Sky Brown
Mae Sky Brown (Japaneg: スカイ・ブラウン; ganwyd 12 Gorffennaf 2008)[1][2] yn sglefrfyrddiwr Prydeinig-Japaneaidd, sy'n cystadlu dros Brydain Fawr. Roedd hi'r sglefrfyrddiwr proffesiynol ieuengaf yn y byd pan gystadlodd yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2020.[3] Enillodd medal efydd yng nghystadleuaeth yn 2020[4] wedyn efydd yng Ngemau Olympaidd 2024
Sky Brown | |
---|---|
Ganwyd | 7 Gorffennaf 2008 Miyazaki |
Dinasyddiaeth | Y Deyrnas Unedig Japan |
Galwedigaeth | sglefr-fyrddwr, syrffiwr |
Taldra | 1.54 metr |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Sky ym Miyazaki, Japan, yn ferch i mam Siapaneaidd, a tad Seisnig.[5][6] Ei henw Siapaneaidd yw Sukai. [7][8]
Roedd ei thad yn byw yn yr Unol Daleithiau America am sawl blwyddyn cyn symud i Japan. [9] Mae Brown yn treulio tua hanner y flwyddyn yn yr Deyrnas Unedig. Bellach mae ganddi ramp sglefrio yn ei gardd gefn,[10] gan nad oes parciau sglefrio yn ardal ei chartref yn Takanabe, Miyazaki.[8] Ar wahân i sglefrfyrddio, mae hi'n ddiddordeb mewn syrffio.[6][11]
Gemau Olympaidd
golyguRoedd Brown yn un o bum Prydeiniwr a geisiodd gymhwyso ar gyfer y digwyddiadau sglefrfyrddio yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2020 yn Japan, y tro cyntaf y bydd y gamp yn cael ei chynnwys yn y gemau.[6][12] Ym mis Mehefin 2021, dewisodd Brown i gynrychioli Prydain Fawr mewn sglefrfyrddio yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2020. [13] Fydd hi'r Olympiad Haf Prydeinig ieuengaf erioed, yn 13 oed.[14] Nid oes disgwyl i Brown fod y cystadleuydd ieuengaf yn y Gemau, gan fod chwaraewr tenis bwrdd Syria, Hend Zaza, yn iau na hi.[15]
Enillodd hi fedal efydd yn y Gemau 2020 yn y gystadleuaeth sglefrfyrddio parc i fenywod, gan ddod y person Prydeinig ieuengaf erioed i ennill medal.[16]
Cystadlodd Brown yng Ngemau Olympaidd 2024 ym Mharis yn y gystadleuaeth sglefrfyrddio yn 16 oed. Llwyddodd i ennill medal efydd unwaith eto, er gwaethaf datgymalu ei hysgwydd dwywaith yn ystod yr wythnos cyn y rownd derfynol. Roedd angen llawdriniaeth arni ar ôl y Gemau yn Los Angeles.[17]
Methodd â chymhwyso i gystadlu yn y gystadleuaeth syrffio 2024 o un lle (ond byddai hyn wedi digwydd yn Tahiti, 10,000 milltir i ffwrdd).[17]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Licata, Alexandra (10 Mehefin 2019). "Meet Sky Brown, the 10-year-old skateboarder on pace to shake up the 2020 Tokyo Olympics". Business Insider (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Mawrth 2020.
- ↑ "Skateboarder Sky Brown to become youngest British summer Olympian". The Guardian (yn Saesneg). 1 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Tokyo 2020: Skateboarder Sky Brown set to become youngest British summer Olympian of all time". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Tokyo Olympics: 13-year-old Sky Brown wins Olympic skateboarding bronze". BBC (yn Saesneg). 4 Awst 2021. Cyrchwyd 4 Awst 2021.
- ↑ "Sky Brown: The 10-year-old British skateboarder aiming to make history at Tokyo". BBC Sport (yn Saesneg). 14 Mawrth 2019. Cyrchwyd 21 Mawrth 2020.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 "Sky Brown: Skateboarder, 10, chooses Great Britain Olympic team". CNN (yn Saesneg). 14 Mawrth 2019. Cyrchwyd 21 Mawrth 2020.
- ↑ "世界が注目、マルチなスーパー小学生 Sylw'r byd i blant ysgol gynradd". Kyodo News (yn Japaneeg). 11 Medi 2019. Cyrchwyd 22 Mawrth 2020.
- ↑ 8.0 8.1 "小学生が東京五輪目指す Nod myfyriwr ysgol gynradd ar gyfer Gemau Olympaidd Tokyo". Mainichi Shimbun (yn Japaneeg). 4 Awst 2019. Cyrchwyd 22 Mawrth 2020.
- ↑ Reynolds, Tom (13 February 2020). "Sky Brown: Meet the 11-year-old girl set to become Britain's youngest summer Olympian". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Mawrth 2020.
- ↑ Williams, Rebecca (6 Ionawr 2020). "Skateboarder, 11, hopes to become Britain's youngest ever summer Olympian". Sky News (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Mawrth 2020.
- ↑ McCombs, Dave; Katanuma, Marika (5 Mehefin 2019). "Can This 10-Year-Old Girl Save the Olympics?". Bloomberg News (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Mawrth 2020.
- ↑ Morse, Ben. "Skateboarder Sky Brown, 11, hospitalized after horrific fall". CNN (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-03.
- ↑ "Sky Brown: 12-year-old skateboarder picked for GB Olympic team". bbc.co.uk (yn Saesneg). 9 Mehefin 2021. Cyrchwyd 9 Mehefin 2021.
- ↑ "Sky Brown set to become Britain's youngest summer Olympian" (yn Saesneg). ESPN. 10 Mehefin 2021. Cyrchwyd 23 Mehefin 2021.
- ↑ "Hend Zaza, 11-year-old Syrian table tennis player, qualifies for Olympics". The Guardian (yn Saesneg). 5 Mawrth 2020. Cyrchwyd 21 Mawrth 2020.
- ↑ "What has happened on day 12 in Tokyo?". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-08-04.
- ↑ 17.0 17.1 "The story behind Sky Brown's miraculous Olympic bronze – hours after her shoulder 'popped out'". Independent.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-10.