Tŷ Illtud
siambr gladdu
(Ailgyfeiriad o Siambr gladdu Tŷ Illtud)
Heneb, a math o siambr gladdu sy'n perthyn i Oes Newydd y Cerrig a chyn hynny (rhwng 3,000 a 2,400 C.C.)[1] ydy Tŷ Illtud, ger Llanfrynach, Powys; cyfeiriad grid SO098263. [2]
Math | siambr gladdu |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.928517°N 3.312627°W |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | BR011 |
Gelwir y math yma o siambr yn siambr gladdu hir (lluosog: siambrau claddu hirion) ac fe gofrestrwyd siambr gladdu Tŷ Illtyd fel heneb gan Cadw gyda'r rhif SAM: BR011.
Fe'i codwyd cyn Oes y Celtiaid i gladdu'r meirw ac, efallai, yn ffocws cymdeithasol i gynnal defodau yn ymwneud â marwolaeth.
Illtud
golyguCyfeiria'r enw at y sant Illtud, a gysylltir â'r heneb mewn traddodiad lleol: dywedir iddo ei defnyddio fel cell feudwy. Yn yr un ardal ceir Bedd Gŵyl Illtud, Pyllau Illtud a Mynydd Illtud.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-10-10.
- ↑ Data Cymru Gyfan, CADW
- ↑ T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Caerdydd, 2000).