Cromlechi Dyffryn Ardudwy
Pâr o siambrau claddu (cromlechi) cynhanesyddol ar gyrion Dyffryn Ardudwy, Gwynedd, yw Cromlechi Dyffryn Ardudwy. Fe'u gelwir hefyd yn Goetan Arthur (mae dwy arall o'r un enw yng Nghymru) a Cherrig Arthur. Fe'u lleolir y tu ôl i Ysgol Dyffryn Ardudwy. "Beddrod Porth" yw enw'r math hwn o gromlech a dim ond yn Iwerddon, Cernyw, Ynys Môn ac ym Meirionnydd y maent i'w cael.
Math | siambr gladdu |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Dyffryn Ardudwy |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.784603°N 4.093643°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | ME003 |
Adeiladwyd y beddrodau yn y safle claddu Neolithig hwn (Oes Newydd y Cerrig) mewn dau gyfnod gwahanol. Y siambr lai o faint i’r gorllewin oedd y cyntaf. Roedd y ddolmen (neu gromlech) hon yn cynnwys dau borthfaen a maen rhwystro uchel gyda maen capan yn gorffwys ar ei ben, ac fe’i gorchuddiwyd â charnedd fechan, o fras siâp cylch. Nifer o genedlaethau’n ddiweddarach, adeiladwyd y beddrod mwy o faint i’r dwyrain ac fe’i claddwyd o dan garnedd siâp lletem tua 100 troedfedd (30 m) o hyd, a oedd yn amgáu ei gymydog. Yn agored i’r awyr bellach, mae’r ddau feddrod mewn cyflwr eithriadol o dda, a’r meini capan yn dal i orffwys yn ddiogel ar eu meini unionsyth.[1]
-
Y ddwy gromlech
-
Un o'r cromlechi
Mae'r safle yng ngofal Cadw ac ar agor i'r cyhoedd. Gellir ei gyrraedd yn rhwydd o'r pentref trwy ddilyn yr arwyddbyst.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Siambr Gladdu Duffryn Ardudwy", Gwefan Cadw; adalwyd 20 Rhagfyr 2021