Slobodan Milošević
Gwleidydd o Serbia oedd Slobodan Milošević (Serbeg: Слободан Милошевић; 20 Awst 1941 – 11 Mawrth 2006) a fu'n Arlywydd Gweriniaeth Sosialaidd Serbia o 1989 i 1991, Arlywydd Gweriniaeth Serbia o 1991 i 1997, ac Arlywydd Gweriniaeth Ffederal Iwgoslafia o 1997 i 2000. Roedd yn arweinydd Plaid Sosialaidd Serbia.
Slobodan Milošević | |
---|---|
Llais | Slobodan Milošević voice.oga |
Ganwyd | 20 Awst 1941 Požarevac |
Bu farw | 11 Mawrth 2006 Scheveningen |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, Gwladwriaeth Ffederal Iwcoslafia, Serbia a Montenegro |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Arlywydd Serbia |
Plaid Wleidyddol | Cynghrair Comiwnyddion Iwgoslafia, Socialist Party of Serbia |
Tad | Svetozar Milošević |
Priod | Mira Marković |
Plant | Marko Milošević |
Gwobr/au | Q100296857, Q100296954, Urdd Llafur, Order of the Republika Srpska |
llofnod | |
Ganed yn ninas Požarevac yng ngorllewin Serbia, pryd oedd Iwgoslafia dan feddiannaeth yr Almaen Natsïaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Montenegroaid o lwyth y Vasojevići oedd ei rieni. Ymunodd Slobodan â Phlaid Gomiwnyddol Iwgoslafia yn 18 oed, a graddiodd yn y gyfraith o Brifysgol Beograd ym 1964. Priododd â Mirjana Marković ym 1965 a chawsant un ferch, Marija (g. 1965), ac un mab, Marko (g. 1974).
Gweithiodd yn weinyddwr busnes yn Tehnogas, cwmni nwy y wladwriaeth, a fe'i penodwyd yn gadeirydd ym 1973.
Bu farw yn y carchar, yn sefyll achos llys am nifer o droseddau honedig, yn cynnwys hil-laddiad ym Mosnia-Hertsegofina, Croatia, a Chosofo yn ystod yr 1990au.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Obituary: Slobodan Milosevic. BBC (11 Mawrth 2006). Adalwyd ar 28 Rhagfyr 2012.