Sibled yw'r term ar ddefnyddir ar gyfer y rhan gyfer syrth ffowlyn, fel arfer yn cynnwys y galon, glasog, afu, ac organau eraill.[1]

Sibled cyw iâr wedi'i ddefnyddio mewn gulai (cyri o fath Nusantara) yn null coginio Minangkabau, Indonesia

Mae'r aderyn sy'n cael ei becynnu gan gigydd fel arfer yn cynnwys y sibled, weithiau mewn bag wedi'i selio yng ngheudod y corff. Mae'r gwddf yn aml yn cael ei gynnwys gyda'r sibled, gan ei fod yn aml yn cael ei wahanu oddi wrth y corff wrth ei gigydda.

Mae nifer o ryseitiau sy'n defnyddio sibled. Os yw'r aderyn yn cael ei stwffio, mae'r sibled fel arfer yn cael eu torri yn fân a'u hychwanegu i'r stwffin, er bod rhai yn cynghori bod y sibled a'r aderyn yn cael eu coginio ar wahan.[2] Os nad, gellir eu defnyddo at ddibenion eraill, fel pastai sibled neu grefi sibled. Ar wahan i grefi sibled, dydy'r afu ddim fel arfer yn cael ei gynnwys mewn ryseitiau am fod ei flas mor gryf. Er hynny, mae'n bosib ei ddefnyddio mewn rhai ryseitiau penodol ar ei gyfer, fel pâté neu yakitori. Gellir defnyddio sibled hefyd i wneud alicot, math o stiw Ffrengig.

Mewn bwyd Twrcaidd, mae iç pilav, pryd pilaf traddodiadol, yn cael ei wneud gyda reis, afu cyw iar, cnau, a pherlysiau.[3] Mae gril cymysg Jerusalem yn bryd o Israel sy'n cynnwys sibled ac fel arfer yn cael ei fwyta gyda bara pita.

Mewn Tsieinieg, mae'n cael ei alw'n 鸡胗 (jī zhēn) neu 鸡内金 (jī nèi jīn), ac fel arfer yn cael ei fwyta trwy dro-ffrio gyda finegr.

Mae'r rhan fwyaf o ddofednod, yn arbennig y rhai sy'n cael eu gwerthu mewn archfarchnadoedd, yn cael ei chwarteru[angen ffynhonnell] ac felly nid yw'r sibled yn cael eu cynnwys. Gellir prynu sibled ar wahan gan gigydd, ond mae'r galw amdano yn isel mewn gwledydd Gorllewinol, felly maen nhw fel arfer yn cael eu gwerthu i weithgynhyrchwyr bwyd i anifeiliaid anwes.

Cyfeiriadau golygu

  1. "giblet" at Reference.com
  2. USDA Cooking and Food Handling (Cooking Frozen Foods) Archifwyd 2008-12-21 yn y Peiriant Wayback.
  3. "Republic Of Turkey Ministry Of Culture and Tourism". www.kultur.gov.tr.