Sgwrs Nodyn:Gwybodlen lle

Sylw diweddaraf: 3 mis yn ôl gan Llywelyn2000 ym mhwnc Aelod(au) Senedd Cymru

Nodyn atgoffa! Angen ychwanegu dyddiad Annibynniaeth y gwledydd, ac oddi wrth bwy. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:03, 16 Tachwedd 2018 (UTC)Ateb

Hyn yn hynod gymhleth (oherwydd natur WD). Angen ei symlhau ar ein hochor ni, gan nad yw'r wybodaeth yn newid. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:07, 17 Ebrill 2019 (UTC)Ateb

Nodyn atgofa 2:lleihau / crynhoi url i wefan ee Llanfair Pwllgwyngyll, Edlesborough. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:07, 17 Ebrill 2019 (UTC)Ateb

Gwybodlen lle

golygu
Symudwyd o Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000 gan Llywelyn2000.

Haia! Dwi wedi dechrau gweithio ar y lleodd Lloegr eto, a dwi'n ceisio teimlo naws defnyddio Gwybodlen lle mewn ffordd addas. Sai'n siŵr amdano o gwbl. Mae'r wybodlen hon yn well na'r hen "Infobox UK place", ond roedd pethau defnyddiol yn yr hen Infobox. Gei di edrych ar Thurcaston? Yno dwi wedi rhoi manylion y plwyf sifil o dan y pennawd "Ardal weinyddol" yn y wybodlen. Ydy hynny'n addas? A beth am yr ystadegau poblogaeth? Fyddan nhw'n mynd i mewn i'r wybodlen, neu yn y prif destun?

Hefyd, yn Thurcaston dwi'n gweld fod "Cod deialu" yn ymddangos. Mae manylion fel'na'n wastraff amser, yn fy marn i. Allwn ni ddim gwneud unrhyw beth defnyddiol gyda'r pwt o wybodaeth. Byddai'n well 'da fi gadw pethau'n daclus a'i guddio. --Craigysgafn (sgwrs) 16:41, 20 Ebrill 2019 (UTC)Ateb

@Craigysgafn: Diolch! Dw i'n cytuno ei fod yn welliant, a bod diffygion! Jyst i nodi un neu ddau o bethau yn gyntaf:
Yn gyffredinol - dylem osgoi ychwanegu manylion i'r Nodyn ar yr erthygl. Eithriadau ddylai fod yno. Mae'n angenrheidiol pan nad yw'r wybodaeth gywir ar Wicidata (WD) ee baner Cymru, Cernyw, Lloegr. Y rheswm dw i wedi rhoi'r Sir seremonïol a'r ardal/bwrdeisdref (pan fo hynny'n wybyddus) yw gan nad yw'r rhain ar Wicidata, hyd yma. Ymhellach, yr unig 'Property' sydd ar gyfer ardal weinyddol yw lleolir yn yr ardal weinyddol (sef P131), ac weithiau rhoddir yr Ardal, dro arall y sir seremoniol, ac yn achos Thurcaston, rhoddir y plwyf sifil!!! Y rheol ar WD yw nodi'r sir ar P131. Felly, gan fod hyn yn cymaint o gachfa ar Wicidata, penderfynais geisio unioni hynny drwy'r 'over-ride' dros dro, sef eu rhoi yn y Nodyn ar yr erthygl.
Pedair oed yw Wicidata, ac mae'n dal yn yr ysgol feithrin! Wrth i ragor a rhagor o fasau data gael eu huwchlwytho, mae'n aeddfedu. Mewn ychyig fisoedd, neu flwyddyn ar y mwyaf, fe ddywedwn i, bydd y dair lefel o awdurdodau gweinyddol / mathau o siroedd wedi eu rhoi, gyda phennawd i bob un. Yn wir, os oes gen ti gronfa ddata gyda'r enwau yma, fe elli ddefnyddio QuickStatements i'w huwchlwytho, a dyna'r job yn ei le ar cywici a phob xxwici arall hefyd... tan y newid ffiniau nesa!
Y sefyllfa ddelfrydol - bob yr holl wybodaeth yn dod o Wicidata; hwn yw'r tymor hir
Dros dro / tymor byr - naill ai ychwanegu gwybodaeth i filoedd o erthyglau neu dderbyn y bydd y gwybodlenni'n ddiffygiol am rai misoedd / blwyddyn, gan fod y wybodaeth yn ddiffygiol ar WD.
Yn ychwanegol at hyn, gan mai rhyw gant o enwau Ardaloedd a siroedd sydd, mater bach fydd eu tynnu o bob erthygl pan fo'r data yn ei le, gan ddefnyddio AWB neu declyn tebyg, a chaniatau i'r llif wybodaeth ddod o WD. Ond os ydym yn mynd i ychwanegu gwybodaeth wahanol, pob tro, bydd hyn yn anoddach.
Cyn gynted a mod i wedi ychwanegu'r wybodlen wd i'r holl erthyglau, bwriadaf ddechrau ar y gwaith o ganfod rhestrau plwyfi sifil er mwyn eu rhoi ar WD. Ac ychwanegu Nodwedd/Property newydd ar gyfer plwyfi sifil.
Parthed y cod deialu - dw i'n cytuno, a mi wnaf hynny rwan ar y Nodyn yma. Wnes i ddim ychwanegu pethau dibwys eraill, fel corff trefnu ambiwlansus a heddlu'r sir ayb. A gallem ychwanegu enw'r etholaeth os oes angen. Yn bersonol, edrychaf ymlaen i weld pa lwyth Celtaidd oedd yn yr ardal - a byddai hynny'n brosiect gwerth chweil!
Y bwlch mawr ar yr erthyglau, yn fy marn i yw cynnwys yr erthygl, nid y wybodlen. A byddai ychwanegu un frawddeg unigryw am y pentref yn cyfoethogi'r Wicipedia Cymraeg. Pan fo'r wybodaeth ar Wicidata ee poblogaeth y pentre neu blwy sifil, gallai hynny ymddangos yn fyw, fel ei fod yn cael ei diweddaru 'on the fly' / fel llif byw, yn hytrach na gwybodaeth statig sy'n dyddio dros nos!
Edrychaf ymlaen at dy farn ar y chydig eiriau yma; efallai fod gen ti berspectif gwahanol -ac edrychaf ymlaen at hwnnw! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:15, 21 Ebrill 2019 (UTC)Ateb
Mae'r categoriau 'plwyfi sifil' ti wedi eu creu ar Wicipedia yn arbennig o wych. A mae nhw / mi fyddan nhw'n ddefnyddiol am amser maith. Y cwestiwn ydy a wyt am i mi greu pennawd newydd ar eu cyfer (i'w roi jyst uwch ben y pennawd 'Ardal weinyddol', rwan, neu aros nes fod y wybodaeth ar WD? Dw i ddim yn hapus rhoi Plwyf sifil o dan 'Ardal weinyddol', gan fod 'Ardal' yn y cyswllt yma'n cyfeirio'n benodol at 'District' yn Saesneg. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:07, 21 Ebrill 2019 (UTC)Ateb
@Llywelyn2000: Mae popeth wyt ti'n ei ddweud yma yn swnio'n synhwyrol iawn. Mae'n amlwg taw'r cyfeiriad cywir yw Wicidata, a bydd hynny'n cymryd amser i ddatblygu. Ond nawr dwi'n teimlo braidd yn ansicr sut y gallaf i gyfrannu at y broses. Falle dylwn i adael llonydd i'r gwybodlenni a cyfrannu i'r prif destun yn unig. Craigysgafn (sgwrs) 21:15, 21 Ebrill 2019 (UTC)Ateb
Dwn i ddim! Ond yn sicr mae'r prif destun yn denau fel menyn Eifion ar dost, neu groen rhech. Ond plis cadwa lygad ar y gwybodlenni hefyd! Mae sawl par o lygad yn cadw rhywun ar y trywydd iawn! Os gweli Ardal sydd yn eisiau, croeso i ti ei ychwanegu ar y wybodlen, a'r catergori. Hwyl am y tro! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:38, 22 Ebrill 2019 (UTC)Ateb
@Llywelyn2000: Sori! O'n i'n teimlo braidd yn ddigalon ddoe pan o'n i'n sgwennu y neges 'na. Mae'n swnio'n eitha pwdlyd. Yr hyn y dylwn fod wedi'i dweud oedd, "Bydda i'n canolbwyntio ar y prif destun am y tro, a dod yn ôl i'r gwybodlenni pan bydda i wedi mynd i'r waelod y pethau!" Hwyl! Craigysgafn (sgwrs) 22:36, 22 Ebrill 2019 (UTC)Ateb

Cyd-olygyddion cyfarchion! Cafodd fy golygiad blaenorol ei ddileu, felly byddaf yn rhoi cynnig arall arni. A oes gan unrhyw un wrthwynebiad dilys i ychwanegu eiddo Wicidata P7959 fel y dangosir yma? https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Nodyn:Gwyllen_lle&diff=10811594&oldid=10161394 Owain (sgwrs) 17:36, 14 Ionawr 2021 (UTC)Ateb

Oes. Rwy'n ei wrthwynebu. Nid wyf yn hapus i weld P7959 yn cael ei ychwanegu at y wybodlen hon heb lawer mwy o feddwl. Byddai'n cael effaith fawr ar y miloedd o leoedd yn Lloegr rwyf wedi'u golygu. Er enghraifft, mae llawer o leoedd yn Lloegr wedi mynd trwy fwy nag un newid gweinyddol ers iddynt fod mewn sir hanesyddol. Beth am y wybodaeth honno? Ond nid yw'r pethau hyn yn angenrheidiol. Gadewch i ni gadw pethau'n syml. --Craigysgafn (sgwrs) 18:04, 14 Ionawr 2021 (UTC)Ateb
Daw'r wybodaeth o Fynegai Enwau Lleoedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'n hollol ar wahân i wybodaeth awdurdodau lleol - Mae'n ychwanegol. Mae'n ddefnyddiol iawn ar gyfer lleoedd yn Lloegr, gan y byddai'n dangos yr ardaloedd daearyddol cywir fel "Swydd Efrog" a "Middlesex" nad ydyn nhw'n cael eu dangos gan wybodaeth yr awdurdod lleol. Owain (sgwrs) 10:34, 18 Ionawr 2021 (UTC)Ateb

Iaith

golygu

Gyda "Arwyddair", yn aml mae'r tecst yn iaith arall. A alla rhywun ei newid fel y nodyn fod yn defnyddio Nodyn:Lang, neu lang="xx". Yn testun arwyddair (P1451) mae'r iaith hefyd; gallwn ni darllen yr iaith ac ei labelu yn y côd? — OwenBlacker (sgwrs) 11:03, 13 Ionawr 2024 (UTC)Ateb

@OwenBlacker: haia Owen! Sorri am fod mor hir cyn dy ateb! Yn yr erthygl Portiwgal, mae'r testun Saesneg yn ymddangos, fel ti'n ei awgrymu. Mi rois glic ar y pensil las (golyga ar Wicidata) a mi wnes ychwanegu'r arwyddair Cymraeg, a'i safio. Mae nawr yn ymddangos yn Gymraeg yn y wybodlen / infobox. Mae dy awgrym di yn llawer gwell, ond yn golygu llawer o waith cael fy mhen rownd y cod! Rhyw ddydd! Diolch a chofion... Llywelyn2000 (sgwrs) 11:40, 22 Ionawr 2024 (UTC)Ateb
Haia. Wyt ti'n ngywir — rhaid i rhywun i ysgriffenu hi yn Lua, dwi'n meddwl. — OwenBlacker (sgwrs) 11:59, 22 Ionawr 2024 (UTC)Ateb
  Cwblhawyd
Wedi cyfieithu pob arwyddair gwlad ar WD; rhowch wybod os y gwelwch un mewn iaith arall. Diolch am yr heads up, OwenBlacker. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:14, 27 Medi 2024 (UTC)Ateb

Aelod(au) Senedd Cymru

golygu

Mae'r nodyn yn defnyddio

  | aelodcynulliad = {{Swits <lle> i enw'r AC}}
  | aelodseneddol = {{Swits <lle> i enw'r AS}}

i dangos

AC/au: <enw a phlaid>
AS/au: <enw a phlaid>

ond rŵan mae gennym Senedd Cymru, nid Cynulliad.

Gallwn ni ei symud i, er enghraifft, "AS/au Cymru" ac "AS/au San Steffan" (neu "AS/au y DU"), efallai? Gyda aelod-cymru ac aelod-san-steffan yn y cod. A hefyd gallwn ni symud y nodynnau o {{Swits <lle> i enw'r AC}} a {{Swits <lle> i enw'r AS}} i {{Swits <lle> i enw'r AS Cymru}} a {{Siwts <lle> i enw'r AS y DU}} (neu ...AS San Steffan os sy'n wella i bobl) ?

Be' dach chi bawb yn meddwl? —  OwenBlacker (sgwrs) 21:30, 12 Awst 2024 (UTC)Ateb

Oes, ti'n iawn; er nad yw'n weledol i'r darllenydd, mae angen cysondeb a chywirdeb. Mi wnes newid Categori:Switsis gweinyddu i gynnwys 'Aelod o'r Senedd'. Croeso i ti newid y nodyn yma a'r erthyglau unigol, os wyt yn defnyddio AWB neu ei debyg. Os nad, rho wybod, a mi roi o ar y rhestr (hiiiir!) o bethau i'w geneud. Diolch am godi hyn! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:00, 15 Awst 2024 (UTC)Ateb
Roi o ar dy restr, os ti'n gallu, plîs, ond ceisia i o wneud gyda AWB os gen i amser yn fuan 😅 — OwenBlacker (sgwrs) 13:15, 15 Awst 2024 (UTC)Ateb
Ar y gweill
  1. Rhan 1 y prif 'Nodyn:Lle'. Creu 'Nodyn:Gwybodlen lle dros dro' a phrofi. Bot wedi newid Cilâ Uchaf. Mae i'w weld yn gweithio.
  2. Newid y switsys unigol, bob yn etholaeth
  3. Rhoi'r wubodaeth newydd ar y brif 'Nodyn:Gwybodlen lle' a dileu 'Nodyn:Gwybodlen lle dros dro'.
Llywelyn2000 (sgwrs) 10:09, 27 Medi 2024 (UTC)Ateb
  Cwblhawyd
@OwenBlacker: diolch am y proc!
Nôl i'r dudalen "Gwybodlen lle".