Stadiwm chwaraeon yn ninas Dulyn yng Ngweriniaeth Iwerddon yw Parc Croke (Gwyddeleg: Páirc an Chrócaigh, Saesneg: Croke Park). Dyma yw prif stadiwm a phencadlys y Gymdeithas Athletau Gwyddelig.

Parc Croke
Mathstadiwm Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1884 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDulyn Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Cyfesurynnau53.3608°N 6.2513°W Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCymdeithas Athletau Gwyddelig Edit this on Wikidata
Parc Croke

Parc Croke yw'r stadiwm mwyaf yn Iwerddon, yn dal 83,700 o wylwyr. Tra roedd stadiwm Lansdowne Road ar gau i'w ail-adeiladu, defnyddiwyd Parc Croke fel cartref tîm pêl-droed Gweriniaeth Iwerddon a rygbi'r undeb Iwerddon.

Yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon yn erbyn Prydain, ar 21 Tachwedd, 1920, bu digwyddiad enwog ym Mharc Croke yn ystod gêm bêl-droed Wyddelig rhwng Dulyn a Tipperary. Daeth carfan o filwyr cynorthwyol Prydeinig (yr "auxies") i mewn i'r stadiwm a dechrau saethu at y dorf. Roedd hyn yn ddial am ladd nifer o swyddogion cudd Prydeinig gan wŷr Michael Collins yn gynharach y diwrnod hwnnw. Lladdwyd 14; 13 o wylwyr ac un o'r chwaraewyr, Michael Hogan. Enwyd eisteddle yn y stadiwm ar ôl Hogan.