Stephanus o Fysantiwm

(Ailgyfeiriad o Stephanus o Fysantium)

Ysgolhaig Groeg a daearyddwr Bysantaidd cynnar oedd Stephanus o Fysantiwm (fl. 500).

Roedd yn enwog fel awdur math o wyddoniadur daearyddiaeth mewn mwy na 50 o lyfrau. Roedd yn fath o gydymaith i ddaearyddiaeth y cyfnod a hanes a thraddodiadau'r Henfyd wedi'i lunio o waith dros gant o awduron clasurol, a oedd yn cynnwys yn ogystal nifer o nodiadau am fytholeg, traddodiadau a hanes dinasoedd ac ardaloedd. Gwnaeth hyn yn fanwl iawn gan ofalu cynnwys ei ffynonellau yn ddiffael.

Dim ond drylliau o'r gwaith gwreiddiol anferth sydd wedi goroesi, ynghyd â chrynodeb annigonol gan gramadegydd diweddarach o'r enw Hermolaus, ond mae'r hyn sydd wedi goroesi o werth mawr i haneswyr, er enghraifft am ei ddisgrifiad o Pharos Alecsandria yn Yr Aifft.

Ffynhonnell golygu

  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902)