Y Siarter Adriatig
(Ailgyfeiriad o Siarter Adriatig)
Cymdeithas a ffurfiwyd gan Albania, Croatia, Gweriniaeth Macedonia, a'r Unol Daleithiau yw'r Siarter Adriatig gyda'r nod o gynorthwyo'r tair gwlad i ymaelodi â chynghrair NATO. Arwyddwyd y Siarter ar 2 Mai 2003 yn Tirana dan nawdd yr Unol Daleithiau. Ym Medi 2008 gwahoddwyd Montenegro a Bosnia-Hertsegofina i ymuno â'r Siarter. Ymunodd nhw ar 4 Rhagfyr 2008.[1] Derbyniodd Serbia statws arsylwi ar yr un pryd. Ar 1 Ebrill 2009 daeth Albania a Chroatia i fod y gwledydd cyntaf o'r grŵp i ymaelodi â NATO.
Y Siarter Adriatig | |
Aelodaeth | 3 aelod-wladwriaeth: Gweriniaeth Macedonia Bosnia-Hertsegofina Montenegro |
---|---|
Sefydlwyd | 2 Mai 2003 |
Aelodau
golyguYmunodd yn 2003
Ymunodd yn 2008
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.state.gov/p/eur/rls/fs/112766.htm Adran Dramor yr Unol Daleithiau