Shelagh Williams
Athrawes a chyfieithydd dramâu o Gaergybi yw Shelagh Williams.
Shelagh Williams | |
---|---|
Ganwyd | Caergybi |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | athro, cyfieithydd dramâu |
Cysylltir gyda | Y Cylch Sialc |
Fe'i ganed yng Nghaergybi, Ynys Môn cyn astudio ym Mhrifysgol Birmingham.
Bu'n dysgu mewn ysgolion yn Yr Almaen, Swydd Efrog a Llundain, cyn ymgartrefu ym Mangor, a dysgu ieithoedd modern yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy.
Ymddiddorai mewn Theatr erioed ac wedi actio llawer fel amatur.
Y Cylch Sialc oedd ei hymgais gyntaf ar addasu drama. Llwyfanwyd y gwaith gan Gwmni Theatr Gwynedd ym 1988.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rhaglen Y Cylch Sialc - Cwmni Theatr Gwynedd 1988.