Rhestr o lyfrau Sherlock Holmes

Dyma restr o lyfrau sy'n adrodd hanes y ditectif ymgynghorol Sherlock Holmes. Mae Holmes yn gymeriad a grëwyd yn wreiddiol gan yr Awdur Albanaidd Syr Arthur Conan Doyle.

Llyfrau canonaidd

golygu

Yn gywir, defnyddir y term llyfrau canonaidd, i ddisgrifio rhestr o lyfrau a dderbynnir gan gorff eglwysig fel rhan o'r Ysgrythur Sanctaidd. Mae ffaniau llyfrau Sherlock Holmes yn defnyddio'r un ymadrodd i wahaniaethu y llyfrau gwreiddiol gan Doyle a llyfrau diweddarach gan awduron eraill sy'n defnyddio'r un cymeriadau.

Yn draddodiadol, mae canon Sherlock Holmes yn cynnwys y 56 stori fer a phedair nofel a ysgrifennwyd gan Syr Arthur Conan Doyle.[1]

Nofelau

golygu

Pedair nofel y canon yw:

  1. A Study in Scarlet (1887) [2]
  2. The Sign of the Four (1890) [3]
  3. The Hound of the Baskervilles (1901–1902) [4]
  4. The Valley of Fear (1914–1915) [5]

Straeon byrion

golygu

Cesglir y 56 stori fer mewn pum llyfr:

  1. The Adventures of Sherlock Holmes (1892)
  2. The Memoirs of Sherlock Holmes (1894)
  3. The Return of Sherlock Holmes (1905)
  4. His Last Bow (1917)
  5. The Case-Book of Sherlock Holmes (1927)

The Adventures of Sherlock Holmes (1892)

golygu

Cyhoeddwyd 14 Hydref 1892; yn cynnwys 12 stori a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn The Strand rhwng Gorffennaf 1891 a Mehefin 1892 gyda lluniau gwreiddiol gan Sidney Paget.[6]

  1. A Scandal in Bohemia (Mehefin 1891)
  2. The Red-Headed League (Awst 1891)
  3. A Case of Identity (Medi 1891)
  4. The Boscombe Valley Mystery (Hydref 1891)
  5. The Five Orange Pips (Tachwedd 1891)
  6. The Man with the Twisted Lip (Rhagfyr 1891)
  7. The Adventure of the Blue Carbuncle (Ionawr 1892)
  8. The Adventure of the Speckled Band (Chwefror 1892) (Addaswyd i'r Gymraeg fel Y Cylch Brith gan Eurwyn Pierce Jones) [7]
  9. The Adventure of the Engineer's Thumb (Mawrth 1892)
  10. The Adventure of the Noble Bachelor (Ebrill 1892)
  11. The Adventure of the Beryl Coronet (Mai 1892)
  12. The Adventure of the Copper Beeches (Mehefin 1892)

The Memoirs of Sherlock Holmes (1893–94)

golygu
 
Clawr yr argraffiad cyntaf o The Memoirs of Sherlock Holmes, 1894.

Yn cynnwys 12 stori a gyhoeddwyd yn The Strand fel penodau pellach o'r Anturiaethau rhwng Rhagfyr 1892 a Rhagfyr 1893 gyda lluniau gwreiddiol gan Sidney Paget Mae'r stori The Adventure of the Cardboard Box wedi'i chynnwys fel rhan o His Last Bow mewn rhifynnau Americanaidd ac yn The Memoirs of Sherlock Holmes mewn rhifynnau Prydeinig o'r canon

  1. The Adventure of Silver Blaze (Rhagfyr 1892)
  2. The Adventure of the Cardboard Box (Ionawr 1893)
  3. The Adventure of the Yellow Face (Chwefror 1893)
  4. The Adventure of the Stockbroker's Clerk (Mawrth 1893)
  5. The Adventure of the Gloria Scott (Ebrill 1893)
  6. The Adventure of the Musgrave Ritual (Mai 1893)
  7. The Adventure of the Reigate Squire (Mehefin 1893)
  8. The Adventure of the Crooked Man (Gorffennaf 1893)
  9. The Adventure of the Resident Patient (Awst 1893)
  10. The Adventure of the Greek Interpreter (Medi 1893)
  11. The Adventure of the Naval Treaty (Hydref–Tachwedd 1893)
  12. The Final Problem (Rhagfyr 1893)

The Return of Sherlock Holmes (1905)

golygu

Yn cynnwys 13 stori a gyhoeddwyd yn The Strand rhwng Hydref 1903 a Rhagfyr 1904 gyda lluniau gwreiddiol gan Sidney Paget.

  1. The Adventure of the Empty House (Hydref 1903)
  2. The Adventure of the Norwood Builder (Tachwedd 1903)
  3. The Adventure of the Dancing Men (Rhagfyr 1903)
  4. The Adventure of the Solitary Cyclist (Ionawr 1904)
  5. The Adventure of the Priory School (Chwefror 1904)
  6. The Adventure of Black Peter (Mawrth 1904)
  7. The Adventure of Charles Awstus Milverton (Ebrill 1904)
  8. The Adventure of the Six Napoleons (Mai 1904)
  9. The Adventure of the Three Students (Mehefin 1904)
  10. The Adventure of the Golden Pince-Nez (Gorffennaf 1904)
  11. The Adventure of the Missing Three-Quarter (Awst 1904)
  12. The Adventure of the Abbey Grange (Medi 1904)
  13. The Adventure of the Second Stain (Rhagfyr 1904)

His Last Bow (1917)

golygu

Yn cynnwys 7 stori a gyhoeddwyd 1908–1917.

  1. The Adventure of Wisteria Lodge (1908)
  2. The Adventure of the Red Circle (1911)
  3. The Adventure of the Bruce-Partington Plans (1908)
  4. The Adventure of the Dying Detective (1913)
  5. The Disappearance of Lady Frances Carfax (1911)
  6. The Adventure of the Devil's Foot (1910)
  7. His Last Bow. The War Service of Sherlock Holmes (1917)

The Case-Book of Sherlock Holmes (1927)

golygu

Yn cynnwys 12 stori a gyhoeddwyd 1921–1927.

  1. The Adventure of the Mazarin Stone (1921)
  2. The Problem of Thor Bridge (1922)
  3. The Adventure of the Creeping Man (1923)
  4. The Adventure of the Sussex Vampire (1924)
  5. The Adventure of the Three Garridebs (1924)
  6. The Adventure of the Illustrious Client (1924)
  7. The Adventure of the Three Gables (1926)
  8. The Adventure of the Blanched Soldier (1926)
  9. The Adventure of the Lion's Mane (1926)
  10. The Adventure of the Retired Colourman (1926)
  11. The Adventure of the Veiled Lodger (1927)
  12. The Adventure of Shoscombe Old Place (1927)

Gweithiau allganonaidd

golygu

Ers marwolaeth yr awdur, mae arbenigwr Holmes, proffesiynol ac amatur, wedi trafod ehangu’r canon uchod i gynnwys gweithiau eraill gan Doyle, gan gynnwys gweithiau mewn cyfryngau eraill, i’r rhestr gyflawn gyfredol. Mae sibrydion rheolaidd am weithiau coll. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae ymchwiliadau pellach wedi datgelu mwy na'r canon a gasglwyd yn draddodiadol.

Ymhlith y casgliadau cyhoeddedig o weithiau allganonaidd mae:

  • Sherlock Holmes: The Published Apocrypha, wedi'i olygu gan Jack Tracy [8]
  • The Final Adventures of Sherlock Holmes, wedi'i olygu gan Peter Haining [9]
  • The Uncollected Sherlock Holmes, wedi'i olygu gan Richard Lancelyn Green [10]
  • The Apocrypha of Sherlock Holmes gan Leslie S. Klinger [11]

Mae'r gweithiau hyn, pob un â chynnwys ychydig yn wahanol, yn trafod sawl teitl a'u honiadau am le yn y canon ar gyfer weithiau amgen.

Gweithiau sy'n sicr gan Doyle

golygu

Ymysg y rhai sydd yn sicr yn waith gan Doyle mae:

  • The Field Bazaar (1896). Ysgrifennwyd ar gyfer digwyddiad codi arian ar gyfer Prifysgol Caeredin. Roedd ei brifysgol wedi gofyn i Doyle gyfrannu darn byr o lenyddiaeth ar gyfer cylchgrawn elusennol.
  • The Story of the Lost Special (1898). Er bod Doyle wedi lladd ei gymeriad erbyn 1894, ysgrifennodd straeon byrion eraill i'w cyhoeddi yn The Strand, gan gynnwys The Story of the Lost Special. Mae'r stori yn ddirgelwch ymddangosiadol anesboniadwy lle mae trên arbennig a'i ychydig deithwyr yn diflannu rhwng dwy orsaf. Ar ôl i'r dirgelwch gael ei ddisgrifio'n llawn, dywedir bod llythyr wedi ymddangos yn y wasg, yn rhoi ateb arfaethedig gan 'ymresymwr amatur o beth enwogrwydd'. Mae Haining, Tracy, a Green wedi cynnig, ymhlith eraill mae Sherlock Holmes oedd yr ymresymwr amatur hwn. Mae'r stori yn cael ei gynnwys yn y rhestr Ffrengig o'r gweithiau cyflawn. Oherwydd bod yr ateb a awgrymir yn cael ei brofi’n anghywir, trwy gyfaddefiad gan y troseddwr ar ôl iddo gael ei arestio, am drosedd arall, y gred gyffredinol yw fod Doyle wedi portreadu cymeriad sy'n gwneud parodi methedig o arddull rhesymu Holmes.
  • The Story of the Man with the Watches (1898). Cyhoeddwyd yn The Strand gan Doyle. Stori arall lle mae ditectif amatur yn dod i'r casgliad anghywir trwy geisio defnyddio arddull rhesymu Holmes.
  • How Watson Learned the Trick (1924). Yn y 1920au penderfynodd y pensaer Syr Edwin Lutyens creu tŷ doliau ar gyfer Y Frenhines Mary gwraig Y Brenin Siôr V. Cyfrannodd nifer o awduron y dydd llyfrau microsgopig ber ar gyfer llyfrgell y tŷ gan gynnwys Doyle. Ond gan fod ei lyfr yn llai na 600 gair o hyd, nid yw'n cyrraedd y safon, gan y mwyafrif o arbenigwyr, i gael ei gynnwys yn y canon fel llyfr na stori fer.

Gweithiau amheus

golygu
  • The Case of the Man Who Was Wanted (tua. 1914) Darganfuwyd y stori ymysg papurau Conan Doyle ym 1942 gan Hesketh Pearson, un o'i fywgraffyddion. Fe'i cyhoeddwyd ym 1943 fel un o'i straeon. Ond gan ei fod wedi ei deipio yn hytrach na'i ysgrifennu a llaw roedd rhai yn amau ei fod yn ffugiad. Canfuwyd bod y stori wedi ei ddanfon gan ŵr o'r enw Arthur Whitaker, fel awgrym i annog Doyle i ysgrifennu mwy am ei hoff dditectif.
  • The Adventure of the Two Collaborators (1923) Stori mae nifer yn honni i Doyle ysgrifennu ar gyfer ei gyfaill J. M. Barrie (awdur Peter Pan). Mewn gwirionedd ysgrifennodd Barrie y stori ar gyfer Doyle. Mae'r stori yn adrodd sut bu i Barrie a Doyle ymweld â Holmes a'i lofruddio gan ei fod yn boen yn din hollwybodol! [12]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "List of Sherlock Holmes Short Stories and Novels". Baker Street Fandom. Cyrchwyd 2020-02-19.
  2. "A Study in Scarlet". www.goodreads.com. Cyrchwyd 2020-02-19.
  3. Smith, Daniel, 1976- (2011). The Sherlock Holmes companion : an elementary guide. New York: Castle Books. ISBN 978-0-7858-2784-9. OCLC 682895762.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  4. "The Hound of the Baskervilles - The Arthur Conan Doyle Encyclopedia". www.arthur-conan-doyle.com. Cyrchwyd 2020-02-18.
  5. "The Valley of Fear - The Arthur Conan Doyle Encyclopedia". www.arthur-conan-doyle.com. Cyrchwyd 2020-02-19.
  6. Wolfreys, Julian (1996). Introduction to The Adventures of Sherlock Holmes. Ware: Wordsworth Classics. pp. vii, 115. ISBN 1-85326-033-9.
  7. Doyle, Arthur Conan; Jones, Eurwyn Pierce. Cylch Brith, Y. , Eurwyn Pierce,. Tal-y-bont. ISBN 978-1-84771-954-6. OCLC 888468067.CS1 maint: extra punctuation (link)
  8. Tracy,, Jack (1897). The encyclopaedia Sherlockiana, or, A universal dictionary of the state of knowledge of Sherlock Holmes and his biographer John H. Watson, M.D. Efrog Newydd: Avenel Books. ISBN 0-517-65444-X. OCLC 16578741.CS1 maint: extra punctuation (link)
  9. Haining, Peter (2005). The final adventures of Sherlock Holmes (arg. New, rev., illustrated and expanded ed). Berkeley, Califfornia: Apocryphile Press. ISBN 0-9764025-3-X. OCLC 174000754.CS1 maint: extra text (link)
  10. Green, Richard Lancelyn (1983). The uncollected Sherlock Holmes. Harmondsworth: Penguin. ISBN 0-14-006432-X. OCLC 59146198.
  11. Klinger, Leslie S (2009). The apocrypha of Sherlock Holmes (arg. 1af). Indianapolis: Gasogene. ISBN 0-938501-49-6. OCLC 301482360.
  12. Peoria, Sherlock (2014-12-05). "Sherlock Peoria: The Adventure of the Two Collaborators -- THE SEQUEL!". Sherlock Peoria. Cyrchwyd 2020-02-19.