Stephanie Parker
Actores oedd Stephanie Parker (29 Mawrth 1987 – 18 Ebrill 2009), oedd yn fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Stacey Weaver ar gyfres deledu BBC Wales, Belonging, ers oedd yn 15. Ymddangosodd hefyd yn nghyfres Casualty a dramau BBC Radio 4.
Stephanie Parker | |
---|---|
Ganwyd | 29 Mawrth 1987 Brighton |
Bu farw | 18 Ebrill 2009 Pontypridd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor |
Ganwyd yn Brighton a symudodd i Gymru gyda'i rhieni i ardal Rhydyfelin pan oedd yn ei arddegau. Aeth i Ysgol Uwchradd Hawthorn ym Mhontypridd. Roedd hi'n byw yn Nhrefforest.[1]
Marwolaeth
golyguDarganfyddwyd ei chorff wedi ei chrogi ger Pontypridd am tua 6am ar 18 Ebrill 2009;[2] a credir ei fod yn achos o hunan-laddiad.[3] Roedd hi'n 22 mlwydd oed. Yn Rhagfyr 2009, clywodd y cwest fod Parker yn diodde o iselder, ers iddi ddechrau cael eu bwlio yn yr ysgol. Dywedodd y crwner fod hi'n bosib fod y weithred yn "alwad am gymorth" yn hytrach na ymdrech bwriadol i ladd ei hun. Cofnodwyd rheithfarn o farwolaeth trwy anffawd.[4]
Teledu
golygu- Belonging
- Casualty (2007)
- Doctors (2007)
- Doc Martin (2007)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Robin Turner. Welsh TV star Stephanie Parker found dead (en) , Wales Online, 20 Ebrill 2009. Cyrchwyd ar 27 Ionawr 2016.
- ↑ Belonging actress is found dead (en) , BBC News, 19 Ebrill 2009.
- ↑ Leigh Holmwood. Stephanie Parker, actor in Belonging, found hanged (en) , The Guardian, 20 Ebrill 2009.
- ↑ Actores wedi marw drwy anffawd (cy) , Newyddion BBC, 9 Rhagfyr 2009. Cyrchwyd ar 27 Ionawr 2016.
Dolenni allanol
golygu- Stephanie Parker ar wefan yr Internet Movie Database