Staphylococcus aureus ymwrthiol i fethisilin
Methicillin-resistant Staphylococcus aureus | |
---|---|
Sgan electron micrograff | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Parth: | Bacteria |
Teyrnas: | Eubacteria |
Ffylwm: | Firmicutes |
Dosbarth: | |
Urdd: | Bacillales |
Teulu: | Staphylococcaceae |
Genws: | Staphylococcus |
Rhywogaeth: | S. aureus |
Enw deuenwol | |
Staphylococcus aureus |
Enghraifft o'r canlynol | bacteria strain |
---|---|
Math | Staphylococcus aureus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Math o Staphylococcus aureus sydd yn ymwrthiol i fethisilin yw Staphylococcus aureus ymwrthiol i fethisilin (MRSA). Gelwir MRSA hefyd y siwperbyg, mae SA yn facteriwm o'r teulu Staphylococcus aureus. Mae Staphylococcus aureus yn byw ar arwyneb croen un o bob tri unigolyn neu yn eu trwyn. Gall unigolion fod yn rhydd o symptomau - hynny yw mae'n nhw'n gludyddion heb ddatblygu haint. Os yw SA'n mynd i mewn i'r corff drwy doriad yn y croen, gall heintiau fel cornwydydd a chrawniadau ddatblygu. Os yw SA'n mynd i mewn i lif y gwaed drwy lawdriniaeth neu doriadau mawr yn y croen yna gall heintiau mwy difrifol ddigwydd.
Achosion
golyguNi fydd MRSA fel rheol yn heintio person iach. Er ei bod yn bosibl i bobl y tu allan i ysbyty gael eu heintio, mae heintiau MRSA yn fwyaf cyffredin mewn pobl sydd yn yr ysbyty yn barod. Y rhai sydd fwyaf mewn perygl yw pobl sydd:
- â system imiwnedd wedi'i gwanhau, fel yr henoed, babanod newydd-anedig, neu bobl gyda chyflwr iechyd tymor hir fel diabetes,
- â chlwyf agored,
- â chathetr (tiwb plastig wedi'i fewnosod yn y corff i ddraenio hylif) neu ddiferiad mewnwythïennol,
- â llosgiad neu doriad ar eu croen,
- â chyflwr croen difrifol fel briw ar y goes neu psorïasis,
- wedi cael llawdriniaeth yn ddiweddar, neu
- yn gorfod cymryd sawl cwrs o wrthfiotigau.
Sut mae'n ymledu
golyguFel rheol mae bacteria MRSA yn ymledu drwy gysylltiad croen â chroen gyda rhywun sydd â haint MRSA neu sydd wedi'u cytrefu gan y bacteria. Gall y bacteria hefyd ymledu drwy gysylltiad â thywelion, cynfasau, dillad, gorchuddion neu wrthrychau eraill sydd wedi cael eu defnyddio gan rywun sydd wedi'u cytrefu neu eu heintio gan MRSA.
Yn ystod gwneud gwelyau, er enghraifft, gall cennau o groen gan berson wedi'i heintio neu gytrefu ymledu yn yr aer a llygru arwynebau cyfagos.
Gall MRSA bara'n fyw am gyfnodau hir ar wrthrychau neu arwynebau fel handlenni drysau, sinciau, lloriau ac offer glanhau. Caiff haint SA ei drin yn gyffredinol gyda methisilin, math o benisilin. Mae SA yn dod yn fwyfwy ymwrthiol i'r gwrthfiotigau a ddefnyddir yn fwyaf aml.
Sut mae ymwrthedd yn digwydd
golyguMae ymwrthedd i wrthfiotigau yn enyn etifeddol yn y DNA bacteriol. Mae'n ymgodi i gychwyn drwy newid yn y DNA (mwtaniad) mewn un gell facteriol. Yna mae'r gell hon yn fwy ymwrthiol i'r gwrthfiotig na phob un arall. (Nid yw ymwrthiol fel rheol yn golygu na chaiff ei effeithio gan y driniaeth, ond ei bod yn cymryd yn hirach i'r driniaeth ladd y bacteriwm.) Gall y gell hon oroesi cwrs o driniaeth, yn enwedig os nad yw rhywun yn gorffen y cwrs yn iawn. Mae'r gell hon yn mynd yn ei blaen i atgynhyrchu a chreu teulu (rhywogaeth) o facteria sy'n fwy anodd eu trin - os digwydd y broses hon nifer o weithiau i deulu o facteria, gallwn gael rhywogaeth o facteria sydd mor ymwrthiol fel bydd gwrthfiotig penodol yn mynd yn aneffeithiol yn trin yr haint. Mae bacteria MRSA yn rhywogaeth o'r bacteria SA sydd wedi mynd yn ymwrthiol i fethisilin a rhai o'r gwrthfiotigau cyffredin eraill. Nid yw MRSA yn fwy heintus na mathau eraill o facteria SA; mae'n fwy anodd ei drin oherwydd ei fod yn ymwrthiol i rai gwrthfiotigau. Mae'n rhaid defnyddio dosiau uwch a/neu wrthfiotig nad yw ymwrthedd wedi datblygu iddo eto.
Symptomau
golyguBydd symptomau haint MRSA yn dibynnu ar ba ran o'r corff sydd wedi'i heintio. Gall MRSA heintio amrediad o feinweoedd ac organau'r corff. Mae'r rhan fwyaf o heintiau SA yn heintiau croen, yn cynnwys:
- haint y ffoliglau blew (cornwydydd)
- pocedi o grawn o dan y croen (crawniadau)
- haint chwarennau'r amrant (llefelod)
- haint croen tra ymledol sy'n cynhyrchu pothelli (impetigo)
Fel rheol mae clwyf sydd wedi'i heintio gan MRSA yn llidus, wedi chwyddo ac yn dyner i’r cyffyrddiad, a gallai fod crawn yn tryddiferu oddi wrtho. Os yw MRSA yn mynd i mewn i lif y gwaed, gall y symptomau fynd yn llawer mwy difrifol a bygwth bywyd. Mae'r hyn sy'n cychwyn fel gwenwyniad gwaed (septicaemia), yn gallu troi'n sioc septig, a all achosi gostyngiad ym mhwysedd y gwaed a methiant organau. Gall heintiau sy'n bygwth bywyd ddatblygu yn y meinweoedd a'r organau eraill yn ddwfn yn y corff.
Diagnosis
golyguGellir profi samplau o waed, troeth neu feinwe am bresenoldeb MRSA. Yna cynhelir profion ychwanegol i benderfynu pa wrthfiotigau all fod yn effeithiol yn erbyn y rhywogaeth benodol a ganfuwyd. Erbyn hyn mae llawer o ysbytai yn profi pawb sy'n cael eu derbyn i weld os ydynt wedi'u cytrefu gan MRSA. Gellir profi swabiau o'r croen a'r trwyn a samplau o droeth a gwaed am y bacteria. Caiff person sydd wedi'i gytrefu gan MRSA ei dderbyn beth bynnag, ond gallai'r meddygon roi triniaeth i leihau neu waredu'r bacteria MRSA. Gall cleifion gael eu rhoi mewn cwarantin (eu harunigo mewn ystafell neu ward arbennig wedi'i neilltuo ar gyfer cleifion MRSA) er mwyn atal yr MRSA rhag ymledu. Bydd angen parhau â'r driniaeth am nifer o wythnosau gartref ar rai pobl. http://www.nhsdirect.nhs.uk/encyclopaedia/
Triniaeth
golyguGellir defnyddio gwrthfiotigau o hyd i drin MRSA, ond bydd angen dos llawer uwch dros gyfnod llawer hirach, neu driniaeth gyda gwrthfiotig nad yw'r bacteria'n ymwrthiol iddo. Gellir trin y rhan fwyaf o heintiau MRSA gan y gwrthfiotigau vancomycin neu linezolid, a roddir fel rheol drwy chwistrelliad neu'n fewnwythiennol (drwy diwb yn syth i'r wythïen).[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in:
|accessdate=
(help)