Spillers Records neu Recordiau Spillers, a sefydlwyd yn 1894, yw'r siop recordiau hynaf yn y byd,[1] ac wedi ei leoli yng Nghaerdydd. Yn ogystal â gwerthu cerddoriaeth mae'r siop yn brif leoliad ar gyfer gwerthu tocynnau i gyngherddau cerddoriaeth amgen.

Spillers Records
Mathsiop recordiau, busnes Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1894 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadArcêd Morgan Edit this on Wikidata
SirCaerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.47879°N 3.17707°W Edit this on Wikidata
Map

Hanes cynnar golygu

Sefydlwyd Spillers yn 1894 gan Henry Spiller yn ei leoliad gwreiddiol yn Arcêd y Frenhines, lle'r oedd y siop yn arbenigo mewn gwerthu ffonograffau, silindrau cwyr a disgiau sielac. Yn y 1920au cynnar, pasiodd Spiller reolaeth o'r busnes i'w fab Edward a gyda chefnogaeth yr arweinydd band a chanwr acordion poblogaidd Joe Gregory, gwerthwyd offerynnau yn ogystal â cherddoriaeth ar record. Yn y 1940au symudodd Henry'r siop rownd y gornel i adeilad mwy ar yr Aes.

Perchnogaeth newydd golygu

Yn y 1970au roedd Nick Todd yn DJ a chwsmer rheolaidd yn y siop a daeth yn rheolwr y siop yn Ionawr 1975 cyn prynu'r busnes yn 1986. Yn 2006 roedd Todd yn bwriadu gwerthu'r busnes fel rhan o setliad ar ôl ysgaru.[2] Ar yr un pryd roedd ardal yr Aes yn cael ei ail-ddatblygu a roedd landlord safle'r siop, Helical Bar am gynyddu rhent yr adeilad. Cychwynnwyd ymgyrch leol i achub y siop, yn cynnwys deiseb gan Owen John Thomas (Aelod Cynulliad dros Ranbarth De Cymru ar y pryd), a fe'i cefnogwyd gan aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, y Manic Street Preachers a Columbia Records.[3]

Yn Rhagfyr 2009 daeth les y siop i ben unwaith eto a roedd perchennog yr adeilad yn gofyn am godiad rhent. Gan nad oedd y siop yn gallu fforddio talu y rhent uwch, fe roddwyd cyfnod o 6 mis i'r siop ddod o hyd i leoliad newydd.[4] Caewyd yr hen siop yn Mehefin 2010 ac yn Gorffennaf, symudodd Spillers i safle newydd yn Arcêd Morgan gerllaw, am gyfnod prawf i ddechrau i gael gweld os fyddai'n llwyddiannus. Fe basiodd Nick yr awenau i'w ferch Ashli sydd nawr yn berchen y busnes ynghyd a'i chwaer Grace.[5]

 
Y siop yn ei ail leoliad yn yr Aes (llun o 2007)
Y siop yn ei ail leoliad yn yr Aes (llun o 2007) 
 
Y siop yn Arcêd Morgan (llun o 2012)
Y siop yn Arcêd Morgan (llun o 2012) 

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Oldest shop selling records. guinnessworldrecords.com. Guinness. Adalwyd ar 25 Mawrth 2016.
  2. 'Oldest record shop' up for sale (en) , BBC News, 19 Awst 2006. Cyrchwyd ar 25 Mawrth 2016.
  3. Rhodri Clark. Manics back 'oldest record shop' (en) , WalesOnline, 18 Tachwedd 2006. Cyrchwyd ar 25 Mawrch 2016.
  4. James McCarthy. Is it all over for Spillers, the world's oldest record shop? (en) , WalesOnline, 18 Mai 2010. Cyrchwyd ar 25 Mawrth 2016.
  5. World's Oldest record shop ready for move" (en) , BBC News, BBC, 25 Mehefin 2010. Cyrchwyd ar 25 Mawrth 2016.

Dolenni allanol golygu