Siôn Aled
(Ailgyfeiriad o Sion Aled)
Bardd ydy Siôn Aled (enw llawn: Siôn Aled Owen).
Siôn Aled | |
---|---|
Y Prifardd Sion Aled | |
Ganwyd | 27 Ionawr 1957 Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguCafodd ei eni ym Mangor a chafodd ei fagu ym Mhorthaethwy. Aeth i Brifysgol Aberystwyth.[1] Astudiodd wedyn yng Ngholeg y Drindod, Bryste a chafodd Ph.D. mewn diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Birmingham.
Barddoniaeth
golyguEnillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'i chyffiniau 1981 am bryddest ar y teitl Wynebau.
Ef oedd enillydd cyfres Mastermind Cymru ar S4C yn 2007 gan ddewis 'Bywyd a barddoniaeth Goronwy Owen' fel un o'i bynciau.
Gwleidyddiaeth
golyguBu'n ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Wrecsam yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007.
Bywyd personol
golyguMae'n byw yn Wrecsam gyda'i wraig a'i fab.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dagrau Rhew; Gwasg y Lolfa, ISBN 0904864898