The Theory of Everything

ffilm ddrama llawn melodrama gan James Marsh a gyhoeddwyd yn 2014

Mae The Theory of Everything yn ffilm ddrama rhamantaidd fywgraffyddol Brydeinig 2014[4] a gyfarwyddwyd gan James Marsh ac addaswyd gan Anthony McCarten o'r cofiant Travelling to Infinity: My Life with Stephen gan Jane Wilde Hawking. Ymdrina'r llyfr â pherthynas Wilde Hawking gyda'i chyn-ŵr, y ffisegwr damcaniaethol Stephen Hawking, ei ddiagnosis gyda'r clefyd niwron echddygol, a'i llwyddiant ym myd ffiseg.[5]

The Theory of Everything
Poster Rhaghysbyseb
Cyfarwyddwyd ganJames Marsh
Cynhyrchwyd gan
  • Tim Bevan
  • Eric Fellner
  • Lisa Bruce
  • Anthony McCarten
SgriptAnthony McCarten
Seiliwyd arTravelling to Infinity: My Life with Stephen gan
Jane Wilde Hawking
Yn serennu
Cerddoriaeth ganJóhann Jóhannsson
SinematograffiBenoît Delhomme
Golygwyd ganJinx Godfrey
StiwdioWorking Title Films
Dosbarthwyd ganUniversal Pictures
Focus Features
Rhyddhawyd gan7 Medi 2014 (Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto)
1 Ionawr 2015 (Y Deyrnas Unedig)
Hyd y ffilm (amser)123 munud[1][2]
GwladY Deyrnas Unedig
IaithSaesneg
Cyfalaf$15 miliwn[3]
Gwerthiant tocynnau$122.9 miliwn[3]

Serenna Eddie RedmayneFelicity Jones yn y ffilm gyda Charlie Cox, Emily Watson, Simon McBurney, Christian McKay, Harry Lloyd a David Thewlis yn ymddangos mewn rolau cefnogol. Arddangoswyd y ffilm am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto ar 7 Medi, 2014.

Canmolwyd y ffilm yn fyd-eang a fe'i henwebwyd ar gyfer ystod o acolâdau mewn sioeau gwobrau a gwyliau ffilmiau. Canmolwyd perfformiad Redmayne fel Stephen, gyda'r actor yn ennill nifer o wobrau ac enwebiadau gan gynnwys Gwobr yr Academi ar gyfer yr Actor Gorau. Derbyniwyd y ffilm bedwar enwebiad Gwobr Golden Globe, gyda Redmayne yn ennill y Wobr Golden Globe ar gyfer yr Actor Gorau – Drama Ffilm a Jóhannsson yn ennill y wobr ar gyfer y Sgôr Gwreiddiol Gorau. Derbyniwyd y ffilm dri enwebiad yn yr 21ain Gwobrau Cymdeithas yr Actorion Sgrin, Redmayne yn ennill y wobr Berfformiad Rhagorol gan Actor Gwrywaidd mewn Prif Ran. Fe'i derbyniwyd 10 enwebiad yng Ngwobrau Ffilmiau'r Academi Brydeinig yn ennill Ffilm Brydeinig Rhagorol, Prif Actor Gorau (i Redmayne) a'r Sgript Gyfaddaswyd Orau (i McCarten).

Yn 1963, dechreua'r myfyriwr astroffiseg Prifysgol Caergrawnt Stephen Hawking (Eddie Redmayne) berthynas gyda'r fyfyrwraig llenyddiaeth Jane Wilde (Felicity Jones). Er y rhagora Stephen gyda mathemateg a ffiseg, prydera ei ffrindiau a'i athrawon am ei ddiffyg pwnc ar gyfer ei draethawd ymchwil. Ar ôl i Stephen a'i athro Dennis Sciama (David Thewlis) fynychu darlith ar dyllau du, dyfala Stephen a oedd tyllau du yn rhan o greadigaeth y bydysawd a phenderfyna ysgrifennu ei draethawd ymchwil ar amser.

Tra'n cynnal ei ymchwil, dechreua cyhyrau Stephen fethu, yn ei achosi i gwympo a bwrw ei ben. Dysga fod ganddo'r clefyd niwron echddygol; ni all siarad, llyncu, neu symud rhan fwyaf ei gorff, ac mae ganddo tua dwy flynedd i fyw. Wrth i Stephen ddod yn feudwy, yn canolbwyntio ar ei waith, datgana Jane ei chariad iddo. Dywed wrth dad Stephen a fwriada aros gyda Stephen hyd yn oed wrth i'w gyflwr gwaethygu. Priodasant a chael mab.

Cyflwyna Stephen ei draethawd i'r bwrdd arholi, yn dadlau mai twll du a greodd y bydysawd; dywedant wrtho fod ei ddamcaniaeth yn wych. Wrth iddo ddathlu gyda Jane a'i ffrindiau, sylweddola Stephen ni all gerdded a dechreua ddefnyddio cadair olwyn.

Ar ôl iddynt gael eu hail blentyn, merch, datblyga Stephen ddamcaniaeth am welededd tyllau du a daw yn ffisegwr enwog dros y byd. Wrth iddi ganolbwyntio ar y plant, iechyd Stephen a'i enwogrwydd, ni all Jane weithio ar ei thrawethawd ymchwil ei hun a daw yn rhwystredig; dywed Stephen wrthi a ddealla os oes angen help arni. Ymuna â chôr yr eglwys, lle cwrdda â'r gŵr gweddw Jonathan (Charlie Cox). Daw Jonathan a hithau yn ffrindiau agos, a chyfloga ef fel athro piano ar gyfer ei mab. Daw Jonathan yn gyfaill i'r teulu cyfan, yn helpu Stephen gyda'i afiechyd, yn cefnogi Jane, ac yn chwarae gyda'r plant.

Ar ôl geni mab arall, gofynna mam Stephen i Jane os yw Jonathan yn dad i'r babi. Sarheir Jane; yn gweld fod Jonathan wedi cipglywed y sgwrs, pan eu bod ar eu pennau eu hunain cyfaddefant eu teimladau i'w gilydd. Cadwa Jonathan draw o'r teulu, ond ymwela Stephen ag ef, yn dweud bod Jane yn ei angen.

Tra bod Jane a Jonathan yn mynd gwersylla gyda'r plant, gwahoddir Stephen i fynychu perfformiad opera ym Mordeaux lle datblyga niwmonia. Tra yn yr ysbyty, dywed y meddygon wrth Jane bod angen breuan-drychiad ar Stephen, a fydd yn ei adael heb y gallu i siarad. Cytuna Jane iddo gael y llawdriniaeth.

Dysga Stephen ddefnyddio bwrdd sillafu ac yn ei ddefnyddio i gyfathrebu gydag Elaine, (Maxine Peake), ei nyrs newydd. Derbynia gyfrifiadur gyda syntheseiddydd llais, a defnyddia ef i ysgrifennu llyfr, A Brief History of Time, sy'n gwerthu'n dda ar draws y byd.

Dywed Stephen wrth Jane, ei fod wedi cael ei wahodd i America i dderbyn gwobr, a bydd Elaine yn mynd gydag ef. Cytuna Jane a Stephen i ysgaru. Mae Stephen yn mynd i ddarlith gydag Elaine, lle datblyga'r ddau deimladau i'w gilydd, ac aduna Jane a Jonathan. Yn y ddarlith, gwela Stephen fyfyriwr yn gollwng pen; dychmyga godi i'w ôl, bron yn crio ar ôl cael ei atgoffa o sut mae ei afiechyd yn ei effeithio. Mae'n mynd yn ei flaen i roi araith ysbrydoledig, yn dweud, "There should be no boundaries to human endeavor. We are all different. However bad life may seem, there is always something you can do, and succeed at. While there's life, there is hope."

Gwahodda Stephen Jane i fynd i gwrdd â'r Frenhines gydag ef; rhannant ddiwrnod hapus gyda'i gilydd a'i plant gyda Stephen yn dweud "Look what we made".

Mewn cyfres gloi estynedig, dangosa fomentau o'r ffilm yn y drefn wrthol yn ôl i'r moment a welodd Stephen Jane gyntaf. Yn y teitlau ar y diwedd, diweddarir y gynulleidfa ynglŷn â bywydau'r prif gymeriadau. Mae Jane a Jonathan wedi priodi ac y mae wedi cwblhau ei PhD. Mae Stephen a hithau yn parhau i fod yn ffrindiau agos. Gwrthoda Stephen yr urdd marchog ac mae'n parahau gyda'i waith ymchwil.

  • Eddie Redmayne fel Stephen Hawking,[6]
  • Felicity Jones fel Jane Wilde Hawking[6]
  • Charlie Cox fel Jonathan Jones, ail ŵr Jane[6]
  • Emily Watson fel Beryl Wilde, mam Jane[6]
  • Simon McBurney fel Frank Hawking, tad Stephen[6]
  • David Thewlis fel Dennis W. Sciama|Dennis Sciama[6]
  • Maxine Peake fel Elaine Mason, ail wraig Stephen[6]
  • Harry Lloyd fel Brian, cydletywr Hawking[7]
  • Guy Oliver-Watts fel George Wilde, tad Jane
  • Abigail Cruttenden fel Isobel Hawking, mam Stephen
  • Charlotte Hope fel Phillipa Hawking, chwaer Stephen[6]
  • Lucy Chappell fel Mary Hawking, chwaer Stephen
  • Christian McKay fel Roger Penrose[6]
  • Enzo Cilenti fel Kip Thorne[6]
  • Georg Nikoloff fel Isaak Markovich Khalatnikov
  • Alice Orr-Ewing fel Diana King, chawer Basil King, ffrind Stephen
  • Stephen Hawking darpara ei llais syntheseiddydd ei hun
  • Frank Leboeuf fel Meddyg Swisaidd[6]

Cywirdeb hanesyddol

golygu

Newidiwyd hanes y ffilm er mwyn ei dramateiddio. Ysgrifennodd State, "the Stephen played by Eddie Redmayne is far gentler and more sensitive" na awgrymwyd yn Travelling to Infinity.[8] Fe'i nodwyd hefyd na seiliodd Brian, ffrind agosaf Hawking yng Nghaergrawnt yn y ffilm, ar berson go iawn, ond cymysgedd o nifer o'i ffrindiau.

Newidia'r ffilm rhai manylion o gwmpas dechrau perthynas Stephen a Jane, gan gynnwys sut gwrddant, ynghyd â'r ffaith yr oedd Jane yn gwybod am gyflwr Stephen cyn iddynt ddechrau canlyn. Sylwa Slate hefyd fod portread y ffilm o ystyfnigrwydd Hawking a'i wrthodiad i dderbyn cymorth allanol gyda'i anhwyldeb yn fwy cynnill na'r gwirionedd.

Rhyddhad

golygu

Arddangoswyd The Theory of Everything am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto ar 7 Medi, 2014,[9] lle agorodd y rhan, Cyflwyniadau Arbennig.[10][11]

Ar 10 Ebrill, 2014, enillodd Focus Features hawliau dosbarthu The Theory of Everything yn yr Unol Daleithiau, gyda'r cynllun i ryddhau'r ffilm yn gyfyngedig yn 2014.[12] Yn fuan wedyn, enillodd, Entertainment One Films yr hawliau dosbarthu yng Nghanada.[13] Rhyddhawyd rhaghysbyseb gyntaf y ffilm ar 7 Awst, 2014.[14][15] Ar 8 Hydref, 2013, enillodd Universal Pictures International yr hawliau i ddosbarthu'r ffilm yn rhyngwladol.[16]

Rhyddhawyd y ffilm yn gyfyngedig yn yr Unol Daleithiau ar 7 Tachwedd, 2014,[17] ac yn yr wythnosau canlynol rhyddhawyd yn Nhaiwan, Awstria, a'r Almaen,[18] cyn ei rhyddhad yn y Deyrnas Unedig ar 1 Ionawr, 2015, ac wedyn fe'i rhyddhawyd drwy gydol Ewrop.[15]

Acolâdau

golygu

Derbyniwyd The Theory of Everything nifer o wobrau ac enwebiadau yn dilyn ei rhyddhad. Yn 87ain Gwobrau'r Academi, fe'i henwebwyd yng nghategoriau Ffilm Orau, Actor Gorau i Eddie Redmayne, Actores Orau i Jones, Sgript Gyfaddaswyd Orau i McCarten, a'r Sgôr Gwreiddiol Gorau i Jóhann Jóhannsson, gydag Eddie Redmayne yn ennill unig Wobr yr Academi y ffilm ar gyfer ei berfformiad. Enwebwyd y ffilm ar gyfer deg Gwobr yr Academi Ffilmiau Brydeinig,[19] (yn ennill ar gyfer y Sgript Gyfaddaswyd Orau, Ffilm Brydeinig Orau a'r Actor Gorau), pum Gwobr Ffilmiau Critics' Choice,[20] a thair Gwobr Gymdeithas yr Actorion Sgrin.[21] Yn y 72ain Gwobrau Golden Globe, enillodd Redmayne Actor Gorau – Ffilm Ddrama ac enillodd Jóhannsson Sgôr Gwreiddiol Gorau. Enwebwyd y ffilm a Jones hefyd. Enwebwyd dylunydd cynhyrchu John Paul Kelly ar gyfer Rhagoriaeth mewn Dylunio Cynhyrchiad mewn Ffilm Gyfnod o Gymdeithas y Cyfarwyddwyr Celf,[22] ac enwebwyd y cynhyrchwyr ar gyfer y Ffilm Theatraidd Orau gan Gymdeithas y Cynhyrchwyr America.[23]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "THE THEORY OF EVERYTHING (12A)". British Board of Film Classification. 12 November 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-12. Cyrchwyd 12 November 2014.
  2. "The Theory of Everything". Toronto International Film Festival. 6 August 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-12. Cyrchwyd 6 August 2014.
  3. 3.0 3.1 "The Theory of Everything (2014)". Box Office Mojo. Cyrchwyd 18 April 2015.
  4. Bullock, Dan (10 April 2014).
  5. "'The Theory Of Everything' Trailer Is A Heartbreaking Inspiration".
  6. 6.00 6.01 6.02 6.03 6.04 6.05 6.06 6.07 6.08 6.09 6.10 "The Theory of Everything begins principal photography". Working Title Films. 8 October 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-06. Cyrchwyd 8 October 2013.
  7. Anderson, L.V. (7 November 2014). "How Accurate Is The Theory of Everything?". Slate Magazine. Cyrchwyd 3 January 2015.
  8. http://www.slate.com/blogs/browbeat/2014/11/07/the_theory_of_everything_how_accurate_is_the_new_stephen_hawking_movie_starring.html
  9. Editors, The Guardian (29 July 2014).
  10. "Toronto: ‘Theory of Everything’ Has the Right Formula for Oscars".
  11. Child, Ben (22 July 2014).
  12. Editors, TIFF (9 October 2013).
  13. Editors, EFilmWorld (9 October 2013).
  14. Child, Ben (7 August 2014).
  15. 15.0 15.1 Child, Ben (6 August 2014).
  16. Child, Ben (8 October 2013).
  17. McNary, Dave (10 April 2014).
  18. Team, The Deadline (10 April 2014).
  19. "BAFTA Nominations: ‘Grand Budapest Hotel’ Leads With 11 – Full List".
  20. Gray, Tim (15 December 2014).
  21. "Nominees Announced for the 21st Annual Screen Actors Guild Awards" Archifwyd 2014-12-14 yn y Peiriant Wayback.
  22. "'Birdman', 'Foxcatcher' Among Art Directors Guild Nominees".
  23. "'American Sniper,' 'Birdman' & 'Boyhood' Among PGA Awards Nominees".