Terry's
Cwmni siocled o Loegr yw Terry's, a sefydlwyd yn wreiddiol yng Nghaerefrog ym 1767. Roedd yn un o'r cwmnïau cyntaf i wneud siocled i'w fwyta yn hytrach na'i yfed. Bu'n gwmni annibynnol oedd yn eiddo i'r teulu Terry am bron i ddau gan mlynedd, ond fe'i gwerthwyd yn 1963 ac ers hynny mae wedi newid dwylo sawl gwaith. Ers 2016 mae wedi bod yn rhan o gwmni Carambar, cwmni melysion o Ffrainc sy'n eiddo i gwmnni buddsoddi Eurazeo. Mae'r cwmni'n fwyaf adnabyddus am ei gynhyrchion Terry's Chocolate Orange a Terry's All Gold.
Hanes
golyguDechreuadau
golyguMae gwreiddiau'r busnes mewn siop felysion a agorwyd ger muriau dinas Caerefrog yn 1767 gan Robert Berry a William Bayldon, o dan yr enw Bayldon and Berry. Fferyllydd oedd Joseph Terry a aned yn nhref Pocklington yn 1793. Ym 1823, priododd â Harriet Atkinson oedd yn nith neu'n chwaer-yng-nghyfraith i Robert Berry. Ar ôl cau ei fferyllfa, ymunodd â chwmni melysion Berry (roedd William Bayldon wedi ymddeol o'r busnes ers 1821).
Yn 1825, ar ôl marwolaeth Robert Berry, cytunodd Terry ar bartneriaeth newydd gyda George Berry; ailenwyd y busnes yn Terry & Berry. Gadawodd George Berry y busnes yn 1828 ac ailenwyd y busnes yn Joseph Terry and Company.
Joseph Terry and Company
golyguDefnyddiodd Joseph Terry ei ddoniau fel fferyllydd i ddatblygu melysion amrywiol, a manteisiodd ar ddatblygiad y rheilffordd i ddosbarthu ei gynnyrch yng ngogledd Lloegr ac yn Llundain. Roedd yn gwerthu melysion y cyfnod fel môr-gelyn candi, roc carn yr ebol a losin sgyrsiau (rhagflaenydd love hearts heddiw), yn ogystal â marmalêd, marsipán, sawsiau a jelïau.
Ar ôl marwolaeth Joseph Terry yn 1850, cymerwyd yr awenau gan ei feibion Joseph Jnr, Robert a John. Aeth Joseph ati i ehangu'r busnes a gwneud defnydd o beiriannau ager. Ailenwyd y busnes yn Joseph Terry & Sons a daeth yn gwmni cyfyngedig yn 1895.
Joseph Terry and Sons
golyguPan fu farw Joseph Terry Jnr yn 1898, cymerwyd yr awenau gan ei feibion yntau, sef Frank a Thomas Terry. Yn 1899, lansiwyd Terry's Neapolitans; Terry's oedd y cwmni cyntaf i fasgynhyrchu siocledi napoli. Bu farw Thomas yn dilyn damwain car yn 1910, a'r flwyddyn ganlynol aeth Noel ei fab i'r busnes gan ymuno â'i ewythr Frank. Bu'r blynyddoedd yn dilyn cyfnod cythryblus y rhyfel byd cyntaf yn rhai llwyddiannus: yn 1923, ailstrwythurwyd y cwmni, crëwyd cynhyrchion newydd a phrynwyd safle er mwyn datblygu ffatri newydd ger Cae Ras Caerefrog. Dyluniwyd y ffatri mewn arddull Art Deco a'i galw'n Terry's Chocolate Works; fe'i hagorwyd yn 1926. Caeodd Kraft y ffatri yn 2005 ac mae'r cynhyrchion bellach yn cael eu gwneud mewn mannau eraill yn Ewrop. Roedd cynnyrch newydd y cyfnod yn cynnwys y Chocolate Apple (1926), Terry's All Gold (1931) a'r Chocolate Orange (1932). Yn 1934, rhestrwyd Joseph Terry and Sons ar Gyfnewidfa Stoc Llundain.
Gwerthu
golyguYn 1963, penderfynodd y teulu werthu'r cwmni i Grŵp Forte, a hynny am werth £4.25 miliwn o gyfranddaliadau yng nghwmni Forte; ymunodd Noel Terry â bwrdd cwmni Forte. Yn 1977, gwerthwyd y cwmni i Colgate-Palmolive am £17 miliwn; ar y pryd, roedd Terry's yn dal 30% o'r farchnad bocsys siocledi yng ngwledydd Prydain. Yn 1982, gwerthwyd y cwmni unwaith eto, y tro hwn i gwmni United Biscuits am £24.5 miliwn, ar ôl i ymdrech gan reolwyr y cwmni i'w brynu fethu. Yn ystod yr wythdegau, aeth United Biscuits ati i brynu rhagor o gwmnïau melysion gan eu hymgorffori i mewn i grŵp Terry's.
Yn 1992, penderfynodd United Biscuits ei fod am ganolbwyntio ar fisgedi a chraceri, felly gwerthodd grŵp Terry's i Philip Morris a'i is-gwmni Kraft Foods, a hynny am £220 miliwn. Yn y flwyddyn 2000, newidiwyd brand y cwmni o Terry's of York i ddim ond Terry's, gan wanhau cysylltiadau'r cwmni â Chaerefrog, a symud llawer o'r gwaith o gynhyrchu cynnyrch y cwmni dramor. Yn 2004, symudwyd y gwaith o gynhyrchu holl gynnyrch Terry's i ffatrïoedd yng Ngwlad Belg, Sweden, Gwlad Pwyl a Slofacia, a chaewyd y ffatri yng Nghaerefrog ym mis Medi 2005. Ymrannodd cwmni Kraft yn ddau gwmni yn 2012, sef Mondelēz International i werthu melysion, a Kraft Foods Group fyddai'n gwerthu bwydydd eraill; daeth Terry's yn rhan o Mondelēz. Yn 2016, gwerthwyd Terry's unwaith eto, y tro hwn i gwmni buddsoddi Eurazeo, a ychwanegodd Terry's at ei bortffolio o frandiau melysion yn ei is-gwmni melysion Carambar & Co.[1] [2] [3]