Stadiwm Al Thumama
Stadiwm pêl-droed yn Al Thumama, Qatar yw Stadiwm Al-Thumama (Arabeg: ملعب الثمامة Malʿab ath-Thumāma). Bydd gemau Cwpan y Byd FIFA 2022 yn cael eu cynnal yn y stadiwm. [1]
Math | stadiwm, association football pitch |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Al Thumama |
Sir | Doha |
Gwlad | Qatar |
Cyfesurynnau | 25.235°N 51.532°E |
Adeiladu ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022
golyguMae Stadiwm Al Thumama yn un o wyth stadiwm, sydd wedi eu hadeiladu ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar. [2] Prif Bensaer y Biwro Peirianneg Arabaidd, sef Ibrahim Jaidah, sy'n gyfrifol am y cynllun pensaernïol, [3] [4] ac fe'i hysbrydolwyd gan y taqiyah, sef cap traddodiadol sy'n cael ei wisgo gan fechgyn a dynion yn aml yn rhan o arfer crefyddol. [5] [6] [7] Mae wedi'i leoli ger Maes Awyr Rhyngwladol Hamad gyda pharc cyhoeddus 50,000 metr sgwâr o'i amgylch, [8] ac mae 40,000 o seddi yn y stadiwm. [9] Yn dilyn Cwpan y Byd FIFA 2022, bydd hanner seddi’r stadiwm yn cael eu tynnu oddi yno ac yn cael eu rhoi i wledydd eraill. [10] [11] Agorodd y stadiwm ar 22 Hydref 2021. [6] [12]
Mae adeiladu Stadiwm Al Thumama, ynghyd â stadia eraill a adeiladwyd ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022, wedi cael ei gondemnio gan nifer o sefydliadau sy'n gwarchod hawliau dynol gan gynnwys Amnest Rhyngwladol. [13] Ym mis Hydref 2019, cyhoeddodd llywodraeth Qatar ddiwygiadau a sefydlu isafswm cyflog ar gyfer holl weithwyr mudol y wlad gan ganiatáu iddynt newid neu adael eu swyddi heb ganiatâd cyflogwr. Fodd bynnag, mae'n ymddangos y bydd elfennau eraill o'r system a all adael cyflogwyr â rhywfaint o reolaeth dros eu gweithwyr yn aros. [14] Roedd FIFA, fel corff llywodraethu Cwpan y Byd 2022 yn gyfrifol am faterion hawliau gweithwyr yn ymwneud â'r gystadleuaeth yn y wlad sy'n cynnal y gystadleuaeth, ac mewn ymateb i hyn dywedodd FIFA “Trwy ein gwaith i amddiffyn hawliau gweithwyr Cwpan y Byd FIFA yn Qatar, mae FIFA a’r Goruchaf Bwyllgor yn ymwybodol o bwysigrwydd mesurau diogelu cyflogau yn y wlad a dyma pam rydym wedi rhoi systemau cadarn ar waith i atal camdrin cyflogau ar safleoedd Cwpan y Byd FIFA”. [15]
Hanes
golyguDigwyddodd urddo'r stadiwm ar Hydref 22, 2021, ar achlysur Rownd Derfynol Cwpan Emir . [16]
Cynhaliwyd chwe gêm yn y stadiwm yn ystod twrnamaint Cwpan Arabaidd FIFA 2021, gan gynnwys gêm gynderfynol [17] rhwng Qatar ac Algeria . [18]
Cwpan Arabaidd FIFA 2021
golyguDyddiad | Tîm #1 | Canlyniad | Tîm #2 | Rownd |
---|---|---|---|---|
1 Rhagfyr 2021 | Yr Aifft | 1–0 | Libanus | Grŵp D |
3 Rhagfyr 2021 | Bahrain | 0–0 | Irac | Grŵp A |
6 Rhagfyr 2021 | Tiwnisia | 1–0 | Emiradau Arabaidd Unedig | Grŵp B |
7 Rhagfyr 2021 | Moroco | 1–0 | Sawdi Arabia | Grŵp C |
11 Rhagfyr 2021 | Moroco | 3–5 | Algeria | Rownd yr wyth olaf |
15 Rhagfyr 2021 | Qatar | 0–1 | Algeria | Rownd cynderfynol |
Cwpan y Byd FIFA 2022
golyguBydd wyth gêm yn eu cynnal yn Stadiwm Al Thumama yn ystod Cwpan y Byd FIFA 2022. [19]
Dyddiad | Tîm Rhif 1 | Canlyniad | Tîm Rhif 2 | Rownd | Presenoldeb |
---|---|---|---|---|---|
21 Tachwedd 2022 | Senegal | - | Yr Iseldiroedd | Grŵp A | |
23 Tachwedd 2022 | Sbaen | - | Costa Rica | Grŵp E | |
25 Tachwedd 2022 | Qatar | - | Senegal | Grŵp A | |
27 Tachwedd 2022 | Gwlad Belg | - | Moroco | Grŵp F | |
29 Tachwedd 2022 | Iran | - | Unol Daleithiau America | Grŵp B | |
1 Rhagfyr 2022 | Canada | - | Moroco | Grŵp F | |
4 Rhagfyr 2022 | Enillwyr Grŵp D | - | Ail safle Grŵp C | Rownd 16 | |
10 Rhagfyr 2022 | Enillwyr Gêm 55 | - | Enillwyr Gêm 56 | Rownd yr wyth olaf |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Six facts about Al Thumama Stadium". qatar2022.qa. 20 August 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-22. Cyrchwyd 11 February 2022.
- ↑ "FIFA World Cup Qatar 2022". fifa.com. Cyrchwyd 24 September 2021.
- ↑ "Sixth stadium announced for Qatar World Cup 2022". Construction Global. 21 August 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-12-23. Cyrchwyd 17 December 2020.
- ↑ "Qatar 2022 stadiums continue to take shape despite pandemic". thepeninsulaqatar.com. 27 October 2021. Cyrchwyd 16 December 2021.
- ↑ "Get To Know The 2022 Qatar World Cup Stadiums". archdaily.com. 2 August 2018. Cyrchwyd 11 February 2022.
- ↑ 6.0 6.1 "Al Thumama Stadium nearing completion". gulf-times.com. 14 November 2020. Cyrchwyd 18 December 2020.
- ↑ "Qatar and Turkey join forces 'in harmony' to build Al Thumama Stadium". thepeninsulaqatar.com. 1 November 2021. Cyrchwyd 16 December 2021.
- ↑ "Qatar reveals Al Thumama Stadium update". timeoutdoha.com. 14 September 2020. Cyrchwyd 17 December 2020.
- ↑ "Qatar 2022: Football World Cup stadiums at a glance". aljazeera.com. 18 December 2020. Cyrchwyd 16 December 2021.
- ↑ "Al Thumama stadium making progress ahead of World Cup". en.as.com. 13 November 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-17. Cyrchwyd 8 December 2021.
- ↑ "Al Thumama Stadium takes shape". thepeninsulaqatar.com. 12 November 2019. Cyrchwyd 8 December 2021.
- ↑ "Get To Know The 2022 Qatar World Cup Stadiums". archdaily.com. 20 August 2018. Cyrchwyd 18 December 2020.
- ↑ "Qatar: "In the prime of their lives": Qatar's failure to investigate, remedy and prevent migrant workers' deaths". amnesty.org. 26 August 2021. Cyrchwyd 11 February 2022.
- ↑ "Qatar: Little Progress on Protecting Migrant Workers". Human Rights Watch (yn Saesneg). 2020-08-24. Cyrchwyd 2022-09-27.
- ↑ "Qatar 2022 organiser launches Workers' Welfare website". Business & Human Rights Resource Centre (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-27.
- ↑ "Al Thumama Stadium - When will the sixth Qatar 2022 World Cup venue be inaugurated?". goal.com. 21 September 2021. Cyrchwyd 24 September 2021.
- ↑ "2021 FIFA Arab Cup: Participating teams, fixtures and all you need to know". goal.com. 18 December 2021. Cyrchwyd 3 May 2022.
- ↑ "Algeria edge Morocco in penalty thriller to set up Qatar semi-final". thepeninsulaqatar.com. 12 December 2021. Cyrchwyd 11 February 2022.
- ↑ "Al Thumama Stadium design looks like a gahfiya reserved for FIFA World Cup 2022". Footballcoal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-11-01. Cyrchwyd 30 April 2022.