Slobodan Milošević

(Ailgyfeiriad o Slobodan Milosevic)

Gwleidydd Serbaidd oedd Slobodan Milošević (Serbeg: Слободан Милошевић; 20 Awst 194111 Mawrth 2006) a fu'n Arlywydd Gweriniaeth Sosialaidd Serbia o 1989 i 1991, Arlywydd Gweriniaeth Serbia o 1991 i 1997, ac Arlywydd Gweriniaeth Ffederal Iwgoslafia o 1997 i 2000. Roedd yn arweinydd Plaid Sosialaidd Serbia.

Slobodan Milošević
LlaisSlobodan Milošević voice.oga Edit this on Wikidata
Ganwyd20 Awst 1941 Edit this on Wikidata
Požarevac Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mawrth 2006 Edit this on Wikidata
Scheveningen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, Gwladwriaeth Ffederal Iwcoslafia, Serbia a Montenegro Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Cyfadran y Gyfraith Prifysgol Belgrade
  • Požarevac Gymnasium Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Serbia Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolCynghrair Comiwnyddion Iwgoslafia, Socialist Party of Serbia Edit this on Wikidata
TadSvetozar Milošević Edit this on Wikidata
PriodMira Marković Edit this on Wikidata
PlantMarko Milošević Edit this on Wikidata
Gwobr/auQ100296857, Q100296954 Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed yn ninas Požarevac yng ngorllewin Serbia, pryd oedd Iwgoslafia dan feddiannaeth yr Almaen Natsïaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Montenegroaid o lwyth y Vasojevići oedd ei rieni. Ymunodd Slobodan â Phlaid Gomiwnyddol Iwgoslafia yn 18 oed, a graddiodd yn y gyfraith o Brifysgol Beograd ym 1964. Priododd â Mirjana Marković ym 1965 a chawsant un ferch, Marija (g. 1965), ac un mab, Marko (g. 1974).

Gweithiodd yn weinyddwr busnes yn Tehnogas, cwmni nwy y wladwriaeth, a fe'i penodwyd yn gadeirydd ym 1973.

Bu farw yn y carchar, yn sefyll achos llys am nifer o droseddau honedig, yn cynnwys hil-laddiad ym Mosnia-Hertsegofina, Croatia, a Chosofo yn ystod yr 1990au.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Obituary: Slobodan Milosevic. BBC (11 Mawrth 2006). Adalwyd ar 28 Rhagfyr 2012.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Serbiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.