Super Furries, Prins Seeiso, Miss Siberia - A Fi

Hunangofiant Carl Clowes yw Super Furries, Prins Seeiso, Miss Siberia - A Fi a gyhoeddwyd yn 2016 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]

Super Furries, Prins Seeiso, Miss Siberia - A Fi
AwdurCarl Clowes
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi03/10/2016
ArgaeleddAr gael
ISBN9781784611576

Mae Carl Clowes yn adnabyddus yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am ei frwydrau dros yr iaith ac yn sylfaenydd Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn.

Daeth yn Gadeirydd sylfaenol Dolen Cymru, y mudiad fu'n gyfrifol am adeiladu pont rhwng Cymru a Lesotho ers 1985 y ddolen gyntaf o'i fath yn y byd. Bellach, mae'n Is-gennad Anrhydeddus Lesotho yng Nghymru. Yn Anrhydeddau 2012, cafodd O.B.E. am wasanaethau i'r gymuned ar Ynys Môn. Yn ymgyrchydd brwd yn erbyn Wylfa B a wedi llunio 'Maniffesto Môn – yn sicrhau gwaith cynaliadwy ar Ynys Môn'. Bu'n ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Maldwyn yn 1979, 1983 ac 1987. Mae'n falch iawn o'i deulu a'i blant -– mae dau ohonynt yn aelodau o grŵp y Super Furry Animals.


Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017