Siôn Russell Jones

Canwr Cymreig
(Ailgyfeiriad o Sion Russell Jones)

Canwr a chyfansoddwr o Gymro yw Siôn Russell Jones.

Siôn Russell Jones
Ganwyd1986 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr, cyfansoddwr caneuon Edit this on Wikidata
TadTerry Dyddgen-Jones Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.sionrusselljones.com Edit this on Wikidata

Bywyd a gyrfa golygu

Fe'i ganwyd yng Nghaerdydd. Dechreuodd chwarae'r gitâr yn 7 oed ac aeth ymlaen i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Morgannwg (bellach Prifysgol De Cymru).[1]

Ym mis Hydref 2010, rhyddhaodd Siôn ei albwm cyntaf And Suddenly drwy Still Small Voice Music, a recordiwyd yn ystod ei flwyddyn olaf yn Ysgol Diwydiannau Creadigol A Diwylliannol, Yr Atrium, Caerdydd.[2]

Mae ei gerddoriaeth wedi ei ddefnyddio yn y cefndir ar yr operâu sebon Prydeinig Coronation Street ac EastEnders. Mae ei ganeuon wedi ymddangos hefyd ar y gyfres comedi Stella.

Yn 2011, arwyddodd Siôn gytundeb cyhoeddi gyda BDi music,[3] ac yn ystod haf 2011, bu'n perfformio mewn nifer o wyliau yng Nghymru a Lloegr gan gynnwys[angen ffynhonnell] The Acoustic Festival of Britain, Festival of the Celts, a Gŵyl y Dyn Gwyrdd.

Ym mis Mawrth 2012, perfformiodd yng ngŵyl gerddorol SXSW yn Austin, Texas.[4]

Ers hynny mae wedi parhau i recordio a pherfformio.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Revealed: The 10 hottest new Welsh musical acts to look out for". www.walesonline.co.uk. 13 Awst 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-15. Cyrchwyd 8 Medi 2011.
  2. "Artist Profile: Siôn Russell Jones". Green Man Festival. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-11. Cyrchwyd 8 Medi 2011.
  3. "BDi signs welsh talent, Sion Russell Jones". BDi. 10 August 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-23. Cyrchwyd 8 Medi 2011.
  4. "SXSW Schedule and at Canadian Music Week, Toronto as well as showcase gigs at the Rockwood Music Hall and Living Room in New York. 2012". SXSW. Cyrchwyd 15 Mawrth 2012.
  5. https://www.facebook.com/SionRussellJones/photos/a.192642130771181.35931.187008208001240/1397191810316201/

Dolenni allanol golygu