Pharos Alecsandria
Goleudy enwog ar gopa dwyreiniol yr ynys fechan o'r un enw o flaen harbwr dinas Alecsandria yn yr Aifft ac un o Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd oedd Pharos Alecsandria.
Math | goleudy hynafol, cyn-adeilad, Rhyfeddod yr Henfyd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Pharos |
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Saith Rhyfeddod yr Henfyd |
Lleoliad | Pharos |
Sir | Alexandria |
Gwlad | Yr Aifft |
Gerllaw | Nile Delta, Y Môr Canoldir |
Cyfesurynnau | 31.21417°N 29.885°E |
Arddull pensaernïol | Hellenistic architecture |
Roedd yn dwr wedi ei wneud â blociau o farmor gwyn. Fe'i codwyd gan Sostratus o Cnidus yn 270 CC ar gyfer y brenin Ptolemi II Philadelphus. Gwariwyd 800 talent arian ar ei gyfer. Roedd yn codi fel pyramid ac iddo dri llawr (neu ragor), pob un yn llai na'r llall ac o siapiau gwahanol, y cyntaf yn siâp sgwâr, yr ail yn wythochrog, a'r olaf yn grwn. Fe'i addurnwyd â phileri ac orielau ysblennydd.
Ymddengys fod ei uchder o gwmpas 35m, ond mae rhai awduron diweddarach yn honni ei fod yn fwy o gryn dipyn, e.e. tua 1250m yn ôl Stephanus o Fysantium! Mae'r awdur Iddewig Josephus yn dweud fod twr Phasael yng Nghaersalem i'w gymharu â'r Pharos o ran ei uchder, sy'n rhoi uchder o tua 135 troedfedd (90 cubit) iddo.
Roedd y Pharos yn dal i sefyll mor ddiweddar â'r flwyddyn 1300. Yn ddiweddarach, mabwysiadwyd yr enw pharos ar gyfer pob goleudy arall yn yr Hen Fyd. Cododd y Rhufeiniaid nifer fawr ohonynt o gwmpas y Môr Canoldir, ond dim ond goleudy Ravenna a ddaeth yn agos i'r Pharos am ei uchder a'i ysblander.
Mae'r gair am 'oleudy' mewn sawl iaith Ewropeaidd yn deillio o'r gair pharos, e.e. phare (Ffrangeg) a faro (Portiwgaleg a Sbaeneg).
Ffynhonnell
golygu- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (argraffiad newydd, Llundain, 1902)