Shoned Wyn Jones
awdures Gymreig
Awdures ac athrawes yw Shoned Wyn Jones (ganwyd 5 Ebrill 1958).[1]
Bywgraffiad
golyguCafodd Shoned ei geni yn Nyffryn Ogwen, a'i magu yn Llangefni a Llangristiolus ar Ynys Môn cyn dychwelyd i Ddyffryn Ogwen pan oedd yn 14. Fe'i addysgwyd yn Ysgol Gynradd Penrallt, Llangefni ac Ysgol Gynradd yr Henblas, Llangristiolus, yna Ysgolion Uwchradd Llangefni a Dyffryn Ogwen. Aeth ymlaen i astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.[1]
Mae'n gweithio fel athrawes ac yn byw ym Mangor.[2]
Anrhydeddau
golygu- 2002 - Gwobr Tir na n-Og am Gwirioni
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Shoned Wyn Jones - Cyngor Llyfrau Cymru. Cyngor Llyfrau Cymru. Adalwyd ar 22 Medi 2016.
- ↑ Cylchgrawn - Awduron. BBC Cymru. Adalwyd ar 22 Medi 2016.