Sefydliad nid-er-elw rhyngwladol sy'n hyrwyddo bwyd lleol a choginio traddodiadol yw Slow Food. Dechreuwyd y cysyniad yn yr Eidal gan Carlo Petrini yn 1986 ac ers hynny mae wedi lledaenu ledled y byd.

Slow Food
Enghraifft o'r canlynolsefydliad, catchphrase, mudiad cymdeithasol Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebbwyd cyflym Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1986 Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolsefydliad di-elw Edit this on Wikidata
PencadlysBra Edit this on Wikidata
Gwladwriaethyr Eidal Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.slowfood.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r sefydliad yn hyrwyddo dewisiadau amgen yn lle bwyd cyflym (fast food) yn y byd cyfoes drwy gadw traddodiadau bwyd leol. Mae'n annog defnyddio planhigion, hadau a da byw sy'n nodweddiadol o'r ecosystem leol. Mae'n cefnogi busnesau bach lleol a bwydydd cynaliadwy. Mae'n canolbwyntio ar ansawdd bwyd, yn hytrach na'i faint. Mae'n gwrthwynebu gorgynhyrchu a gwastraff bwyd. Mae'n gweld globaleiddio fel proses lle dylai ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd bach gael eu hamddiffyn rhag system bwyd fyd-eang ac yn dal i gael eu cynnwys yn y system honno.

Dechreuodd y mudiad yn yr Eidal yn 1986 pan sefydlwyd ei rhagflaenydd, Arcigola, i wrthsefyll agor cangen o McDonald's yn Rhufain gerllaw Scalinata di Trinità dei Monti (Saesneg: Spanish Steps), sy'n heneb odidog a diwylliannol bwysig yn y ddinas. Ym 1989 llofnodwyd maniffesto sefydlu'r mudiad Slow Food rhyngwladol ym Mharis gan gynrychiolwyr o 15 gwlad. Erbyn 2023 roedd gan y mudiad dros 100,000 o aelodau yn 160 gwlad.[1]

Arwydd y tu allan i fwyty yn Santorini, Gwlad Groeg. Defnyddir y falwen gan y mudiad fel logo.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "About us", Gwefan Slow Food; adalwyd 15 Awst 2023

Dolenni allanol

golygu