Sophia Duleep Singh
Ffeminist a swffragét o Loegr oedd y Dywysoges Sophia Duleep Singh (8 Awst 1876 - 22 Awst 1948) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ymgyrchu dros bleidlais i ferched, hynny yw, etholfraint.
Sophia Duleep Singh | |
---|---|
Ganwyd | 8 Awst 1876 Elveden Hall |
Bu farw | 22 Awst 1948 Tylers Green |
Man preswyl | Llundain |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | ymgyrchydd dros hawliau merched, swffragét, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Tad | Duleep Singh I |
Mam | Bamba Müller |
Ganed Sophia Alexandrovna Duleep Singh yn Elveden Hall, Suffolk ar 8 Awst 1876; bu farw yn Tylers Green.[1][2] Maharaja Duleep Singh oedd ei thad, ac fe ddihangodd o'r Ymerodraeth Sikhaidd i Raj Prydeinig pan oedd yn bymtheg oed. Mam Sophia oedd Bamba Müller, a'i mam-gu oedd y Frenhines Victoria. Roedd ganddi bedair chwaer, gan gynnwys dwy hanner-chwaer, a phedwar brawd. Roedd hi'n byw yn Hampton Court mewn fflat yn Faraday House a roddwyd iddi gan y Frenhines Victoria yn anrheg.[3][4][5][6][7][8][9]
Yn ystod yr 20g gynnar, roedd Singh yn un o nifer o fenywod Indiaidd a arloesodd drwy ymgyrchu dros hawliau menywod yng ngwledydd Prydain. Er ei bod yn cael ei chofio orau am ei rôl arweiniol yng Nghynghrair Atal Talu Treth Treth Menywod (sef: Women's Tax Resistance League), cymerodd ran hefyd mewn grwpiau eraill a oedd yn ymwneud ag etholfraint menywod, gan gynnwys Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (Women's Social and Political Union). [10][11]
Ar ôl cyfnod o afiechyd, bu farw ei thad mewn gwesty amheus ym Mharis ar 22 Hydref 1893 yn 55 oed. Etifeddodd gyfoeth sylweddol gan ei thad pan fu farw yn 1893.[12][9]
Ymgyrchu
golyguEr mai prif ddiddordeb Singh oedd ymgyrchu dros hawliau menywod yn Lloegr, roedd hi a'i chyd-swffragetiaid hefyd yn hyrwyddo gweithgareddau tebyg yn India a mannau eraill. Roedd yn gwerthfawrogi ei threftadaeth Indiaidd, ond nid oedd yn rhwym wrth deyrngarwch i un genedl ac roedd yn cefnogi achos y menywod mewn sawl gwlad. Roedd ei theitl, "Tywysoges", yn ddefnyddiol. Gwerthai Singh bapur newydd swffragét y tu allan i Balas Hampton Court, lle'r oedd y Frenhines Victoria wedi caniatáu i'w theulu fyw.[13]
Aeth Singh, Emmeline Pankhurst a grŵp o weithredwyr i Dŷ'r Cyffredin ar 18 Tachwedd 1910, gan obeithio cyfarfod gyda'r Prif Weinidog. Gorchmynnodd yr Ysgrifennydd Cartref eu diarddel oddi yno, a chafodd llawer o'r merched eu hanafu'n ddifrifol. Daeth y digwyddiad yn adnabyddus fel "Y Dydd Gwener Du".
Ceir llun ohoni ar stamp post, mewn cyfres o stampiau "Votes for Women", a gyhoeddwyd ar 15 Chwefror 2018.[14][15][16]
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Urdd y Merched dros Atal Talu'r Dreth ac Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Princess Sophia Duleep Singh – Timeline". History Heroes organization. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-25. Cyrchwyd 2019-04-16.
- ↑ "As UK General Election drama unfolds, writer recalls Indian princess-turned suffragette". Asia House Organization. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-04. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2016.
- ↑ Dyddiad geni: "Sophia Alexandra Duleep Singh". The Peerage. Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Sophia Alexandra Duleep Singh". The Peerage. Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Tad: Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Mam: Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ "Maharani Bamba Duleep Singh". DuleepSingh.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Medi 2013. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ 9.0 9.1 Anand, Anita (14 Ionawr 2015). "Sophia, the suffragette". The Hindu.
- ↑ Galwedigaeth: Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Aelodaeth: Oxford Dictionary of National Biography. Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Ahmed & Mukherjee 2011, t. 171.
- ↑ Suffragette Sophia Duleep Singh Archifwyd 2019-03-18 yn y Peiriant Wayback, 1910, British Library, retrieved 13 Chwefror 2015
- ↑ "Historic statue of suffragist leader Millicent Fawcett unveiled in Parliament Square". Gov.uk. 24 April 2018. Cyrchwyd 24 April 2018.
- ↑ Topping, Alexandra (24 April 2018). "First statue of a woman in Parliament Square unveiled". The Guardian. Cyrchwyd 24 April 2018.
- ↑ "Millicent Fawcett statue unveiling: the women and men whose names will be on the plinth". iNews. Cyrchwyd 2018-04-25.