Stryd Lydan, y Drenewydd
Stryd hanesyddol yng nghanol y Drenewydd, Powys, Cymru, un o'r prif strydoedd masnachol yng nghanol y dref, gyda nifer o adeiladau rhestredig, yw Stryd Lydan (Saesneg: Broad Street).
Lleoliad
golyguMae Stryd Lydan yn rhedeg o'r de i'r gogledd yng nghanol y Drenewydd, o'r groesffordd gyda'r Stryd Fawr, Stryd Hafren a Stryd y Bont Fer i'r bont hir dros Afon Hafren.
Hanes
golyguMae Stryd Lydan wedi bod yn safle marchnad y dref ers yr Oesoedd Canol. Tan ganol y 19eg ganrif fe oedd neuadd farchnad yng nghanol y stryd [1] (mae neuadd farchnad yn sefyll bellach ar y Stryd Fawr).
Yn 1832, adeiladwyd yr hen Gyfnewidfa Wlanen ac Ystafelloedd Cynulliad (Saesneg: Flannel Exchange and Assembly Rooms) ar ôl cynllun gan Thomas Penson, mewn ymgais i gipio'r farchnad wlanen oddi ar y Trallwng. [2] Yn 1920, cafodd yr adeilad ei drawsnewid yn sinema. [2] Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg cynnar adeiladwyd gwesty'r Elephant & Castle gyferbyn â'r gyfnewidfa wlanen, ger y bont hir.
Cafodd Robert Owen ei eni mewn siop ar Stryd Lydan yn 1771. [3]
Disgrifiad
golyguYn ogystal â'r Stryd Fawr, mae Stryd Lydan yn un o brif strydoedd masnachol y dref, gyda nifer o siopau, tafarnau a bwytai. Mae'r rhan fwyaf o'i hadeiladau yn dyddio'n ôl i'r 19eg ganrif o leiaf, gyda rhai ohonyn nhw (er enghraifft gwesty'r Black Boy) hyd yn oed yn hyn na hyn. Mae adeiladau hanesyddol o bwys yn cynnwys:
- yr hen Gyfnewidfa Wlanen (heddiw Sinema'r Regent) ger y bont hir dros Afon Hafren
- gwesty'r Elephant & Castle gyferbyn â'r Sinema
- tafarndai'r Black Boy a Castle Vaults ar ochr orllewinol y stryd
- amgueddfa Robert Owen, ar y groesffordd gyda Stryd Hafren
Mae llawer o'r adeiladau hyn yn adeiladau rhestredig.
Mae mynedfa i ganolfan siopa 'Bear Lanes' ar Stryd Lydan hefyd. Mae'r ganolfan siopa wedi cael ei ymgorffori'n effeithiol i'r tirlun trefol, gyda ffasâd du a gwyn neo-Duduraidd.
Mae golygfa i'r gogledd, tuag at y faestref dros yr afon a'r bryniau o gwmpas y dref. Mae'r olygfa i'r de yn cael ei dominyddu gan adeiladau'r Cross (Saesneg: the Cross Buildings) ar gornel stryd Hafren a Stryd y Bont Fer.
-
Gwesty'r Elephant & Castle, Stryd Lydan, ger y bont hir dros
-
Amgueddfa Robert Owen, Y Groes, Stryd Lydan (gyffordd gyda Stryd Hafren)
-
Stryd Lydan, plac glas sy'n nodi man geni Robert Owen
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Victorian Newtown - Broad Street in 1846". history.powys.org.uk. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2023.
- ↑ 2.0 2.1 "Former Flannel Exchange and Assembly Rooms, Newtown and Llanllwchaiarn". British Listed Buildings. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2023.
- ↑ "A brief history: Newtown". Newtown.org.uk. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2023.