Styrsiwn
Llun y rhywogaeth
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Actinopterygii
Urdd: Acipenseriformes
Teulu: Acipenseridae
Genws: Acipenser
Rhywogaeth: A. sturio
Enw deuenwol
Acipenser sturio
Linnaeus 1758

Pysgodyn sy'n byw yn y môr ac mewn dŵr croyw ac sy'n perthyn i deulu'r Acipenseridae ydy'r styrsiwn sy'n enw gwrywaidd; lluosog: styrsiynod (Lladin: Acipenser sturio; Saesneg: European sea sturgeon).

Mae ei diriogaeth yn cynnwys Ewrop a Môr y Gogledd ac mae i'w ganfod ar adegau yn aberoedd ac arfordir Cymru.

Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Rhywogaeth mewn perygl difrifol' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth.[1]

Pysgota golygu

  • Un o enghreifftiau diweddaraf o stwrsiwn yn cael ei ddal yng Nghymru yw adroddiad am un a ddaliwyd oddiar Sir Benfro ym mis Medi 2013[2]
  • Pysgodyn Mawr:
”Dyma lun roddwyd i mi gan fy nhad, Eirian Davies gynt o Nantgaredig ger Caerfyrddin, yn dangos sturgeon a ddaliwyd yn yr afon Tywi tua ugeiniau'r ganrif ddiwethaf. Dywedodd dad fod cyfaill iddo wedi ei ddeffro yn gynnar un bore gan feddwl fod buwch wedi disgyn i'r afon ger pont Nantgaredig, gan fod trwst mawr i'w glywed. Nid buwch, ond sturgeon oedd wedi ei ddal mewn pwll ar gwr yr afon. Daliwyd y pysgodyn a'i gario i glos fferm Llandeilo Fawr gerllaw, lle tynnwyd y llun [1]. Disgrifiodd dad fel yr oedd yr wyau (caviar?) yn llifo o'r pysgodyn dros glos y ffarm fel llaid. Gan mai pysgodyn brenhinol yw'r sturgeon cyn hir daeth cert i gludo'r pysgodyn i'r orsaf i'w ddwyn gerbron y brenin yn Llundain. Beth amser wedyn derbynniodd fy nhadcu, David Davies o'r Llain, Nantgaredig, deligram brenhinol yn diolch am ymdrechion i arbed y pysgodyn mawr. Wedi darllen y teligram ac oedi tipyn, rholiodd dadcu y papur yn belen a'i daflu i lygad y tân.[3]
  • Daliwyd 9 stwrsiwn ym Môr y Gogledd rhwng 1852 a 1977 yn ôl y Sturgeon Alliance[4].

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan www.marinespecies.org adalwyd 4 Mai 2014
  2. Bwletin Llên Natur rhifyn 68
  3. Llun a hanes gan Guto Davies ym Mwletin Llên Natur rhifyn 69
  4. The Times 29 Rhagfyr 2020 tud. 17