Shirley Temple
Actores a dawnswraig Americanaidd a ddaeth yn enwog fel actores ifanc eiconig yn y 1930au ac a dreuliodd gyfnod fel diplomydd a llysgenhad fel oedolyn oedd Shirley Jane Temple (23 Ebrill 1928 – 10 Chwefror 2014). Dan ei henw llwyfan Shirley Temple, roedd hi'n un o ffigurau mwyaf adnabyddus America yn ystod y Dirwasgiad Mawr gan serennu mewn sawl ffilm Hollywood sentimentalaidd.
Shirley Temple | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
23 Ebrill 1928 ![]() Santa Monica ![]() |
Bu farw |
10 Chwefror 2014 ![]() Achos: clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ![]() Woodside ![]() |
Label recordio |
RCA Victor ![]() |
Dinasyddiaeth |
Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
actor, actor ffilm, canwr, diplomydd, actor plentyn, dawnsiwr, actor teledu, gwleidydd ![]() |
Swydd |
United States Ambassador to Ghana, United States Ambassador to Czechoslovakia, Chief of Protocol of the United States ![]() |
Plaid Wleidyddol |
plaid Weriniaethol ![]() |
Tad |
George Francis Temple ![]() |
Mam |
Gertrude Amelia Temple ![]() |
Priod |
John Agar, Charles Alden Black ![]() |
Plant |
Lori Black ![]() |
Gwobr/au |
Academy Juvenile Award, Gwobr Cyflawniad Urdd yr Actorion Sgrîn, Anrhydedd y Kennedy Center, Honorary citizen of Plzeň, Golden Plate Award ![]() |
Gwefan |
http://www.shirleytemple.com/ ![]() |
Llofnod | |
|
Cafodd ei eni yn Santa Monica, Califfornia, UDA. Rhydhaodd sawl cân lwyddiannus iawn, wedi'u cymryd o'i ffilmiau, yn cynnwys On the Good Ship Lolipop.
Mae sawl beirniad, yn cynnwys y nofelydd Graham Greene, wedi gweld ffimiau cynnar Temple fel enghreifftiau honedig o'r ffordd roedd Hollywood yn rhywiolaethu actorion ac actoresau ifainc. Ysbydolwyd Salvador Dalí i greu'r darlun Shirley Temple, Anghenfil Sinema Mwyaf Ifanc, Mwyaf Sanctaidd, ei Hoes (teitl Saesneg arferol: Shirley Temple, The Youngest, Most Sacred Monster of the Cinema in Her Time) sy'n portreadu Temple fel sffincs.