Bedd Gŵyl Illtud

carnedd gron ym Mhowys

Carnedd gron sy'n dyddio'n ôl i ddiwedd Oes y Cerrig a chychwyn Oes yr Efydd ydy Bedd Gŵyl Illtud, yng nghymuned Glyn Tarell, Powys; cyfeiriad grid SN973263. Ei phwrpas, mae'n debyg, oedd bod yn rhan o seremoniau neu ddefodau crefyddol a oedd yn ymwneud â chladdu'r meirw. Ni ddylid cymysgu'r garnedd gron gyda'r garnedd gylchog (Saesneg: ring cairn) sy'n fath cwbwl wahanol i garnedd.

Bedd Gŵyl Illtud
Mathcarnedd gron Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.926171°N 3.494204°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN9739026390 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwBR326 Edit this on Wikidata

Illtud golygu

Mae'r enw yn ei chysylltu â Sant Illtud (6g); dethlir gwylmabsant Illtud, sef Gŵyl Illtud, ar y 6ed o Dachwedd. Roedd yn arfer cynnal gwylnos yno ar Noson Gŵyl Illtud. Saif y garnedd ger Eglwys Llanilltud a Mynydd Illtud. Ceir Pyllau Illtud yn yr un ardal hefyd.[1]

Cefndir golygu

Cofrestrwyd yr heneb hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: BR326.[2]

Gweler hefyd golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Caerdydd, 2000).
  2. Cofrestr Cadw.