Gwleidydd o'r Alban yw Stewart Hosie (ganwyd 3 Ionawr 1963) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Ddwyrain Dundee; mae'r etholaeth yn Aberdeen a Swydd Aberdeen, yr Alban. Mae Stewart Hosie yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Stewart Hosie
Stewart Hosie


Cyfnod yn y swydd
14 Tachwedd 2014 – 13 Hydref 2016
Rhagflaenydd Iain Luke (Llafur)

Geni (1963-01-03) 3 Ionawr 1963 (61 oed)
Dundee (Dùn Dé), Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Dwyrain Dundee
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Priod Shona Robinson
Plant Un ferch
Alma mater Prifysgol Abertay
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan http://www.snp.org/

Un o Dundee ydy Hosie, ac i'r dref honno yr aeth i'r coleg i astudio cyfrifiadureg. Bu'n rhedeg cwmni cyfrifiadurol am 20 mlynedd.[1][1] O 1986-89 ef oedd AS cynta'r SNP i fod yn Drefnydd Ieuenctid (Youth Convener).[2] Bu'n Ysgrifennydd Cyffredinol y blaid am bedair mlynedd, cyn gael ei ethol i fod yn Drefnydd y Blaid yn 2003.[2]

Cafodd ei ethol i Senedd Prydain yn gyntaf yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005 yn etholaeth Dwyrain Dundee a bu'n Llefarydd dros Faterion Mewnol a Merched tan 2007. Ers hynny ef yw'r Llefarydd dros y Trysorlys, ac yn aelod o Brif Bwyllgor Trysorlys y Llywodraeth. Yn 2010 fe'i gwnaed yn Ddirprwy Arweinydd ac yn Brif Chwip yr SNP.[3]

Mae ei wraig Shona Robison yn Aelod o Senedd yr Alban dros Ddwyrain Dinas Dundee.

Etholiad 2015

golygu

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[4][5] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Stewart Hosie 28765 o bleidleisiau, sef 59.7% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 21.9 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 19162 pleidlais.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-08. Cyrchwyd 2015-07-05.
  2. 2.0 2.1 "Democracy Live - Your representatives - Stewart Hosie". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-01. Cyrchwyd 2015-07-05.
  3. "Stewart Hosie MP". UK Parliament.
  4. Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
  5. Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban