Stryt Henblas, Wrecsam

Stryd hanesyddol yn Wrecsam

Stryd fasnachol yng nghanol ddinas Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Stryt Henblas (“Henblas Street”).

Stryt Henblas
Mathstryd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadWrecsam Edit this on Wikidata
SirRhos-ddu Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.046117°N 2.992941°W Edit this on Wikidata
Map

Lleoliad

golygu

Mae Stryt Henblas yn cysylltu Stryt y Syfwr (“Queen Street”) â Stryt y Banc ("Bank Street") yng nghanol Wrecsam. Mae gan y stryd ddwy ran – un o Stryt y Syfwr tuag at gornel y Farchnad Gyffredinol ac arall sy'n parhau heibio'r Farchnad Gyffredinol hyd at Stryt y Banc, o flaen mynedfa gefn Marchnad y Cigyddion.

Mae Stryt Henblas yn eistedd yn hen ganol masnachol Wrecsam. Ymsefydlodd masnachwyr o ardaloedd gwahanol o Brydain yno, yn masnachu yn awyr agored o leoedd a ddaeth i gael eu hadnabod yn ddiweddarach fel Sgwâr Manceinion (“Manchester Square”) a Sgwâr Birmingham “Birmingham Square”). [1]

Yn y 19eg ganrif, codwyd adeiladau parhaol ar gyfer y masnachwyr. Yn 1879, ar safle Sgwâr Manceinion adeiladwyd y Farchnad Gyffredinol (“General Market”), sy'n dominyddu'r stryd o hyd. [2]

Yn 1873, codwyd Neuadd yr Undeb (“Union Hall”) i amnewid Sgwâr Birmingham (a ddaeth i gael eu hadnabod yn y cyfamser fel “Union Square”) ac i ddarparu cartref parhaol ar gyfer y masnachwyr. Codwyd yr adeilad ar safle wedi'i feddiannu yn ddiweddarach gan y theatr Hippodrome (mae'r safle yn wag bellach, ar ôl ddymchweliad y theatr yn 2009). Ar ôl rhai blynyddoed, daeth yr adeilad i gael ei adnabod fel y Neuadd Gyhoeddus (“Public Hall”) ac cafodd ei defnyddio ar gyfer digywddiadau cyhoeddus, gan gynnwys adloniant a ddramau. Yn 1907 llosgodd y Neuadd Gyhoeddus. Cafodd ei amnewid gan adeilad newydd, gafodd ei ail-enwi yn y theatr Hippodrome. [3] Yn ddiweddarach ddefnyddiwyd y theatr fel sinema, ond caeodd yn 1998. Cafodd yr adeilad ei dinistrio gan dân yn 2008 ac yn 2009 fe'i dymchwelwyd. [4]

Disgrifiad

golygu

Mae Stryt Henblas yn cael ei dominyddu o hyd gan y Farchnad Gyffredinol, sy'n sefyll ar ochr ddwyreiniol y stryd. Mae'r adeilad o frics coch Rhiwabon [5] wedi cadw ei ffurf wreiddiol.

Ar bwys Stryt y Syfwr, mae Stryt Henblas wedi colli ei chymeriad hanesyddol, gydag adeiladau modern ar ei hochr ogleddol (yr hen siop adrannol BHS) a safle wag ar ei hochr ddeheuol (safle'r hen theatr Hippodrome).

Mae'r stryd yn cwrdd â Stryt y Banc o flaen mynedfa gefn Marchnad y Cigyddion, sy'n adlewyrchu arddull pensaernïol y Farchnad Gyffredinol gyda ffasâd o frics coch.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Seal, Bobby (1 Mawrth 2020). "The Mystery of Manchester Square". Psychogeographic Review. Cyrchwyd 27 Hydref 2022.
  2. "General Market Building, Rhosddu, Wrexham". British Listed Buildings. Cyrchwyd 27 Hydref 2022.
  3. "New 'Steamer' engine averted major disaster when the Public Hall was gutted in 1907". Wrexham History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-09-28. Cyrchwyd 27 Hydref 2022.
  4. "Hippodrome Theatre, Henblas Street, Wrexham". Wrexham History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-11-29. Cyrchwyd 27 Hydref 2022.
  5. "Wrexham General Market - Coflein". Coflein. Cyrchwyd 27 Hydref 2022.