Awdures o'r Almaen yw Sigrid Damm (ganwyd 7 Rhagfyr 1940) sy'n ysgolhaig llenyddiaeth Almaeneg ac yn awdur nifer o ysgrifau ar y "Weimar Viergestirn" Wieland, Goethe, Herder a Schiller.

Sigrid Damm
Ganwyd7 Rhagfyr 1940 Edit this on Wikidata
Gotha Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Alma mater
Galwedigaethysgolhaig llenyddol, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lion-Feuchtwanger, Gwobr lenyddol Thüringer Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Gotha, Thuringia yn yr Almaen ar 7 Rhagfyr 1940.[1][2][3][4]

Yn Gotha hefyd y'i magwyd ac addysgwyd hi yn yr Arnoldischule, gan raddio yn 1959. O 1959 i 1965 astudiodd lenyddiaeth a hanes Almaeneg ym Mhrifysgol Jena, neu'r Friedrich-Schiller-Universität Jena. Wedi hynny, bu'n gweithio fel darlithydd prifysgol yn Jena a Berlin. Yn 1970 enillodd ei doethuriaeth mewn athroniaeth a gweithiodd fel awdur yn Verlag Volk und Wissen a gyhoeddwyd dan y teitl "Hanes Llenyddiaeth yr Almaen" (Geschichte der deutschen Literatur).

Ers 1978 mae hi'n byw fel awdur llawrydd yn Berlin. Ym 1993 bu'n ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgolion Caeredin a Glasgow, ac yn 1994 ym Mhrifysgol Hamburg.[5]

Mae Sigrid Damm yn awdur gweithiau ar bobl llenyddiaeth glasurol y Weimar, yn bennaf. Ysgrifennai mewn cymysgedd o fywgraffiadau a ffuglen ar gyfaill plentyndod Goethe, sef Jakob Michael Reinhold Lenz a gwraig Goethe, Christiane von Goethe. Daeth hyn ag enwogrwydd mawr iddi.

Mae Sigrid Damm yn aelod o Ganolfan PEN yr Almaen ac Academi Gwyddorau a Llenyddiaeth Mainz. Ar 14 Rhagfyr 2010, hi oedd y fenyw gyntaf i dderbyn dinasyddiaeth anrhydeddus ei man geni, Gotha, a roddwyd iddi gan gyngor y ddinas.[6]

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Lion-Feuchtwanger (1987), Gwobr lenyddol Thüringer (2005) .


Cyfeiriadau golygu

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120974661. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120974661. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: "Sigrid Damm". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 11 Rhagfyr 2014
  5. Teitl y gwaith: Sigrid Damm – Lesung; cyhoeddwr: Institut Pierre Werner
  6. Mitgliedseintrag von Sigrid Damm bei der Akademie der Wissenschaften und der Literatur Mainz, abgerufen am 11.10.17