Susannah Jane Rankin
Gweinidog gyda'r Annibynwyr, cenhades, ieithydd a chyfieithydd o Gymru oedd Susannah Jane Rankin (26 Tachwedd 1897 – 24 Gorffennaf 1989).
Susannah Jane Rankin | |
---|---|
Ganwyd | 26 Tachwedd 1897 Sir Drefaldwyn |
Bu farw | 24 Gorffennaf 1989 Awstralia |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, cenhadwr, ieithydd |
Gwobr/au | MBE |
Susannah Jane oedd y pedwerydd o naw plentyn Frank a Jane Ellis o fferm Pengorffwysfa, ger Llanfyllin. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Llanfyllin, ac aeth yn ei blaen wedi hynny i astudio hanes ac athroniaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor. Aeth i Goleg Bala-Bangor wedi hynny ac, yn 1925, daeth yn y fenyw gyntaf i gael gradd B.D. o Brifysgol Cymru. Cafodd ei ordeinio yng Nghapel Pendref, Llanfyllin, yn Hydref 1925 a chafodd ei hanfon i Bapwa yn 1926 gan Gymdeithas Genhadol Llundain.
Wedi cyfnod o ddwy flynedd yn darlithio yn Saesneg yng Ngholeg Diwinyddol Lawes, aeth yn efengylydd i Boku Kapakapa yn 1928 a Saroa yn 1931. Priododd y Parchg Robert Rankin yn 1931 a phenodwyd hithau yn Athro ac yntau'n Brifathro Coleg Coffa Chalmers, pan gafodd y coleg hwnnw ei sefydlu yn 1957. Bu farw ei gŵr dair blynedd yn ddiweddarach a bu hithau'n Brifathro hyd nes ei hymddeoliad yn 1964.
Yn 1973, cafodd Susannah Rankin ei hanrhydeddu gan Brifysgol Cymru gyda gradd M.A. Er Anrhydedd am ei gwaith yn cyfieithu o'r Gymraeg a'r Saesneg i'r iaith Motw.
Bu farw yn Awstralia yng Ngorffennaf 1989, a chynhaliwyd gwasanaeth i ddiolch am ei bywyd yng Nghapel Pendref, Llanfyllin, ar 25 Tachwedd 1989.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gruffydd, Ioan Wyn. "RANKIN, SUSANNAH JANE". Y Bywgraffiadur Cymreig - Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 8 Mawrth 2019.