Siytni
Cyfwyd o goginiaeth Indiaidd ac goginiaeth Pacistan yw siytni[1] (lluosog: siytnis)[2] neu catwad[1] sydd yn bicl o ffrwythau a llysiau wedi'i gadw gyda finegr, halen, siwgr, a sbeisiau. Gan amlaf mae ganddo flas melys a sur.[3]
Siytnis o Bangalore | |
Enghraifft o'r canlynol | math o fwyd neu saig |
---|---|
Math | Cyfwyd, Saws |
Gwlad | India |
Yn cynnwys | sodiwm clorid |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daeth y chatni o India i'r gegin Brydeinig yn ystod dyddiau'r Raj, ac roeddynt yn sbeislyd a sur. Heddiw mae'r mwyafrif o siytnis a wneir ym Mhrydain yn felys a mwyn, ac wedi eu mudferwi am amser hir i greu ansawdd meddal sy'n toddi. Yn aml caiff eu haeddfedu am o leiaf mis i alluogi'r blasau i gymysgu.[3]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, s.v. chutney
- ↑ Cronfa Genedlaethol o Dermau, [chutney].
- ↑ 3.0 3.1 Good Housekeeping Food Encyclopedia (Llundain, Collins & Brown, 2009), t. 401.