Terry Dyddgen-Jones

Cyfarwyddwr teledu o Gymro

Cyfarwyddwr a cynhyrchydd teledu o Gymro oedd Terry Dyddgen-Jones (Gorffennaf 195027 Mehefin 2018).

Terry Dyddgen-Jones
GanwydTerry Jones Edit this on Wikidata
Gorffennaf 1950 Edit this on Wikidata
Crwbin Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mehefin 2018 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfarwyddwr teledu Edit this on Wikidata
PlantSiôn Russell Jones Edit this on Wikidata

Yn wreiddiol o Sir gaerfyrddin, roedd Terry'n fwyaf adnabyddus fel un o gyfarwyddwyr drama teledu rhwydwaith, ac am gynhyrchu ffilmiau ar gyfer BBC ac ITV. Bu’n gyfrifol am gyfarwyddo dros 200 o benodau o'r opera sebon Coronation Street, ac roedd hefyd yn adnabyddus yng Nghymru am gyfarwyddo cyfresi Parch a Byw Celwydd, ynghyd â’i waith fel uwch-gynhyrchydd Pobol y Cwm. Bu farw Terry Dyddgen Jones ddiwedd Mehefin yn Ysbyty Felindre, Caerdydd wedi salwch byr.[1] Ei fab yw'r canwr a cyfansoddwr Sion Russell Jones.[2]

Bywyd cynnar golygu

Fe'i ganwyd ym mhentref Crwbin, Sir Gaerfyrddin. Aeth i Ysgol Ramadeg Cwm Gwendraeth.[3] Ei enw bedydd oedd Terry Jones ond pan ymunodd ag Equity yn 1974 roedd rhaid iddo ddewis enw newydd er mwyn osgoi dryswch gyda'r digrifwr Terry Jones o Monty Python. Dewisodd yr enw Dyddgen am fod ei hen-ddad-cu wedi ei ddefnyddio fel enw barddol. Mae yna hefyd Gapel Dyddgen ger Crwbin.[2]

Cychwynnodd ei yrfa fel athro drama yn Ysgol Glan Clwyd a bu'n gweithio gyda Clwyd Theatr Cymru yn y cyfnod hwn.[4]

Gyrfa teledu golygu

Yn y 1970au roedd yn gyflwynydd a chynhyrchydd rhaglenni Cymraeg gyda HTV Cymru. Bu hefyd yn actor, cynhyrchydd a chyfarwyddwr ar Pobol y Cwm. Bu'n cyfarwyddo penodau o'r gyfres ddrama Pam Fi Duw? yn y 1990au. Gweithiodd fel cyfarwyddwr ar rai o operâu sebon mwyaf y BBC ac ITV, yn bennaf ar dros 200 benodau ar Coronation Street rhwng 1997 a 2014. Gweithiodd am gyfnodau ar Hollyoaks, Eastenders ac Emmerdale hefyd.

Yn fwy diweddar, bu'n cyfarwyddo ar y cyfresi drama Cymraeg Byw Celwydd a Parch.

Bywyd personol golygu

Roedd yn briod a Judith ac roedd ganddynt dri plentyn, Leah, Jack, Sion.[5]

Anrhydeddau golygu

Enillodd sawl wobr BAFTA am ei waith ar operâu sebon a dramau.

Anrhydeddwyr ef, wedi'i farwolaeth, gyda gwisg werdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018.

Cyfeiriadau golygu

  1. Y cyfarwyddwr teledu Terry Dyddgen-Jones wedi marw , BBC Cymru Fyw, 28 Mehefin 2018.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Coronation Street Blog interviews Corrie director Terry Dyddgen-Jones. Coronation Street Blog (12 Mawrth 2015). Adalwyd ar 28 Mehefin 2018.
  3. Ddysgu rhywbeth newydd bob dydd , Pembrokeshire Herald, 14 Hydref 2016. Cyrchwyd ar 28 Mehefin 2018.
  4. Street wise; Gareth Bicknell on how Terry Dyddgen-Jones went from drama teacher to The Street director. (en) , Daily Post, 19 Mehefin 2004. Cyrchwyd ar 28 Mehefin 2018.
  5.  Terry DYDDGEN-JONES : Obituary. Western Mail (9 Gorffennaf 2018).

Dolenni allanol golygu