Sun Yat-sen
Sylfaenydd Gweriniaeth Tsieina (1911-1928) oedd Sun Zhongshan 孫中山 neu Sun Yixian/Sun Yat-sen 孫逸仙 (12 Tachwedd 1866 – 22 Chwefror 1925) .
Sun Yat-sen | |
---|---|
Ganwyd | 12 Tachwedd 1866 Cuiheng |
Bu farw | 12 Mawrth 1925 o canser yr afu Ysbyty Coleg Meddygol Undeb Peking |
Man preswyl | San Francisco, Haxell's Hotel |
Dinasyddiaeth | Taiwan, Brenhinllin Qing |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, meddyg, athronydd |
Swydd | Extraordinary President of the Republic of China, Great President of the Republic of China |
Cyflogwr | |
Cartre'r teulu | Dongguan |
Plaid Wleidyddol | Kuomintang, Tongmenghui |
Tad | Sun Dacheng |
Mam | Madame Yang |
Priod | Lu Muzhen, Chen Cuifen, Haru Asada, Kaoru Otsuki, Soong Ching-ling |
Plant | Sun Fo, Sun Wan, Fumiko Miyagawa, Sun Yan |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod am Sefydliad Cenedlaethol |
llofnod | |
Delwedd:Signature of Sun Yat Sen - China Document - dark version.svg, The signature of Sun Yat-sun.svg |
Ganed ef ym mhentref Cuiheng, yn rhanbarth Guangdong. Astudiodd mewn ysgol genhadol a daeth yn Gristion. Yn ddiweddarach, aeth i Hawaï i astudio, gan ddychwelyd i Tsieina yn 1883. Aeth i Hong Kong i astudio meddygaeth, gan raddio yn 1892. Daeth i gredu fod yn rhaid i Tsieina foderneiddio, a dod yn weriniaeth, gan wneud i ffwrdd a’r ymerodraeth. Dychwelodd i Hawaii am gyfnod, a sefydlodd gymdeithas y Xingzhong Hui. Ar 29 Rhagfyr 1911, yng nghanol Chwyldro Xinhai, etholwyd Sun Yat-sen yn arlywydd Gweriniaeth Tsieina. Gorfodwyd yr ymerawdwr Xuantong i gyfyngu ei bwerau i’r Ddinas Waharddedig yn unig, gyda Sun yn rheoli’r wlad. Yn fuan wedyn, bu raid i Sun drosgwyddo swydd arlywydd i Yuan Shikai, yn rhannol oherwydd pwysau o du y fyddin, a symudodd i Japan. Dychwelodd yn 1916 wedi marwolaeth Yuan, ac yn 1917 daeth yn bennaeth Llywodraeth Filwrol Tsieina. Daeth yn gadeirydd y Kwomintang, a sefydlwyd yn 1919. Gyda chymorth yr Undeb Sofietaidd, llwyddodd i gipio de Tsieina o reolaeth yr arglwyddi rhyfel erbyn 1923.
Bu Sun farw yn sydyn yn 1925 yn Beijing, ac olynwyd ef gan Chiang Kai-shek. Claddwyd ef yn Nanking.