Simon McBurney
Mae Simon Montagu McBurney, OBE (ganed 25 Awst 1957)[1] yn actor, ysgrifennwr a chyfarwyddwr o Loegr. Ef yw sefydlwr a chyfarwyddwr celfyddydol y Théâtre de Complicité, Llundain. Mae wedi cael rolau yn The Manchurian Candidate (2004), Friends with Money (2006), The Golden Compass (2007), The Duchess (2008), Robin Hood (2010), Tinker Tailor Soldier Spy (2011), Magic in the Moonlight (2014), The Theory of Everything (2014), a Mission: Impossible - Rogue Nation (2015).
Simon McBurney | |
---|---|
Ganwyd | Simon Montagu McBurney 25 Awst 1957 Caergrawnt |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfarwyddwr theatr, actor, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, dramodydd |
Arddull | comedi Shakespearaidd |
Gwobr/au | Gwobr Laurence Olivier, OBE, Gwobr Konrad Wolf, Gwobr Theatr Ewrop |
Gwefan | http://www.complicite.org/flash/ |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd McBurney yng Nghaergrawnt, Lloegr. Roedd ei dad, Charles McBurney, yn archeolegwr ac academydd Americanaidd. Roedd Charles McBurney yn ŵyr i'r llawffeddyg Americanaidd Charles McBurney (fe'i briodolwyd gyda thynnu'r arwydd meddygol pwynt McBurney, er y mae rhai beirniaid wedi herio ei fodolaeth). Roedd ei fam, Anne Francis Edmondstone (yn gynt Charles), yn ysgrifenyddes; yr oedd yn Brydeinwraig gyda llinach Seisnig, Albanaidd a Gwyddelig.[2] Roedd rhieni McBurney yn berthnasau pell a gwrddodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[3] Astudiodd Llenyddiaeth Saesneg yn Peterhouse, Caergrawnt, yn graddio yn 1980. Wedi marwolaeth ei dad, symudodd i Baris lle hyfforddodd ar gyfer y theatr yn y Sefydliad Jacques Lecoq.[3]
Gyrfa
golyguMcBurney yw sefydlwr a chyfarwyddwr celfyddydol y cwmni theatr Prydeinig Complicite, sy'n perfformio ar draws y byd.[4] Cyfarwyddodd eu cynyrchiadau Street of Crocodiles (1992); The Three Lives of Lucie Cabrol (1994), a addaswyd o drioleg John Berger Into Their Labors; To the Wedding; Mnemonic (1999); The Elephant Vanishes (2003); A Disappearing Number (2007); A Dog's Heart (2010); and The Master and Margarita (2011).
Creodd a chyfarwyddodd McBurney y darn A Disappearing Number, yn cymryd ei ysbrydoliaeth o'r stori am y cydweithrediad rhwng dau fathemategwr pur nodedig yr 20g, yr athrylith Indiaidd Srinivasa Ramanujan, a'r athro Caergrawnt G.H. Hardy.[5] Chwaraewyd y ddrama yn y Barbican yn yr hydref yn 2008 cyn mynd ar daith ryngwladol. Ym mis Chwefror 2009, cyfarwyddodd McBurney y cynhyrchiad Complicite Shun-kin, a seiliwyd ar ddau destun gan Jun'ichiro Tanizaki. Fe'i chynhyrchwyd yn Llundain a Thokyo yn 2010.
Cyfarwyddodd McBurney The Resistible Rise of Arturo Ui ac All My Sons (2008) (y ddau yn Efrog Newydd), a sioeau comedi byw, gan gynnwys So Much Things To Say gan Lenny Henry a Live in 2000 gan French and Saunders.
Mae McBurney yn actor sgrin sefydlog. Chwaraeodd Cecil y côr-feistr mewn rôl gylchol ar The Vicar of Dibley, arbenigwr cyfrifiaduron y CIA Garland yn Body of Lies, Dr. Atticus Noyle yn The Manchurian Candidate (2004), Nigel Stone yn The Last King of Scotland, y gŵr metrorywiol Aaron yn Friends with Money, Fra Pavel yn The Golden Compass, Charles James Fox yn The Duchess, ac Oliver Lacon yn Tinker Tailor Soldier Spy. Ysgrifennodd y stori ar gyfer Mr. Bean's Holiday, yn ogystal â bod yn uwch gynhyrchydd.
O 2010 i 2014, ymddangosodd yng nghyfres gomedi deledu y BBC Rev., yn chwarae'r rôl Archddiacon Robert. Lleisiodd McBurney Kreacher yn Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 1 (2010). Yn y gyfres The Borgias, chwaraeodd yr arbenigwr Cyfraith Ganonaidd Johannes Burchart. McBurney oedd Artiste Associé y 66ain Festival d'Avignon (2012).
Bywyd personol
golyguMae'n byw yn Llundain gyda'i wraig a thri o blant.[8] Yn Rhestr Anrhydeddau y Flwyddyn Newydd 2005, penodwyd McBurney yn Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) ar gyfer ei waith drama.[9]
Ffilmyddiaeth
golyguFfilmiau
golyguBlwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
1991 | Kafka | Assistant Oscar | |
1994 | A Business Affair | Gwerthwr | |
1994 | Being Human | Hermas | |
1994 | Tom & Viv | Dr. Reginald Miller | |
1994 | Mesmer | Franz | |
1996 | The Ogre | Brigadier | |
1997 | The Caucasian Chalk Circle | Azdak the Judge | Fideo |
1998 | Cousin Bette | Vauvinet | |
1999 | Onegin | Monsieur Triquet | |
2000 | Eisenstein | Sergei Eisenstein | |
2003 | The Reckoning | Stephen | |
2003 | Bright Young Things | Sneath (Photo-Rat) | |
2003 | Skagerrak | Thomas | |
2004 | The Manchurian Candidate | Dr. Atticus Noyle | |
2004 | Human Touch | Bernard | |
2006 | Friends with Money | Aaron | |
2006 | The Last King of Scotland | Nigel Stone | |
2007 | The Golden Compass | Fra Pavel | |
2008 | Body of Lies | Garland | |
2008 | The Duchess | Charles James Fox | |
2009 | Boogie Woogie | Robert Freign | |
2010 | Robin Hood | Father Tancred | |
2010 | Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 1 | Kreacher | Llais |
2011 | Jane Eyre | Mr. Brocklehurst | |
2011 | Tinker Tailor Soldier Spy | Oliver Lacon | |
2013 | For Those Who Can Tell No Tales | Tim Clancy | |
2014 | Magic in the Moonlight | Howard Burkan | |
2014 | The Theory of Everything | Frank Hawking | |
2015 | Mission: Impossible – Rogue Nation | Y Cyfarwyddwr Atlee | |
2016 | The Conjuring 2: The Enfield Poltergeist | Maurice Grosse | Yn y broses ôl-gynhyrchu |
Teledu
golyguBlwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
1988 | Screenplay | Martin | Pennod: "Burning Ambition" |
1989 | The Two of Us | Y Dyn | Pennod: "Trust" |
1992 | The Bill | Shaun Anderton | Pennod: "Man of the People" |
1992–93 | The Comic Strip Presents | Mick / Madman | 2 bennod |
1994–2004 | The Vicar of Dibley | Côr-feistr Cecil | 4 pennod |
1995 | Performance | Ancient Pistol | Pennod: "Henry IV" |
1996 | Absolutely Fabulous | Tocynnwr | Pennod: "The Last Shout (Part 1)" |
1999 | Midsomer Murders | Henry Carstairs | Pennod: "Death of a Stranger" |
2010–14 | Rev. | Archddiacon Robert | 19 pennod |
2011–13 | The Borgias | Johannes Burchart | 6 phennod |
2014 | Knifeman | Houdyshell | Peilot heb ei werthu |
2015 | The Casual Vacancy | Colin "Cubby" Wall | Mini-gyfres; 3 pennod |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Index entry".
- ↑ Costa, Maddy (11 September 2010).
- ↑ 3.0 3.1 O'Mahony, John (1 January 2005).
- ↑ Thorpe, Vanessa.
- ↑ A Disappearing Number at the Barbican
- ↑ "The Theory of Everything begins principal photography". Working Title Films. 8 October 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-06. Cyrchwyd 8 October 2013.
- ↑ Kroll, Justin (September 17, 2015).
- ↑ Jacques, Adam (20 September 2011).
- ↑ The London Gazette: (Supplement) no. 57509. p. 12. 31 December 2004.
Dolenni allanol
golygu- Simon McBurney ar yr Internet Movie Database (Saesneg yn unig)
- Simon McBurney ar yr Internet Broadway Database (Saesneg yn unig)
- Proffil: Simon McBurney yn The Guardian (Saesneg yn unig)