Siôn Russell Jones
Canwr a chyfansoddwr o Gymro yw Siôn Russell Jones.
Siôn Russell Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1986 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, cyfansoddwr caneuon |
Tad | Terry Dyddgen-Jones |
Gwefan | http://www.sionrusselljones.com |
Bywyd a gyrfa
golyguFe'i ganwyd yng Nghaerdydd. Dechreuodd chwarae'r gitâr yn 7 oed ac aeth ymlaen i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Morgannwg (bellach Prifysgol De Cymru).[1]
Ym mis Hydref 2010, rhyddhaodd Siôn ei albwm cyntaf And Suddenly drwy Still Small Voice Music, a recordiwyd yn ystod ei flwyddyn olaf yn Ysgol Diwydiannau Creadigol A Diwylliannol, Yr Atrium, Caerdydd.[2]
Mae ei gerddoriaeth wedi ei ddefnyddio yn y cefndir ar yr operâu sebon Prydeinig Coronation Street ac EastEnders. Mae ei ganeuon wedi ymddangos hefyd ar y gyfres comedi Stella.
Yn 2011, arwyddodd Siôn gytundeb cyhoeddi gyda BDi music,[3] ac yn ystod haf 2011, bu'n perfformio mewn nifer o wyliau yng Nghymru a Lloegr gan gynnwys[angen ffynhonnell] The Acoustic Festival of Britain, Festival of the Celts, a Gŵyl y Dyn Gwyrdd.
Ym mis Mawrth 2012, perfformiodd yng ngŵyl gerddorol SXSW yn Austin, Texas.[4]
Ers hynny mae wedi parhau i recordio a pherfformio.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Revealed: The 10 hottest new Welsh musical acts to look out for". www.walesonline.co.uk. 13 Awst 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-15. Cyrchwyd 8 Medi 2011.
- ↑ "Artist Profile: Siôn Russell Jones". Green Man Festival. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-11. Cyrchwyd 8 Medi 2011.
- ↑ "BDi signs welsh talent, Sion Russell Jones". BDi. 10 August 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-23. Cyrchwyd 8 Medi 2011.
- ↑ "SXSW Schedule and at Canadian Music Week, Toronto as well as showcase gigs at the Rockwood Music Hall and Living Room in New York. 2012". SXSW. Cyrchwyd 15 Mawrth 2012.
- ↑ https://www.facebook.com/SionRussellJones/photos/a.192642130771181.35931.187008208001240/1397191810316201/