan NGFL acy acyb ayb. Amser sydd ei angen i fynd at pobol a'u hargyhoeddi. Llywelyn2000 14:35, 10 Ebrill 2009 (UTC)
- Efallai mai'r dathliad gorau fyddai medru cyhoeddi wythnos neu ddwy cyn cyrraedd y 25K fod LLGC a'r Amgueddfa GC wedi cytuno i rannu eu stwff ar / drwy gyfrwng Wicipedia. I wnud hyn: 1) gallwn ni lythyru â'r ddau gorff yma rwan 2) gallwn roi pwysau ar y Cynulliad (sy'n eu hariannu) a Bwrdd yr Iaith (sydd wedi cynnig cymorth)) i roi pwysau arnyn nhw. Dyma'r adnoddau / tlysau gorau sydd gennym fel cenedl ac yn adnoddau hynod werthfawr i'n plant. Pe bai'r ddau yma'n cytuno, fe ddilyna'r lleill.... Un person sydd ei angen i lythyru, person sy'n barod i roi ei enw ei hun ar y llythyrau, ffigwr adnabyddus, cyhoeddus, cenedlaethol. Pwy rydd y gloch ar y gath? Llywelyn2000 08:49, 13 Ebrill 2009 (UTC)
- Rwy’n barod i helpu! Gallai siarad efo'r adran Gymraeg- mae pennaeth ei'n adran Gymraeg yn angerddol dros ddyfodol yr iaith- rwy'n siŵr byddai hi'n barod i gydweithredu. Ar y llaw arall efallai bydd cyflwyno wicipedia i rai disgyblion yn cynyddu fandaliaeth yma- mae rhai disgyblion (enwedig y rhai ifanc) yn mwynhau mynd i'r llyfrgell amser cinio i roi dwli ar wikipedia (Saesneg fwyaf). Pob hwyl, Rhys Thomas 10:09, 13 Ebrill 2009 (UTC)
- Braf gweld yr ymateb yma. Dwi ddim wedi clywed gan y Bwrdd Iaith ar ôl y drafodaeth a gychwynwyd (uchod), ond tybed ai nhw sy'n gyfrifol am y ffaith fod "hysbyseb" am y Wicipedia ar dudalen croeso y Mozilla Firefox Cymraeg, a hynny yn gyntaf ar y rhestr uwchben y Llyfrgell Genedlaethol? Dyna gam eitha pwysig i'r cyfeiriad iawn. Anatiomaros 13:35, 14 Ebrill 2009 (UTC)
Cyhoeddusrwydd a/neu ddolenni ar wefannau
golyguUn cam bach arall. Sgwennais neithiwr at y bobl sy'n rhedeg y wefan 'Cymraeg ar y We' (gwefan.org), sy'n "Rhestr o wefannau sydd â phob tudalen ar gael yn Gymraeg". Wnes i bwyntio allan - yn wylaidd ddigon :-) - fod gennym ni dros 22,000 o dudalennau yn Gymraeg ac felly roeddwn i'n synnu braidd fod dim dolen at y Wici. Dywedais fod croeso iddyn nhw ddefnyddio'r logo a rhoddais ychydig o fanylion amdanom ni. Chefais ddim ateb e-bost ond ar ôl siecio heno dwi'n gweld bod nhw wedi ychwanegu Wicipedia: gweler yma. Dyna gyflym! Basai'n braf cael chwaneg o ddolenni o'r fath. Oes 'na rywle arall lle cawn ni "hysbyseb" fel hyn yn rhad ac am ddim? Roedd mor hawdd i'w wneud, gwaith deg munud i sgwennu pwt o e-bost... Anatiomaros 20:21, 21 Ebrill 2009 (UTC)
ON Mae 'na 189 o wefannau Cymraeg ar gwefan.org. Efallai ei bod yn syniad gweithio trwy bob un ohonyn nhw i weld pa obaith sy' na? Dechreuais gyda chwilotydd.com a gweld bod Wicipedia yn eu cronfa ddata yn barod ac felly'n un o'r rhai sy'n dod allan ar y frig wrth chwilio am wybodaeth yn y Gymraeg (ond rargian, mae'r 'chwiloydd' druan yn ara braidd!). Anatiomaros 20:32, 21 Ebrill 2009 (UTC)
- Gwych! Mae pob dolen yn help. OND Mae system cofrestru gyda'r porwyr sydd gan Wici yn WYCH fel ag y mae. Welais i rioed cystal. Mae pob gair yn cael ei gofrestru ar Google ayb bron ar unwaith. Ac mae teipio bron unrhyw air yn Gymraeg yn mynd a ni i Wici fel mae. Doeddwn i ddim yn gweiddi hwre, felly, pan Bwrdd yr Iaith yn cynnig defnyddio peiriannau mewnol Google i'n cofrestru - da ni yno yn barod! Mae fy ychydig eiriau uchod yn pwyntio'r ffordd ymlaen - dwi gant y cant yn siwr o hyn. Adnoddau sefydliadau cenedlaethol sydd eu hangen: lluniau, sain, ffilm, gwybodaeth ayb gan ddechrau gyda'r LLyfrgell Genedlaethol. Mae angen un ffynhonell Gymraeg - a Wicipedia ydy'r peth gosa at hynny ar hyn o bryd. Cyfrwng ydan ni i bobol a chyrff i ddympio eu stwff fel bod hi'n hawdd i Huw, Sian a Mrs Jones ddod o hyd i wybodaeth drwy'r Gymraeg ac am Gymru. Llywelyn2000 23:15, 21 Ebrill 2009 (UTC)
- Cytuno'n llwyr. Un elfen yn unig yn y pwdin yw'r dolenni hyn ond mae popeth yn helpu ac mae'n weddol hawdd i'w wneud. Ynglŷn â'r Gen, mae 'na stwff yn y Caffi hefyd: mae'n ymddangos y bydd yn bosibl i ni ychwanegu delweddau o bob math o'na yn y dyfodol agos. Am y lleill, wel bydd angen mynd ati fesul un, mae'n debyg. Rhy hwyr i drafod yn iawn heno, beth bynnag - Nos Da (a chofio cael y sbecs 'na o Wrecsam fory!) Anatiomaros 23:34, 21 Ebrill 2009 (UTC)
- Cytuno. Ac os daw'r LLGC, fe ddaw'r lleill fel defaid. Efallai y gall Lloffiwr gyda dy help di roi mwy o bwysau arnyn nhw? I mi fod yn ddigwylidd, Anatiomaros, mae sicrhau hyn yn bwysicach na chyfrannu erthyglau i Wici ar hyn o bryd. Mae angen person cyhoeddus arnom. Bum i'n meddwl am Deri Thomas sydd wedi bod yn cyfrannu'n ddiweddar (ee Dŵr). Ond efallai mai ti fyddai'r gorau i wneud hyn oherwydd dy brofiad anghymarol yn Wici?? Gall y gweddill ohonom gadw golwg ar iaith / cats o dydd i ddydd. Tyrd, Arthur, arwain... Llywelyn2000 06:28, 22 Ebrill 2009 (UTC)
Bwrdd yr Iaith Gymraeg (diweddariad)
golyguDwi wedi sgwennu at y Bwrdd eto i ofyn iddyn nhw ystyried o ddifri y posiblrwydd o noddi'r Wicipedia yn aniongyrchol trwy dalu am gyfres o hysbysebion yn y papurau bro a/neu Golwg. Rhoddaf fanylion eu hymateb yma, pan ddaw. Anatiomaros 16:42, 1 Mehefin 2009 (UTC)
- Dyma ymateb y bwrdd, a gefais heddiw:
- Diolch am gysylltu eto. Nid ydym wedi’ch anghofio! Fel y dywedais mewn neges flaenorol i chi, fe fydd ychydig fisoedd yn mynd heibio cyn i’r Bwrdd ddechrau defnyddio Google Adwords. Bryd hynny byddwn yn ystyried priodoldeb cynnwys Wikipedia Cymraeg yn y broses fel arbrawf a chysylltwn â chi. Yn anffodus, ar hyn o bryd, ni allwn gynnig nawdd y tu hwnt i’n Prif Gynllun Grantiau. Mae’r holl wybodaeth ar www.byig-wlb.org.uk/grantiau (dyddiad cau ar gyfer blwyddyn ariannol 2010/2011). Wedi dweud hynny, rydym yn cydweithredu â BBC Cymru ar hyn o bryd ar brosiect arbrofol i gynnwys BBC Vocab ([2]) ar wefannau y tu hwnt i eiddo’r Bwrdd a’r BBC hithau. Bydd fy nghydweithiwr, ******, yn cysylltu â chi ymhen ychydig wythnosau i’ch gwahodd i gymryd rhan yn yr arbrawf hwnnw. Mae BBC Vocab yn galluogi dysgwyr y Gymraeg, neu bobl sy’n ddihyder eu Cymraeg, i ddarllen tudalennau gwe sydd yn Gymraeg. Golyga hyn, wrth gwrs, y bydd mwy byth o bobl yn gallu darllen yr erthyglau ar wikipedia Cymraeg. Llongyfarchiadau, gyda llaw, ar y toreth o erthyglau newydd sydd wedi ymddangos yno.
- Sylwadau? Anatiomaros 17:49, 4 Mehefin 2009 (UTC)
- Mae'n ddechrau, mae'n debyg. Llywelyn2000 05:15, 5 Mehefin 2009 (UTC)
BBC Vocab
golyguDatblygiad pwysig i ni ystyried. Dyma destun gwahoddiad a gefais trwy'r e-bost heddiw (gan adael allan manylion personol a'r cyfeiriad gwe arbennig gan fod y dudalen hon i'w gweld gan unrhywun ar y we):
- BBC VOCAB: gwahoddiad i ymuno â phartneriaeth rhwng Bwrdd Yr Iaith Gymraeg a BBC Cymru
- Ysgrifennaf atoch ar ran Bwrdd yr Iaith Gymraeg a BBC Cymru er mwyn gwahodd Wicipedia i gymryd rhan ym mhrosiect BBC Vocab. Fel y gwyddoch o bosib, mae’r cynllun hwn, sy’n cynorthwyo pobl sydd wrthi’n dysgu’r Gymraeg i ddeall tudalennau gwe Cymraeg, wedi bod ar waith ar wefan y BBC a’r Bwrdd ers peth amser. Mae’n dda gennym nodi bod y datblygiadau technegol bellach wedi eu cwblhau i agor Vocab i gael ei dreialu ar wefannau eraill.
- Nid oes cost ar gyfer ymuno â’r treial na’r prosiect ei hun. Gallai ddarparu hwb i nifer y bobl sy’n edrych ar dudalennau Cymraeg eich gwefan, boed yn ddysgwyr y Gymraeg neu’n siaradwyr nad ydynt yn hollol hyderus eu Cymraeg. Bydd hefyd modd nodi’ch cyfranogiad mewn datganiad i’r wasg rhwng yr holl sefydliadau a fydd yn cymryd rhan yn y cynllun a fydd, gobeithio, yn dod â chyhoeddusrwydd iddynt.
- Os nad ydych yn ymwybodol o’r cynllun, mae’r cipluniau amgaeedig yn dangos BBC Vocab ar waith. Mae’r egwyddor yn syml: mae’ch tudalennau gwe yn cael eu pasio drwy eiriadur BBC Cymru, sydd wedyn yn amlygu detholiadau o eiriau ‘anos’ yn felyn (gweler y ciplun ar y dde). O hofran y llygoden dros unrhyw un o’r geiriau sydd wedi’u hamlygu, ceir diffiniad o’r geiriadur, gyda dewis i fynd i ddiffiniad llawn ar wefan y BBC (gweler y ciplun ar y chwith).
- Y cwbl mae’n rhaid i’ch sefydliad chi ei wneud yw addasu ychydig linellau o gôd ochr Gymraeg eich gwefannau er mwyn cynnwys ‘blwch’ BBC Vocab. Wrth gwrs, bydd eisiau peth amser er mwyn profi’r system ar eich gwefan cyn lansio BBC Vocab yn ffurfiol, ond o’r profion rhagarweiniol rydym wedi eu cynnal, nid ydym yn credu y dylai hynny fod yn llawer o draul ar eich amser.
- Mae’r prosiect cyffrous – rhad ac am ddim hwn - yn rhywbeth mae’r BBC a’r Bwrdd yntau’n ymfalchïo ynddo ac rydym yn awyddus i Wicipedia gymryd rhan ynddo.
- Os hoffech gymryd rhan, a chynyddu nifer yr ymwelwyr â’ch tudalennau Cymraeg, gan rannu o’r cyhoeddusrwydd da a ddaw yn sgil hynny, ewch i [http****] i wybod beth yw’r camau nesaf i chi.
- Eich cyfeiriad gwe Vocab yw [http****].
Ymatebion, os gwelwch yn dda! Mae'n bwysig i ni gysylltu gynted â phosibl. Yr unig beth sy'n fy mhoeni braidd ydy'r ochr ymarferol cyn belled ag y mae'r Wicipedia fel sefydliad (h.y. y cyfan, nid y Wicipedia Cymraeg yn unig) yn y cwestiwn; mae'n debyg fod hyn yn torri tir newydd yn ei hanes. Anatiomaros 23:10, 24 Mehefin 2009 (UTC)
- Dwi'n meddwl fod hwn yn swnio'n wych. Os allwn ni ddisgyn y blwch i fewn ar y chwith uwchben y rhestr ieithoedd yn awtomatig falle byddai hynnu'n gweithio. Heb weld sut mae'r peth yn edrych ayb. ond mae'n swnio fel petai'n gymorth mawr i ddysgwyr ac yn hwb iddyn nhw ac iddom ni. Thaf 09:00, 25 Mehefin 2009 (UTC)
- Mae'n swnio'n syniad wych, ond a yw'n bosib clirio hwn efo'r pobl sy'n rhedeg wikipedia? Rhys Thomas 16:39, 25 Mehefin 2009 (UTC)
- Mae hynny'n gwestiwn da. Does gen i ddim syniad beth ydy'r sefyllfa. Dwi am drio ymholi. Gan fod y Gymraeg mewn sefyllfa arbennig fel 'iaith leiafrifol' dwi'n meddwl fod gennym ni ddadl dda dros dderbyn hyn. Dydy'r cynllun ddim yn fygythiad i annibyniaeth y Wicipedia, a dyna sy'n bwysig. Ond fel y dywedais, dwi'n meddwl fod hyn yn torri tir newydd felly. Mae Deb wedi bod yn weinyddwr yma ac ar 'en:' ers cryn dipyn o amser; efallai bydd hi'n medru tynnu ar ei phrofiad a rhoi cyngor. Dwi ddim yn gweld unrhyw niwed mewn cynnal arbrawf yn y cyfamser. Hoffet ti gael golwg ar hyn? Wyt ti'n meddwl y basai'n bosibl creu nodyn yn lle rhoi'r testun htm cyfan yn yr erthyglau? Anatiomaros 17:28, 25 Mehefin 2009 (UTC)
- ON Dyma enghraifft o sut mae'n gweithio (trio'r blwch 'chwilio' hefyd). Cofier mae dim ond y rhai sy'n dewis yr opsiwn fydd yn gweld hyn yma. Anatiomaros 17:31, 25 Mehefin 2009 (UTC)
- Waw- mae'n gweithio'n gret! Dyna gyd sydd ei angen nawr yw blwch bach efo troi vocab ymlaen uwchben yr ieithoedd ar yr ochor chwith (yn y blwch offer efallai) efo'r cysylltiad yma ynddo. Yr unig problem yw - does gen i ddim syniad sut i olygu'r rhyngwyneb (y stwff sydd ar ymylon y tudlennau). Oes gennych chi'r hawl i wneud hyn? Hwyl, Rhys Thomas 18:50, 25 Mehefin 2009 (UTC)
- Sounds good to me. Can't see any reason why not. Should we inform someone at the mother ship? Deb 19:11, 25 Mehefin 2009 (UTC)
- Being wary of the dreaded wikibureaucracy, I'd say 'probably, I suppose...'. Do you know anybody you could ask informally? PS Rhys asks how we edit the blwch offer. Never done so myself. Any idea? Anatiomaros 19:19, 25 Mehefin 2009 (UTC)
- Rhys, does gen i ddim syniad am y blwch offer, ond wna'i chwilio. Anatiomaros 19:19, 25 Mehefin 2009 (UTC)
- Wedi chwilio, methu cael hyd i unrhywbeth tebyg! Mae angen goleuni o rywle... Anatiomaros 19:52, 25 Mehefin 2009 (UTC)
- ON 'Mother ship'? No connection with the Borg, I hope?! Anatiomaros 19:20, 25 Mehefin 2009 (UTC)
- I have made this template temporarily- it could be put on the hafan page?
BBC Vocab
|
- Ardderchog Rhys, ond dwi wedi nodi anhawster hefyd, ar dudalen sgwrs Nodyn:Vocab. Anatiomaros 19:39, 25 Mehefin 2009 (UTC)
- Gwych iawn. Mae'r consensws, uchod, yn amlwg yn ei groesawu. Mae angen cadarnhau hynny a rhoi gwybod i Fwrdd yr Iaith ein bod yn croesawu'r datblygiad hwn, ac yn barod i weithio arno. Mater bach ydy darganfod atebion (technegol) i sut i wneud hynny. HTML ydy Wici yn y bon, felly mae'r peth yn gwbwl bosibl. Pan da ni'n golygu, nid yr HTML da ni'n weld, wrth gwrs, a dyma lle mae'r broblem. Dau neu dri pwynt bach, negyddol, fodd bynnag. Tydw i ddim yn hoffi gweld Defnyddwyr yn syrffio i ffwrdd at y BBC. Mae nhw wedi sensro (ac yn dal i sensro) llawer iawn o'r hyn mae'r gwyliwr yn ei gael. Corff Seisnig, cyfalafol ydyw yn y bon. Efallai y byddan nhw'n tynnu'r carped o dan ein traed ryw dro, efallai y gwnân nhw godi am yr hawl, a thydw i ddim yn hoffi'r elfen o weld yr hysbyseb. BYDDWN WYLIADWRUS. Ond (a mi ddyweda i o eto) mae'n ychwanegiad gwerthfawr i ni - dim ond i ni fynd i fewn i'r peth efo'n llygaid yn gwbwl agored, ac yn ymwybodol o'r peryglon. Llywelyn2000 22:51, 25 Mehefin 2009 (UTC)
- Diolch am yr ymateb, Llywelyn. Dwi wedi sgwennu at y Bwrdd/Vocab heno ac mae 'na nodyn am y pwyntiau technegol ar Sgwrs Nodyn:Vocab; fel dwi'n deall y sefyllfa, copi enghreifftiol ydy'r un ar wefan BBC, i ni gael gweld sut mae'n gweithio, ac felly fydd pobl ddim yn gadael y wici unwaith i ni osod y peth i fyny. Ia, yr unig beth amheus ydy'r 'nodyn o gydnabyddiaeth', er mai dim ond y rhai sy'n dewis Vocab fydd yn gweld hynny. Anatiomaros 23:25, 25 Mehefin 2009 (UTC)
- ON Yn ôl yr hysbys, mae hyn mewn cydweithrediad â Chanolfan Bedwyr; nhw piau'r gronfa eiriadurol. Anatiomaros 23:27, 25 Mehefin 2009 (UTC)
- Gweler Sgwrs Nodyn:Vocab am y diweddaraf. Anatiomaros 19:44, 1 Gorffennaf 2009 (UTC)
25000 yn agosáu yn gyflym!!!
golyguGan fod cyrraedd y nifer yma o erthyglau yn dipyn o lwyddiant- mae'n werth i ni efallai arddangos rhywbeth ar y hafan! Darganfyddais y ddelwedd yma ar gomin wiki.
Rhys Thomas 09:41, 30 Awst 2009 (UTC)
- Gwych! Dwi'n cynnig ein bod yn ei ddefnyddio pan ddaw'r dydd. Llywelyn2000 19:17, 30 Awst 2009 (UTC)
Press release
golyguHeya dudes, sorry for the english post, but for a welshman my welsh is somewhat lacking. Wikimedia UK would really like to help you guys with the press release, particularly as we have an extensive press contact list. If there is a press release you guys have written (and if possible an english version), we would love to help spread the word. Many Thanks
Joseph Seddon, Wikimedia UK
Seddon 21:12, 13 Medi 2009 (UTC)
- Just spotted this. Thank you for your offer of help. We haven't got a press release yet but hopefully we'll have one ready before long. Any other ideas for publicity? Too late for me to think about it tonight - turned midnight. Diolch! Anatiomaros 23:26, 14 Medi 2009 (UTC)