Siocledi napoli
Darnau sgwâr neu betryal o siocled wedi'u lapio'n unigol
Darnau sgwâr neu betryal o siocled, a phob un wedi'u lapio mewn papur unigol, yw siocledi napoli. Mae'n gyffredin eu gweini mewn gwestai a bwytai gyda phaned o goffi.
Tua 3 chentimedr wrth 2 gentimedr yw maint arferol siocledyn napoli, a phob un yn pwyso tua 5 gram. Mae sawl blas gwahanol ar gael fel arfer. Cwmni Terry's, Caerefrog oedd y cyntaf i fasgynhyrchu siocledi napoli, a hynny yn 1899. Ers hynny, mae nifer fawr o gwmnïau wedi creu eu fersiynau eu hunain, ac mae Terry's wedi rhoi'r gorau i'w cynhyrchu erbyn hyn.
Hanes yr enw
golyguDaw enw'r siocledi o anrheg a roddwyd yn 1819 gan Louis XVIII, brenin Ffrainc i Marie-Caroline, tysywoges o Napoli. Roedd pob siocledyn wedi'i lapio'n unigol, a llun golygfa wahanol o Napoli ar bob papuryn.