Sbeis
Darnau o blanhigion sydd ddim yn berlysieuyn a ddefnyddir i roi blas i fwyd yw sbeisys (ar ôl y diffiniad hwn nid yw halen yn sbeis, ond mae rhai bobl yn meddwl fod sbeisys yn cynnwys mwynau a phopeth arall sydd yn rhoi blas i fwyd).
Yn ystod y Canol Oesoedd a'r Cyfnod Modern Cynnar roedd sbeisys yn nwyddau mor bwysig ag yw olew heddiw. Ar wahân i roi blas i fwyd roedden nhw'n cael eu defnyddio i gyffeithio bwyd ac i gynhyrchu moddion. O ganlyniad roedd masnach sbeisys—yn bennaf ar gyfer y rhai oedd yn dod o Asia—yn bwysig iawn, i'r gwledydd Arabaidd yn y dechrau, wedyn i ddinas-wladwriaethau yr Eidal (e.e. Fenis) ac i'r Ymerodraethau Ewropeaidd. Dechreuodd Oes y Darganfyddiadau yn y bedwaredd ganrif ar ddeg gan chwilio am ffordd ar hyd y môr i'r ynysoedd o ble roedd y sbeisys yn ddod.
Heddiw, y sbeisys mwyaf ddrud yw saffrwm, fanila a chardamom.