Mae’r gair sillaf yn dod o’r gair Hen Roeg sullabḗ (συλλαβή). Sillaf yw uned o iaith lafar sy’n cynnwys llafariad, deusain neu gytsain sillafog o leiaf. Gan amlaf crëir sillaf o gnewyllyn sydd fel arfer yn llafariad gyda chytseiniaid i gwblhau’r terfyniad/au.

Enghreifftiau golygu

  • Un sillaf: cath, ci, mawr, ayyb.
  • Dwy sillaf: mantell, dinas, cryno, ayyb.
  • Tair sillaf: llythyron, ansoddair, cythreulig, ayyb.

Swyddogaeth y sillaf mewn barddoniaeth Gymraeg golygu

Mae gan feirdd yn y Gymraeg dasg anodd pan yn ysgrifennu cerddi gan eu bod yn gorfod dilyn rheolau llym y Gynghanedd. Mae’r gair cynghanedd yn golygu “harmoni”, ac mae’n rhaid cael y drefniad gywir o sain a syllafau i bob llinell, drwy ddefnyddio acenion, cyflythreniad ac odl. Mae’r gynghanedd wedi cael ei defnyddio am ganrifoedd gan y Cymry ac mae hi’n dal i gael ei defnyddio gan feirdd cyfoes yn y canu caeth.

  Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am sillaf
yn Wiciadur.