Mynydd Illtud

bryn

Bryn gwastad yn ne Powys yw Mynydd Illtud. Saif ger pentref Libanus yng nghymuned Glyn Tarell yn ardal Brycheiniog. Wrth ei ymyl ceir Canolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'n dir comin.

Mynydd Illtud
Mathbryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.928°N 3.49°W Edit this on Wikidata
Map

Illtud golygu

Mae Mynydd Illtud yn un o sawl llecyn yn yr ardal a gysylltir â Sant Illtud, sant o'r 5ed a'r 6g a sefydlodd glas Llanilltud Fawr. Ceir Pyllau Illtud, Tŷ Illtud a Bedd Gŵyl Illtud (carnedd gron) yn yr un ardal.[1]

 
Mynydd Illtud

Cyfeiriadau golygu

  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Caerdydd, 2000).
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.